gan tafod_bach » Iau 14 Mai 2009 11:48 am
Fe fyddwn i'n awgrymu ffonio adran addysg gydol-oed prifysgol bangor, falle bod dosbarthiadau gyda nhw.
Un peth y galli di ei wneud, tra dy fod yn chwilio am ddosbarth, ydi gweithio ar ddysgu'r wyddor Syrilig. Mae'n cymryd tipyn o amser i arfer â hi, felly y mwyaf o waith ti'n roi mewn i adnabod, ynganu ac ysgrifennu'r llythrennau, y mwya hyderus fyddi di yn dy wersi. Alla i ddim pwysleisio hynny ddigon- wnes i ddim cael y gorau allan o lawer o fy nosbarthiadau i am fy mod yn dal i stryglo i adnabod y llythrennau, ar y pryd. Hefyd, jyst gwrando ar gerddoriaeth neu radio (neu opera!) rwsieg, i gael arfer gyda sain yr iaith yn ei chyd-destun.
Mae lot o lyfrau 'teach yourself' i gael, ond dim hyd y gwn i yn gymraeg. Mae rhai o'r llyfra saesneg yn hollol amhosibl eu dilyn heb phd mewn linguistics, ond mae'r llyfr 'Colloquial Russian' yn un da, sy'n dod gyda tapiau (CDs erbyn hyn, siwr o fod).
Fyddwn i'n argymell prynnu llyfr syml o ramadeg saesneg hefyd - un o'r pethau anoddaf i mi ar y dechrau oedd cofio ystyron y termau gramadegol saesneg, am fy mod wedi arfer dysgu ieithoedd yn yr ysgol trwy'r Gymraeg. Gobeithio fod hyn yn help!