Tudalen 1 o 1

Dysgu Rwsieg...

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 6:43 pm
gan hughesey2
Helo!
Mae gennai diddordeb mawr i ddysgu Rwsiaidd, gan gobeitho gallu siarad y iaith, i lefel rhesymol o leia, o fewn ryw dwy flynedd.
A oes unrhyw un yn gwybod am gyrsiau da yn lleol, h.y, ardal Gwynedd? Neu fuasa rhywun yn gallu argymell cwrs rhad i mi dros y we?
Diolch!

Re: Dysgu Rwsiaidd...

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 8:00 pm
gan Seonaidh/Sioni
Trwy gyfrwng y Gymraeg?

Re: Dysgu Rwsiaidd...

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 11:48 am
gan tafod_bach
Fe fyddwn i'n awgrymu ffonio adran addysg gydol-oed prifysgol bangor, falle bod dosbarthiadau gyda nhw.

Un peth y galli di ei wneud, tra dy fod yn chwilio am ddosbarth, ydi gweithio ar ddysgu'r wyddor Syrilig. Mae'n cymryd tipyn o amser i arfer â hi, felly y mwyaf o waith ti'n roi mewn i adnabod, ynganu ac ysgrifennu'r llythrennau, y mwya hyderus fyddi di yn dy wersi. Alla i ddim pwysleisio hynny ddigon- wnes i ddim cael y gorau allan o lawer o fy nosbarthiadau i am fy mod yn dal i stryglo i adnabod y llythrennau, ar y pryd. Hefyd, jyst gwrando ar gerddoriaeth neu radio (neu opera!) rwsieg, i gael arfer gyda sain yr iaith yn ei chyd-destun.

Mae lot o lyfrau 'teach yourself' i gael, ond dim hyd y gwn i yn gymraeg. Mae rhai o'r llyfra saesneg yn hollol amhosibl eu dilyn heb phd mewn linguistics, ond mae'r llyfr 'Colloquial Russian' yn un da, sy'n dod gyda tapiau (CDs erbyn hyn, siwr o fod).
Fyddwn i'n argymell prynnu llyfr syml o ramadeg saesneg hefyd - un o'r pethau anoddaf i mi ar y dechrau oedd cofio ystyron y termau gramadegol saesneg, am fy mod wedi arfer dysgu ieithoedd yn yr ysgol trwy'r Gymraeg. Gobeithio fod hyn yn help!

Re: Dysgu Rwsiaidd...

PostioPostiwyd: Sad 16 Mai 2009 1:04 pm
gan Kez
Ma'n siwr bysa'n bosibl i ddod o hyd i gyrsiau Rwsieg ar y we wrth gwglo, ond rhyfedd o fyd - mae geiriadur Rwsieg -Cymraeg/ Cymraeg-Rwsieg ar gael ar y we. Dyma'r hanes y tu ol iddo:

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3600000/newsid_3605700/3605702.stm

a dyma wefan y geiriadur:

http://www.cymraeg.ru/geiriadur/

Pob lwc.

Re: Dysgu Rwsieg...

PostioPostiwyd: Maw 19 Mai 2009 11:17 am
gan yavannadil
Приветствую! Русский - очень простой язык :)

Awdur http://www.cymraeg.ru ydw i. Os mae unryw cwestinau 'da chi, gofynnwch.

A chyda llaw, ewch o gwmpas siopau llyfrau Cymraeg yn Aberystwyth a gofynnwch gwerthwyr: Ydych chi'n siarad Rwsieg? (yng Nghymraeg).
Dw i'n meddwl, gallwch bod yn lwcus...

Re: Dysgu Rwsieg...

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 3:35 pm
gan hughesey2
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb, ni oeddwn yn ymwybodol o'r safle yma!
Спасибо!!