Tudalen 1 o 1

Trafodaeth - 14 Awst, Machynlleth

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 8:57 pm
gan HuwJones
I bawb sydd â diddordeb mewn ieithoedd a phobloedd ac eu lle yn y byd heddiw -
Cynhelir trafodaeth ar Ddydd Gwener 14 o Awst fel rhan o Wyl Victor Jara.
Mae croeso mawr i bawb i ddod ac i gymryd ran.

Mae nifer o siaradwyr diddorol - ac mae Llywodraeth Bolivia hyd yn oed wedi trefnu i anfon Llysgenad yr holl ffordd o Paris!

GWAHODDIAD
Fforwm America Ladin - Cymru
Diplamyddion blaenllaw yn ymweld â Machynlleth


Gwahoddir chi i fynychu digwyddiad pwysig am Gymru a'i lle yn y byd heddiw,
yn Y Tabernacl, Machynlleth, Dydd Gwener, 14th Awst, o 10.30 y bore ymlaen

Luzmila Carpio, Llysgennad Bolivia i Ffrainc ac arweinyddion gwleidyddol a chymdeithasol blaenllaw eraill mewn trafodaeth

Mae'ch barn chi'n holl bwysig yn y fforwm yma am adeiladu cenhedloedd newydd sy'n wirioneddol cynnwys diwylliannau cynhenid


Manylion: Machynlleth 702166 – info [at] elsuenoexiste.com