Tudalen 1 o 1

Y diwedd i'r unig bapur newyddion Gwyddeleg

PostioPostiwyd: Sul 05 Gor 2009 8:22 pm
gan pigynclust

Re: Y diwedd i'r unig bapur newyddion Gwyddeleg

PostioPostiwyd: Sul 16 Awst 2009 4:02 am
gan Gwenci Ddrwg
Oes gan rhywun gyfiethiad dealladwy?

Re: Y diwedd i'r unig bapur newyddion Gwyddeleg

PostioPostiwyd: Sul 16 Awst 2009 12:57 pm
gan adamjones416
Mewn ymatebiad i'r cyhoeddiad gan Móinéar Teo, cyhoeddwyr y papur Wyddelig Foinse, y byddant yn stopio cyhoeddi'r papur o yfory ymlaen a bydd deg swydd llawn amser yn cael ei cholli. Mae Prif Gweinyddwr Foras na Gaeilge, Ferdie Mac an Fhailigh wedi dweud ei bod e " Wedi cael sioc wrth glywed y cyhoeddiad y prynhawn yma, Ar rhan Bwrdd Foras Na Gaeilge a'r gweinyddwr, Hoffwn fynegi ein siom yn enwedig gan bod trafodaethau yn dal i fynd ymlaen rhwng y partïon

Mae Foras Na Gaeilge o'r barn fod Móinéar Teo yn fusnes ddilys, sydd wedi ennill elw o dros 618, 000 o ewro ar ddechrau'r blwyddyn yma, a mae'u cyfrifon sydd wedi cael ei cyhoeddi yn dangos bod elw parhaol wedi bod dros y pedwar mlynedd diwethaf.

Mae Foras Na Gaeilge wedi cynnig cytundeb newydd i Móinéar Teo , a oedd yn cynnwys cynydd o 16.3% yn eu cyllideb, sydd yn dod a'r cyllideb flynyddol at 344,000 neu 1.42 miliwn ewro dros dymor 4 blwyddyn i barhau i gyhoeddi'r papur.

Mae Foras na Gaeilge yn difaru bod Móinéar Teo , wedi penderfynu i stopio cyhoeddi'r papur, ac yn enwedig y colled o ddeg swydd.

Mae Foras na Gaeilge yn credu'n gryf fod 'na alw dros bapur wythnosol Gwyddelig a byddant yn awr yn rhoi'r cytundeb i dendr cyhoeddus unwaith eto, Mae Foras na Gaeilge wedi derbyn lot o ddiddordeb yn barod yn y cytundeb newydd y maent yn cynnig.