Tudalen 1 o 1

Gwrthod gwaith i ferch a'r Aeleg anghywir

PostioPostiwyd: Sad 05 Medi 2009 2:19 pm
gan Ar Roue
Gwrthododd yr awdurdodau Ewropeaidd gyflogi merch i swydd yn yr Eidal pan ddatganwyd mai’r Aeleg ac nid y Wyddeleg a siaradai.

Mae’r Aeleg a’r Gymraeg yn ieithoedd cyd-swyddogol yn y Cymuned Ewropeaidd onid ddylent ymddangos ar yr ieithoedd cyflogaeth yr undeb.

Beth gellir wneud am y peth?

http://www.pressandjournal.co.uk/Articl ... 5?UserKey=

Re: Gwrthod gwaith i ferch a'r Aeleg anghywir

PostioPostiwyd: Sad 05 Medi 2009 9:56 pm
gan Seonaidh/Sioni
Dw i wedi sgwennu am hyn at fy ASE yn mynnu hawliau swyddogol yn yr UE am ieithoedd sy'n swyddogol mewn rhannau o wledydd yn yr UE (e.e. Gaeleg, Cymraeg, Cataloneg, Euskara, Fflemeg ac ati).