Tudalen 1 o 2

Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Iau 17 Rhag 2009 11:17 pm
gan Seonaidh/Sioni
Dyma ichi gynhorydd yng Nghaithness yn ymosod ar yr Aeleg yn y John O'Groat Journal.

A dyma un o'r sylwadau ar be mae o'n deud:-
rhyw wanciwr a ddywedodd:Got to support Mr Rosie here... this type of approach to trying to promote a dead language is ridiculous. Who wants TV licences sent in two languages wasting paper? Who wants these ridiculous two-language signs which are a massive danger on our roads? If someone wants to read Gaelic well and good but get rid of the nonsense; Gaelic will never be a front line language in the same way that Welsh and Cornish will never be more than an interesting historical pastime.

Faodaidh tu do bheachd fhèin a thoirt don John O'Groat Journal - Gelli di roi dy farn hun i'r papur:-
http://www.johnogroat-journal.co.uk/news/fullstory.php/aid/7647/Anger_over_Gaelic_prejudice_jibe.html

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Iau 17 Rhag 2009 11:40 pm
gan Duw
Same old, same old Sioni. :rolio:

Stim ddysg i'r idiots 'ma. Er ydy cyflwyno Gaeleg i'r pobol yma'n addas? Falle os oedd yr awdurdode'n dweud nid ydych yn HAEDDU'r Gaeleg pan fod pawb arall yn yr Alban yn derbyn hwn a'r llall - bydde digon 'da nhw i'w ddweud.

Hoffi'r "I'm not against Gaelic, but..." = "I'm not a racist, but..."

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Gwe 18 Rhag 2009 10:15 pm
gan Doctor Sanchez
Diom byd newydd. Mae rhai pobl mor ignorant dydyn nhw ddim yn gweld heibio 'The good auld days of the Empire', sef mewn gwirionedd concro, colbio a repio gwledydd dros y byd, o dan y masg o wareiddio. Mae nhw'n hollol ignorant o unrhyw iaith heblaw Saesneg, yn enwedig ieithoedd lleiafrifol yn eu gwlad eu hunain. Mae rhywun sydd yn siarad Cymraeg, Gaeleg, Cernyweg, Manaweg etc yn wastio'u hamser. Y linell dwi wedi clywed gen amryw (yn cynnwys hwntws di Gymraeg pan o'n i'n coleg) oedd "Why are you wasting your time speaking that silly little language." ac wrth gwrs "You only speak Welsh when the English are within ear shot"

Mae'n nhw'n siarad yr un cachu pan mae nhw'n cwyno eu bod nhw'n talu am S4C. Y peth sydd rhaid pwyntio allan i'r lemons yma ydi ein bod ninnau fel Cymru hefyd yn talu am bethau yn Lloegr. Mae'r teulu brenhinol, y London Underground a'r Olympics yn dri peth amlwg. Sa ffyc ots gin i gal gwarad ar y tri eitem yma sy'n costio dipyn yn fwy na gwasanaeth Gaeleg a Chymraeg y BBC neu arwyddion dwy ieithog. Tria di ddeud hyn wrthyn nhw wrth gwrs, a mae nhw'n chwerthin yn dy wyneb di.

Dwi di dysgu peidio gwylltio efo nhw a jyst i pitiio nhw. Ffycars dwl :)

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Iau 24 Rhag 2009 9:17 pm
gan Gwenci Ddrwg
Who wants these ridiculous two-language signs which are a massive danger on our roads?

HA! gwastraff o fwyd di'r boi 'na. Gwastraff o fwyd. Eto dwi'n deud yr un beth: symuda i Ganada i weld pa mor hurt wyt ti. Oh wait --mae'n debyg nad ydy o wedi bod tu allan o'i seler, edrych ar be mae o newydd rhoi ar bapur.

Dwi di dysgu peidio gwylltio efo nhw a jyst i pitiio nhw

Y problem ydy bod wancars fel y rhain yn gallu effeithio gwleidyddiaeth- squeaky wheel gets the grease- os di nhw'n malu cachu digon maen nhw'n cael be mae nhw eisiau. Weithiau ti'm yn gallu anwybyddu. Edrych ar be ddigwyddodd yn yr Alban efo'r arwyddion ffordd. Mae pum neu chwech trolls yn ffycio i fyny yr holl beth.

Ffycars dwl, aye, ond ffycars peryglus hefyd.

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Rhag 2009 8:17 pm
gan Hazel
Nollaig Cridheal agus Bliadhna Mhath ùr, Sioni. :winc:

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Rhag 2009 10:28 pm
gan Seonaidh/Sioni
...agus dhut fhèin, a Challtainn (Nollaig Chridheil, gyda llaw). Benywaidd ydy "Nollaig" ond, wel, gwrywaidd ydy "Calltainn", yn annhebyg i "Collen".

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Gwe 25 Rhag 2009 10:40 pm
gan Hazel
O'r gorau. Diolch. :)

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Sad 23 Ion 2010 3:30 pm
gan Ar Roue
Mae’r camau mae Cyngor yr Ucheldir yn yr Alban yn ei gymeryd i hyrwyddo’r Aeleg yn cael eu feirniaid yn hallt gan rhai cynghorwyr ond hefyd gan .Unsain.

Dyma y diweddaraf. Mae McKay yn ferch i’r cynghorydd Rosie

http://www.northern-times.co.uk/



mar sin leibh , hwyl ichi

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Sul 24 Ion 2010 10:45 am
gan Seonaidh/Sioni
Dwi'm yn sicr am hynny, AR. Wedi clywed AWGRWM bod hi, gan ryw Angus Òg, ond heb ddod o hyd i ddim cadarnhad. Wedi'r cwbl, mae "John Rosie" yn edrych fel enw braidd yn Saesneg, ac mae "Deirdre" yn enw Gaeleg (Deirdre NicAoidh ddylai ei henw fod yn yr Aeleg). Pa mor tebygol fyddai i neb cyn ffyrniced yn erbyn yr iaith Aeleg roi enw Gaeleg bur i'w ferch? Na, yn anffodus, rwi'n credu mai DAU ohonynt sydd, yn hytrach nag un a'i ferch.

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Sad 25 Medi 2010 12:22 am
gan Petroc
Yr haf ma dwi wedi bwrw wythnos yn Sabhal Mor Ostaig, coleg cwbl gaeleg (uniaith) ar ynys Skye. Does dim coleg cwbl cymraeg - nag oes. A pham hynny? Lle mae'r ewyllys mae'r ffeithiau concrid yn digwydd. Peth od oedd bod llawer o'r staff o dramor, a'r myfyrwyr eraill hefyd o America, Yr Almaen, Lloegr a Chymru, hynny yw coleg gaeleg efo cymuned rhyngwladol ynddi. A chyda Jerry Hunter a Chris Cope ac ati ond oes cyfle i ni sefydlu cyfundrefn hollol gymraeg ar ein tir?