Tudalen 2 o 2

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Sad 25 Medi 2010 3:48 pm
gan Ar Roue
Ciamer a thu sibh ?

Hyd yn hyn dydw’i heb fod yn Sabhal Mòr Ostaig er rwyf yn dilyn cwrs i ddechreuwyr drwy gyfrwng y we a’r ffôn. Cytunaf yn llwyr a Petroc fod y goleg hwn yn unigryw ymysg y gwledydd Celtaidd . Mae ei llwyddiant yn elfen bwysig i feithrin yr hyder newydd a geir heddiw yn yr ymdrech i adfer yr Aeleg.

Maes o law daw’r goleg yn rhan o Brifysgol Yr Ucheldir a’r Ynysoedd sydd ar fin gael ei sefydlu ac o’r dechrau bydd gan y Brifysgol adran Gaeleg gref.

Hoffwn pe bai S4C yn wneud rhaglen am y coleg ac am datblygiadau yn Addysg drwy gyfrwng yr Aeleg.,

SMO http://www.smo.uhi.ac.uk/index_gd.html

Ym mis Awst 2011 bydd y Gyngres Geltaidd yn cyfarfod yn “An Gearasdan” (Fort William) .

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Sul 26 Medi 2010 8:55 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wel, wrth gwrs mod i wedi bod yn Ysgubor Mawr Ostag. Dydy'r Coleg ddim yn uniaith Gaeleg o gwbl. Mae hyd yn oed cyrsiau sy'n rhedeg yno trwy gyfrwng y Seasneg, er ni ddigwydd hyn ond yn ystod gwyliau'r haf. Y brif drafferth yn marn i, ydi nad yw mwyafrif y myfyrwyr yno'n fodlon siarad Gaeleg yn amlach na Saesneg. Ac, wrth gwrs, mae pellach yn rhan o OGE - Prifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd - ac does na ddim coleg arall yno sy'n Aeleg, er bod lefydd fel Colaiste a' Chaisteil (Lewis) yn agos ac yn gwneud cyrsiau TGA. Ar wefan OGE mae Gaeleg, ond, mond ichi fynd i "post-dealain" (e-bost) neu "Àrainneachd ionnsachaidh dealain" (BlackBoard) agus does na ddim Gaeleg i'w gael o gwbl.

Pa mor ddwyieithol, tybed, ydy colegau Prifysgol Cymru? Swn i'n credu basen nhw'n well, o'r mwyafrif, o ran hynny nag OGE.

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Llun 27 Medi 2010 11:36 am
gan Ar Roue
Ymosodiad arall

Pennod yn y “Sunday Herald”

http://www.heraldscotland.com/mobile/co ... endangered\
-languages-to-die-in-peace-1.1055994

Ateb i’r papur.

http://bellacaledonia.org.uk/2010/09/21/1231/

Mae ymosodiad ar lleiafrif bydded yn hiliol neu ieithyddol yn ymosodiad ar bob leiafrif ym mhob man.

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Iau 30 Medi 2010 7:09 pm
gan Seonaidh/Sioni
O'r Roue - pryd dwi'n gwasgu ar "Open Link" (neu beth bynnag mae'n deud), ca i "Error 404 - page not found" i'r Herald. Ydi'r gangen cywir, neu efallai bod nhw wedi tynnu'r stori erbyn hyn?

Gwerth cofio, beth bynnag, fod £2.8 biliwn yn cael ei wario ar addysg yn yr Alban - ac does na ddim lot o hynny sy'n cael ei wario ar addysg Aeleg (efallai 0.07%, yn lle 1-2% o'r poblogaeth sy'n defnyddio'r iaith).

Re: Ymosod ar Aeleg [yr Alban]

PostioPostiwyd: Iau 30 Medi 2010 8:59 pm
gan Ar Roue
Dyma'r cyfeiriad Yr Herald ( Glasgow)

http://www.heraldscotland.com/comment/r ... -1.1055994