gan Kez » Llun 24 Ion 2011 8:31 pm
Os ti'n lico bach o hiwmor anwleidyddol gywir, mochaidd a chwrs, cer at 3 ffilm Santiago Segura yn chwarae'r plismon Torrente. Nhw sydd ymysg y ffilmiau mwya llwyddiannus a phoblogaidd yn y sinema Sbaeneg:
Torrente; el brazo tonto de la ley
Torrente 2: mision en Marbella
Torrente 3: el protector
Celda 211 yn ffilm dda a enillodd wyth wobor Goya gan gynnwys ffilm orau ac actor gorau i Luis Tosar. Enw anffodus fi'n credu ond dyna ni; siwr gen i nag yw e'n becso.
El otro lado de la cama - drama a cherddoriaeth ynddi sy'n boblogaidd iawn:
Fe gei di eu gweld nhw i gyd ar
jyst rho enw'r ffilm i mewn lle ma'n gweud buscar..
Os ti'n mynd i watsho'r rhain, mae na gyfyngiad amser o 72 munud ar Megavideo, ond jyst tro dy router off am eiliad, rho fe nol mlan ac ma hwnna'n twyllo'r wefan, so ti'n cal watsho 72 munud arall a bennu off y ffilm.