Peliculas de Espana y Ameica Latina/Ffilmiau Sbaeneg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Peliculas de Espana y Ameica Latina/Ffilmiau Sbaeneg

Postiogan MELOG » Sul 23 Ion 2011 2:15 am

Quien puede recomendarme buenas peliculas en castelliano? Ya he visto los que son mas conocidos(los de Guillermo del toro y Almodovar) / Rwin yn gwbod am ffilmia da yn sbaeneg? Dwi wedi gwylio y rhei amlycaf sydd ar gael yn HMV a isho gwbod am rhei eraill diddrol! Hefyd oes rwin yn gallu siarad sbaeneg? Mwydrwch fi yn sbaeneg am y ffimia ydych chi'n gwybod amdanynt i mi gael ei ymarfer o! A nai mwydro chi nol!
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Peliculas de Espana y Ameica Latina/Ffilmiau Sbaeneg

Postiogan Kez » Llun 24 Ion 2011 8:31 pm

Os ti'n lico bach o hiwmor anwleidyddol gywir, mochaidd a chwrs, cer at 3 ffilm Santiago Segura yn chwarae'r plismon Torrente. Nhw sydd ymysg y ffilmiau mwya llwyddiannus a phoblogaidd yn y sinema Sbaeneg:

Torrente; el brazo tonto de la ley
Torrente 2: mision en Marbella
Torrente 3: el protector

Celda 211 yn ffilm dda a enillodd wyth wobor Goya gan gynnwys ffilm orau ac actor gorau i Luis Tosar. Enw anffodus fi'n credu ond dyna ni; siwr gen i nag yw e'n becso.


El otro lado de la cama - drama a cherddoriaeth ynddi sy'n boblogaidd iawn:

Fe gei di eu gweld nhw i gyd ar http://www.cinetube.es
jyst rho enw'r ffilm i mewn lle ma'n gweud buscar..

Os ti'n mynd i watsho'r rhain, mae na gyfyngiad amser o 72 munud ar Megavideo, ond jyst tro dy router off am eiliad, rho fe nol mlan ac ma hwnna'n twyllo'r wefan, so ti'n cal watsho 72 munud arall a bennu off y ffilm.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai