Tudalen 1 o 1

Gwyliau

PostioPostiwyd: Llun 31 Ion 2011 1:31 pm
gan Iago2
Oes rhywun yma'n gwybod am le rhad i aros ynghanol Paris?

Re: Gwyliau

PostioPostiwyd: Maw 01 Chw 2011 6:50 pm
gan Del
Arhoson ni yn Ibis Hotel ger y Bastille, yng nghanol Paris; manylion fan hyn:
http://www.accorhotels.com/gb/hotel-139 ... ndex.shtml

Hefyd, chwilia Google Maps am Ibis Paris, ac fe ddaw hwn ymhlith y canlyniadau:
Hotel Ibis Paris Bastille Opera 11ème
15 rue Breguet, 75011 PARIS, France

Canolog iawn i ganol Paris ac yn agos i'r orsaf Metro. Fe fyswn i'n barod iawn i argymell y gwesty (digon sylfaenol a rhad) a'r lleoliad yn hwylus.

Re: Gwyliau

PostioPostiwyd: Iau 03 Chw 2011 2:10 pm
gan Iago2
Diolch am dy awgrym Dei - mi fydda i siwr o archwilio'r safle we ag ati.