Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 9:28 am
gan nicdafis
Digon posib, wir.

Wglaist ti fe? Neu wyt ti'n feistr ar bob un o'r 600 o ieithoedd Awstralia, hefyd? ;-)

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 2:10 pm
gan Aran
nicdafis a ddywedodd:Wglaist ti fe?


da 'dy'r hen beth, ynde?! tasai wedi troi allan i fod yn rhwybath o fewn cyrraedd bod dynol, 'swn i 'di cadw 'ngheg i ar gau... :winc:

ac yn daclus iawn, dim ond yr un cofnod yng Ngoogle sydd...! da iawn, Nic... :winc:

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 2:19 pm
gan nicdafis
Ie, wnes i ddechrau dileu'r cofnod 'na o'r blog dros dro, wedyn cofio am <i>cache</i> Google, sy'n cofio bob dim.

O leia dyn ni wedi dwbl presenoldeb un iaith fach ar y we ;-)

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 3:07 pm
gan Aran
nicdafis a ddywedodd:O leia dyn ni wedi dwbl presenoldeb un iaith fach ar y we ;-)


gwir yw'r gair... :) ac mae gen i awydd dysgu deud 'helo' ynddi rwan... :winc:

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 5:34 pm
gan nicdafis
Wna i ofyn i fy ffrind, Dr Barbara.

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 7:15 pm
gan Aran
buasai hynna'n wych - dw i'n gwybod ambell gair o'r iaith abwrijinal sri lanka, veddah, sydd yn hyfryd o hawdd ar ran cyfrif - 'metai' wrth ddangos pum mys yn golygu, ia, 5 - 'metai' wrth ddangos deng mys yn golygu 10... :winc: ugain? naill ai 'metai metai' wrth ddangos deg dwywaith, neu 'metai metai metai metai' wrth ddangos pump pedwar gwaith... :D

o'n i'n reit gartrefol efo nhw...

gobeithio bod 'helo' yn Wangkajunga yn haws na Rwmaneg... :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 7:24 pm
gan Aran
yn y cyfamser, dw i'n cynnig:

mangwanani, mamuka sei? ndamuka, kana mamukawo. mufamba zvakanaka, murungu... :winc:

isio bach ychwanegol? beth am:

ishe komborerai isu, mhuri yayo - ngari simudzirwe zita rayo, inzwai mitanda zo yedu, ishe komborera... uya, mweya, komborera - uya mweya mu-u tshenai. uti komborera isu mhuri yayo...