1. Pryd wnaethoch chi ffeindio allan am y bodolaeth ieithoedd Celtaidd arall am y tro cyntaf?
actiwli, o'n i'n arfer meddwl bod pawb yn yr alban a'ir iwerddon yn siarad eu hieithoedd - a phawb yng Nghymru ond y fi...
2. Dych chi'n nabod unrhyw siaradwyr ieithoedd Celtaidd (ac eithrio Cymry, yn amlwg)?
yndw - cyfaill o Lydaw a dysgodd Cymraeg efo fi, cyfeillion o'r Alban bu i ni gyfarfod yng Nghaeredin, a chyfeillion o Iwerddon bu i ni gyfarfod yn An Spideal yn ddiweddar. pobl difyr a glen dros ben, yn enwedig y rhai sydd hefyd yn siarad Cymraeg...
3. Fel siaradwr Cymraeg, ydych chi'n teimlo fod o'n ddefnyddiol i wybod mwy amdanynt?
ym. defnyddiol? wel, mae'n bosib dysgu llawer ganddynt ar ran y brwydr ein bod ni gyd yn rhannu, ond ar wahân i hynna, dw i'm yn siwr os ydy defnyddiol y gair gorau. ond da, siwr iawn.
4. Dych chi 'di trio i ddysgu iaith Celtaidd arall? Oeddech chi'n llwyddiannus?
'di dysgu brawddegau cwrteisi (s'mae, iawn diolch, chdi? a ballu) yn Aeleg, Gaeilge, a Chernyweg - yn medru cofio'r ddau gyntaf, ond dim byd ond 'Mi a gar Kernow' yn y llall... a dw i'n dysgu Llydaweg ar y funud, croesi bysedd y ddaw hynna i safon uwch na'r lleill...
5. Fasech chi'n licio gweld mwy o gysylltiadau rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd/Basgeg?
buaswn, er bod hi'n mynd ar fy nerfau braidd pan bod pobl yn eu galw yn Geltiaid, a hwythau bron yr iaith 'isolate' mwyaf enwog sydd i'w gael...