Yr Ieithoedd Celtaidd

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr Ieithoedd Celtaidd

Postiogan fisyngyrruadre » Maw 04 Tach 2003 8:10 pm

5 cwestiwn i chi (gyda ymddiheuriadau at Gwen):

1. Pryd wnaethoch chi ffeindio allan am y bodolaeth ieithoedd Celtaidd arall am y tro cyntaf?

2. Dych chi'n nabod unrhyw siaradwyr ieithoedd Celtaidd (ac eithrio Cymry, yn amlwg)?

3. Fel siaradwr Cymraeg, ydych chi'n teimlo fod o'n ddefnyddiol i wybod mwy amdanynt?

4. Dych chi 'di trio i ddysgu iaith Celtaidd arall? Oeddech chi'n llwyddiannus?

5. Fasech chi'n licio gweld mwy o gysylltiadau rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd/Basgeg?

5.
fisyngyrruadre
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 311
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 7:52 am
Lleoliad: Gogledd Cymru

Re: Yr Ieithoedd Celtaidd

Postiogan Aran » Maw 04 Tach 2003 8:25 pm

1. Pryd wnaethoch chi ffeindio allan am y bodolaeth ieithoedd Celtaidd arall am y tro cyntaf?

actiwli, o'n i'n arfer meddwl bod pawb yn yr alban a'ir iwerddon yn siarad eu hieithoedd - a phawb yng Nghymru ond y fi... :wps:

2. Dych chi'n nabod unrhyw siaradwyr ieithoedd Celtaidd (ac eithrio Cymry, yn amlwg)?

yndw - cyfaill o Lydaw a dysgodd Cymraeg efo fi, cyfeillion o'r Alban bu i ni gyfarfod yng Nghaeredin, a chyfeillion o Iwerddon bu i ni gyfarfod yn An Spideal yn ddiweddar. pobl difyr a glen dros ben, yn enwedig y rhai sydd hefyd yn siarad Cymraeg... :winc:

3. Fel siaradwr Cymraeg, ydych chi'n teimlo fod o'n ddefnyddiol i wybod mwy amdanynt?

ym. defnyddiol? wel, mae'n bosib dysgu llawer ganddynt ar ran y brwydr ein bod ni gyd yn rhannu, ond ar wahân i hynna, dw i'm yn siwr os ydy defnyddiol y gair gorau. ond da, siwr iawn.

4. Dych chi 'di trio i ddysgu iaith Celtaidd arall? Oeddech chi'n llwyddiannus?

'di dysgu brawddegau cwrteisi (s'mae, iawn diolch, chdi? a ballu) yn Aeleg, Gaeilge, a Chernyweg - yn medru cofio'r ddau gyntaf, ond dim byd ond 'Mi a gar Kernow' yn y llall... a dw i'n dysgu Llydaweg ar y funud, croesi bysedd y ddaw hynna i safon uwch na'r lleill...

5. Fasech chi'n licio gweld mwy o gysylltiadau rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd/Basgeg?

buaswn, er bod hi'n mynd ar fy nerfau braidd pan bod pobl yn eu galw yn Geltiaid, a hwythau bron yr iaith 'isolate' mwyaf enwog sydd i'w gael...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Re: Yr Ieithoedd Celtaidd

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 04 Tach 2003 9:46 pm

1. Pryd wnaethoch chi ffeindio allan am y bodolaeth ieithoedd Celtaidd arall am y tro cyntaf?

Dim syniad, ond mae'n ychydig o amser erbyn hyn. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr ieithoedd Geltaidd.

2. Dych chi'n nabod unrhyw siaradwyr ieithoedd Celtaidd (ac eithrio Cymry, yn amlwg)?

Dim yn bersonol, er fy mod i wedi cwrdd a siarad gyda un neu ddau.

3. Fel siaradwr Cymraeg, ydych chi'n teimlo fod o'n ddefnyddiol i wybod mwy amdanynt?

Ydi. Mae'n dda gwybod mai nid dim ond ni sy'n ymladd dros parhad ein hiaith a'n diwylliant, ac yn hynny o beth mae gennym ni ffrindiau. Dwi'n credu y dyliai grwpiau lleifrifol uno yn y frwydr yn erbyn imperialaeth a globaleiddio.

4. Dych chi 'di trio i ddysgu iaith Celtaidd arall? Oeddech chi'n llwyddiannus?

Na, ond fe hoffwn i ddysgu Cernyweg a Gwyddeleg, a mwy os bosib.

5. Fasech chi'n licio gweld mwy o gysylltiadau rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd/Basgeg?

Hoffwn OND yn gyntaf efallai dyliwn ni gryfhau'r cysylltiad rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd yn gyntaf, achos mewn gwirionedd tydan ni ddim gyda hynna faint o gysylltiadau â'n gilydd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Leusa » Maw 04 Tach 2003 11:55 pm

1. Pryd wnaethoch chi ffeindio allan am y bodolaeth ieithoedd Celtaidd arall am y tro cyntaf?
Pan es i i Lydaw efo'n rhienni yn ifanc -cyfarfod a hen ffrindiau iddyn nhw

2. Dych chi'n nabod unrhyw siaradwyr ieithoedd Celtaidd (ac eithrio Cymry, yn amlwg)? Nhw.

3. Fel siaradwr Cymraeg, ydych chi'n teimlo fod o'n ddefnyddiol i wybod mwy amdanynt?
Defnyddiol? mashwr, pwysig - yn sicir

4. Dych chi 'di trio i ddysgu iaith Celtaidd arall? Oeddech chi'n llwyddiannus?
Rioed di trio! ella y gwnai rhywbryd!
5. Fasech chi'n licio gweld mwy o gysylltiadau rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd/Basgeg?
Yn sicir! dylsa ni sticio efo'n gilydd!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Geraint » Mer 05 Tach 2003 11:30 am

1. Pryd wnaethoch chi ffeindio allan am y bodolaeth ieithoedd Celtaidd arall am y tro cyntaf?

O 'tea towels' prynodd mam ar gwyliau yn cernyw a llydaw, a oedd efo geiriau ei ieithoedd

2. Dych chi'n nabod unrhyw siaradwyr ieithoedd Celtaidd (ac eithrio Cymry, yn amlwg)?

Nadw, ond di cwrdd a siardwyr gaeleg cwpl o weithiau.

3. Fel siaradwr Cymraeg, ydych chi'n teimlo fod o'n ddefnyddiol i wybod mwy amdanynt?

Ydw, dwi'n credu allen ni gyd ddysgu o ein gilydd, ond dwi hefyd yn credu dyle cymru, fel y iaith cryfaf, gwneud mwy i helpu'r ieithoedd erill

4. Dych chi 'di trio i ddysgu iaith Celtaidd arall? Oeddech chi'n llwyddiannus?

Na, ond bydde ni'n hoffi trio dysgu un

5. Fasech chi'n licio gweld mwy o gysylltiadau rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd/Basgeg?

Byddwn! Rhaid i ni gyd ddod at ein gilydd, efallai creu rhwy grwp all rhoi fwy o bwysedd ar senedd Ewrop i warchodu ieithoedd leiafrifol!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Owain Llwyd » Mer 05 Tach 2003 11:58 am

1. Pryd wnaethoch chi ffeindio allan am fodolaeth ieithoedd Celtaidd am y tro cyntaf?

Ddim yn cofio'n iawn. Mae'na ryw 'chydig bach o Wyddeleg yn y llyfr plant The Hounds of the Morrigan gan Pat O'Shea. Yno, o bosibl. Wedi dod yn ymwybodol o'r lleill drwy ryw lyfr neu'i gilydd gan Peter Beresford Ellis pan o'n i yn fy arddegau cynnar.

2. Dych chi'n nabod unrhyw siaradwyr ieithoedd Celtaidd (ac eithrio Cymry, yn amlwg)?

Wedi dod i nabod nifer go lew drost y blynyddoedd (mi wnes i Astudiaethau Celtaidd yn y coleg, a gweithio yn Iwerddon am gwpl o flynyddoedd wedyn), ond ddim wedi bod mewn cysylltiad efo'r un ohonyn nhw ers sbelan.

3. Fel siaradwr Cymraeg, ydych chi'n teimlo fod o'n ddefnyddiol i wybod mwy amdanynt?

Dydi hi ddim yn gwneud dim drwg, wrth gwrs. Ond be wyt ti'n ei feddwl o ran 'defnyddiol'?

4. Dych chi 'di trio i ddysgu iaith Celtaidd arall? Oeddech chi'n llwyddiannus?

Gwyddeleg a Llydaweg. Mi o'n i'n dod yn fy mlaen yn eitha da, ond, gan 'mod i heb siarad yr un ohonyn nhw ers blynyddoedd, mae'r llwyddiant yn diflannu i'r gorffennol yn reit sydyn.

5. Fasech chi'n licio gweld mwy o gysylltiadau rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd/Basgeg?

Dydw i ddim yn gwrthwynebu hynny, felly, ond dydi hi ddim yn mynd efo 'mryd innau yn bersonol.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan fisyngyrruadre » Mer 05 Tach 2003 1:45 pm

"Ond be wyt ti'n meddwl o ran 'defnyddiol'?

Cwestiwn da, cyfaill. Ddylwn i fod wedi ysgrifennu 'gwerth chweil' yn ei le.

Wel, ddylwn i roi fy atebion i, tybiaf...

1. Wni ddim am Albaneg neu Gwyddeleg, ond wnes i ddysgu am Lydaweg am y tro cyntaf yn ystod 'European Awareness Day' ym 1994, yn yr ysgol Saesnig Yr Wyddgrug. Ddaru ni dderbyn dosbarth Llydaweg, chafan ni ein harddangos y tebygrwydd rhwng Llydaweg a Chymraeg.

2. Dwi'm yn nabod nhw, ond dwi di cael sgyrsiau gyda pherson sy'n gwenud cerddoriaeth Llydaweg. A boi ar Ynys Manaw.

3. Dwi'n cyntuo gyda Geriant a Hogyn o Rachub, mae'n bwysig jyst so dyn ni'n gwbod bod pawb yn brwydro eu cornelau nhw!

4. Dwi heb ddysgu unrhyw iaith Celtaidd arall, ond 'swn i'n licio trio Llydaweg.

5. Mwy o gysylltiadau rhwng y gymunedau cerddorol plis!
fisyngyrruadre
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 311
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 7:52 am
Lleoliad: Gogledd Cymru


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron