RET79 a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod o'n siwitio pobl ddiog. Dwi'n ddiog yn y bon ond dwi'n obsessed hefo effeithlonrwydd. Dwi'n gwirioni os dwi'n sgwennu cod sydd yn rhedeg fel mellten ac yn mwynhau gwneud i bethau redeg yn gyflymach ac yn well. Am mod i'n ddiog dwi'n meddwl.
Dwim yn siwr os na diog yw'r gair cywir. Dwi'n cael gwefr, fel dwi'n siwr fod pobl mewn pob math o faesydd e.e. peirianeg, meddygaeth, unrhywbeth rili, o ganfod ffyrdd cyflymach o neud gwaith. Mae pobl wastad yn ceisio darganfod ffyrdd o wneud pethau nad ydynt yn hoffi yn gynt fel bod ganddynt mwy o amser i wneud pethau sy'n dod a phleser iddynt. Mae hyn yn wir ymhob busnes. Da chi di gweld yr holl hsybysus IBM ac ati - neb yn deall ond y geiriau hudol pob tro - "this will save loads of time" - h.y. arian. A mae arian yn dod a phleser i lawer, boed yn beth da neu ddrwg.
Efallai mai fi sy'n camddeall, ond ti'n swnio fel bod chdi'n deud fod pobl sy'n rhaglennu yn ddiog. Dy nhw ddim. Gwneud rhaglenni i bobl "diog" ma nhw (sef pawb rili).
Fi fysa'r cynta i gyfaddef fy mod i braidd yn ddiog ddo, ond di hyn ddim yn wir o gwbl am bobl yn y maes ar y cyfan.