Ieithoedd gyfrifiadurol

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ieithoedd gyfrifiadurol

Postiogan RET79 » Maw 04 Tach 2003 11:56 pm

Oes yna dystiolaeth fod pobl sydd yn gwybod mwy nac un iaith bob dydd yn gallu pigo fyny ieithoedd cyfrifiadurol fyny yn gynt?

Fel mae'n digwydd dwi'n gallu pigo fyny ieithoedd gyfrifiadurol yn eitha rhwydd - tybed oes cysylltiad rhwng hyn a'r ffaith fy mod yn ddwyieithog? Er mae addysg fathemategol/gwyddonol sydd tu cefn i mi dwi yn teimlo ar yn aml fod sgiliau iaith yr un mor bwysig i ddysgu ieithoedd gyfrifiadurol.

Trafodwch.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan nicdafis » Mer 05 Tach 2003 9:18 am

Oedd erthygl yn mynd rownd y llynedd ddwedodd bod y Gymraeg yn helpu gyda mathemateg, achos y sustem degol (un deg un, un deg dau), ond dw i'n credu bach o sgwarnog oedd hwnna. Mae lot mwy o dystiolaeth taw bod yn ddwyieithog yw'r peth pwysig, a bod hyn yn helpu mewn bob math o faesydd.

Wedi dweud hynny, fyddwn i ddim yn meddwl bod cysylltiad uniongyrchol rhwng bod yn ddwyieithog a dysgu ieithoedd cyfrifiadurol: nid sgiliau tebyg o gwbl, yn fy mhrofiad i. Yn y bôn, nid ieithoedd yw C, Perl, php ac yn y blaen, ond fformiwlau, codau, seiffrau. Dych chi ddim yn gallu barddoni yn C ;-)

Mae'n siwr bod deall Saesneg yn helpu, gan bod pob iaith cyfrifiadur yn defnyddio Saesneg, am wn i. Ond mae digon o raglennwyr sy'n bell o fod yn rhugl yn Saesneg, sy'n gallu handlo C ac ati.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Al Jeek » Mer 12 Tach 2003 6:19 pm

Dwim yn meddwl fod dim i'w wneud a bod yn dda mewn ieithoedd llafar a bod yn dda mewn ieithoedd cyfrifiadurol. Y rhai oedd yn neud yn dda ar fy nghwrs i yn coleg oedd y rhai geeklyd efo gwir ddiddordeb mewn cyfrifiaduron, sgilia mathemateg a brên logical. Doedd dim gwahaniaeth faint o ieithoedd y gallent siarad.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Iau 13 Tach 2003 5:02 pm

(Wedi dileu sawl neges amherthnasol.)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan RET79 » Iau 13 Tach 2003 5:50 pm

Diddorol.

Dwi'n meddwl fod o'n siwitio pobl ddiog. Dwi'n ddiog yn y bon ond dwi'n obsessed hefo effeithlonrwydd. Dwi'n gwirioni os dwi'n sgwennu cod sydd yn rhedeg fel mellten ac yn mwynhau gwneud i bethau redeg yn gyflymach ac yn well. Am mod i'n ddiog dwi'n meddwl.

Gwnaeth hulpen wirion yn y gwaith ddweud wrthyf "Paid a bod mor ddiog" pan roeddwn i am sgwennu code i wneud y gwaith yn lle gwneud o hefo llaw. Dwi'n tristhau pan dwi'n clywed agweddau hen ffasiwn felna. Ofn mae hi mae'n siwr os dwi'n sgwennu digon o god bydd dim job ar ol ganddi hi i'w wneud!!!!!
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Iau 13 Tach 2003 7:06 pm

Cytuanf, RET.

Dw i'n casau pobl sy'n cwyno bod cyfrifiaduron yn gwneud bob dim drostan ni. 'Digrwydd', dadl wirion. Fysan ell ganddyn nhw os fysai'r olwyn heb ei ddyfeisio, fel bod rhaid i ni gerdded i bob man?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Iau 13 Tach 2003 8:25 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Cytuanf, RET.

Dw i'n casau pobl sy'n cwyno bod cyfrifiaduron yn gwneud bob dim drostan ni. 'Digrwydd', dadl wirion. Fysan ell ganddyn nhw os fysai'r olwyn heb ei ddyfeisio, fel bod rhaid i ni gerdded i bob man?


Wnaeth un bos (merch arall) gyfaddef i fi fuasai'n well ganddi hi fynd yn ol i'r swyddfa cyn PCs ar y desgiau. Doeddwn i ddim yn siwr i ffrwydro neu cytuno am hwyl i weld faint o gachu arall oedd yn bosib i berson siarad mewn un go.

Mae rhai pobl yn mwynhau gwneud tasgau diflas undonnog 'repetitive', a rhaid yn cael eu talu'n weddol dda am wneud glorified admin job, felly mae nhw'n casau teips fi sydd yn dweud wrth y cyfrifiadur i wneud y cyfan.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Iau 13 Tach 2003 8:31 pm

Mae pobl ifanc Prydain wedi arfer gyda addasu ei bywydau i dechnoleg newydd, gan bod pethau wedi symud mor gyflym yn ystod ein bywydau ni. Dw i wedi cael digon o bobl dros bumdeg yn cwyno bod nhw methu deall pwynt ffonau symudol, ac methu defragmento drive D.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Iau 13 Tach 2003 9:56 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Mae pobl ifanc Prydain wedi arfer gyda addasu ei bywydau i dechnoleg newydd, gan bod pethau wedi symud mor gyflym yn ystod ein bywydau ni. Dw i wedi cael digon o bobl dros bumdeg yn cwyno bod nhw methu deall pwynt ffonau symudol, ac methu defragmento drive D.


Y peth rhyfedd fan hyn yw mae pobl yn eu 30au dwi'n siarad am :ofn:
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan nicdafis » Iau 13 Tach 2003 10:15 pm

Pobl yn eu 30au yw pobl y ffin technegol. Pan o'n i yn yr ysgol (dw i'n 36) dim ond y nerdiaid di-obaith oedd yn ymddiddori mewn pethau cyfrifiadurol, ac hynny wrth i mi bennu'r ysgol. Dw i'n cofio colli siawns cael cwtsh mewn disgo ysgol achos ei bod hi'n well 'da fi treulio'r "prynhawn rhydd" hwnna sgwennu côd BASIC ar y BBC micros yn yr adran maths.

Peidiwch dweud wrth neb.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron