Ieithoedd gyfrifiadurol

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Al Jeek » Iau 13 Tach 2003 11:36 pm

RET79 a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod o'n siwitio pobl ddiog. Dwi'n ddiog yn y bon ond dwi'n obsessed hefo effeithlonrwydd. Dwi'n gwirioni os dwi'n sgwennu cod sydd yn rhedeg fel mellten ac yn mwynhau gwneud i bethau redeg yn gyflymach ac yn well. Am mod i'n ddiog dwi'n meddwl.


Dwim yn siwr os na diog yw'r gair cywir. Dwi'n cael gwefr, fel dwi'n siwr fod pobl mewn pob math o faesydd e.e. peirianeg, meddygaeth, unrhywbeth rili, o ganfod ffyrdd cyflymach o neud gwaith. Mae pobl wastad yn ceisio darganfod ffyrdd o wneud pethau nad ydynt yn hoffi yn gynt fel bod ganddynt mwy o amser i wneud pethau sy'n dod a phleser iddynt. Mae hyn yn wir ymhob busnes. Da chi di gweld yr holl hsybysus IBM ac ati - neb yn deall ond y geiriau hudol pob tro - "this will save loads of time" - h.y. arian. A mae arian yn dod a phleser i lawer, boed yn beth da neu ddrwg.

Efallai mai fi sy'n camddeall, ond ti'n swnio fel bod chdi'n deud fod pobl sy'n rhaglennu yn ddiog. Dy nhw ddim. Gwneud rhaglenni i bobl "diog" ma nhw (sef pawb rili). :winc:

Fi fysa'r cynta i gyfaddef fy mod i braidd yn ddiog ddo, ond di hyn ddim yn wir o gwbl am bobl yn y maes ar y cyfan.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan RET79 » Iau 13 Tach 2003 11:52 pm

Al Jeek a ddywedodd:Dwim yn siwr os na diog yw'r gair cywir.


Dwi'n cytuno, wnaf drio gwneud fy hun yn fwy clir:-

Roeddwn i'n defnyddio 'diog' yn eitha tongue in cheek ond cefais fy ngalw yn 'ddiog' gan berson oedd yn eitha speitlyd o'r ffaith fy mod o hyd yn trio awtomeiddio gwaith (ond dim on pan mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny gyda llaw). I'r person hyn, roeddwn yn bod yn 'ddiog'. I fi, dwi'n bod yn effeithlon, creadigol, innovative, meddwl ymlaen etc. gan unwaith dwi wedi setio fyny'r program y cyfan sydd raid ei wneud yw ei redeg ac mae'n gwneud y gwaith drostaf.

Felly, yn aml iawn mae'n werth treulio mwy o amser y tro hwn i setio fyny'r program gan bydd o'n safio amser yn y dyfodol gan oll bydd rhaid ei wneud fydd ei redeg.

Dipyn o genfigen broffesiynol oedd gan y person i fy ngalw i'n ddiog dwi'n meddwl. Y ffordd wnaeth hi ei ddweud o oedd ddim fel joc ond fel ymosodiad. Roedd yr ymosodiad mor ffol doeddwn ddim yn gallu ymateb. Mae ychydig o ofn gan rei pobl fod cyfrifiaduron yn cymryd drosodd lot o waith caib a rhaw. Mae llawer o bobl yn hoffi'r syniad o 'job for life' ac yn wrthyn i newid (yn gyffredinol, 'anything for a quiet life') ac yn sicr yn erbyn technoleg yn gwneud eu gwaith drostyn nhw.

Felly o ddefnyddio'r dechnoleg dwi wedi gwneud fy hyn yn eitha amhoblogaidd yn ngolwg amryw yn fy ngweithle... dim fod ots gen i.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron