gan Rhodri Nwdls » Iau 06 Tach 2003 11:49 pm
Dwi'n gwbod fod coleg yr Iwerydd yn neud o, a ma'n swnio'n llawer gwell na Lefel A.
Ti'n gorfod gneud athroniaeth yn bac Ffrainc.
Dwi'n meddwl ti'n astudio ryw 10 pwnc ne rwbath fel'na, a ti'n gneud o ar sail gwyddoniaeth/ieithoedd/dyniaethau ag ynastudio stwff sy'n cyd-gysylltu fel'na...ella bo fi'n rong
Oes na unrhyw bwynt i rywun gneud lefel a mewn seicoleg/y gyfraith/cyfryngau/cymdeithaseg? Ai dim ond rhoi blas i rywun arnynt cyn mynd mlaen i goleg ydynt? Ti'n gorfod cychwyn o safon lefel A yn y flwyddyn gynta eniwe.Dwi'n gweld rhain yn hollol ddibwynt. Ddylsa pobol orfod neud pyncia craidd dwi'n meddwl, ag athroniaeth hefyd. Pam da ni ddim yn dysgu athroniaeth i blant?
Maes-eio ers 2002, yo.