Nederlands

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Nederlands

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sul 23 Tach 2003 7:53 pm

Fi wir isie dysgu i siarad Iseldireg, felly dyma gwpwl o gwetiyne:

1. Oes unrhyw un yn gwbod am rhywle yng Nghaerdydd neu'r ardal gyfagos lle gallwch chi ddysgu'r iaith?

2. (yn enwedig i'r rheiny sydd wedi dysgu Cymraeg) Beth yw'r ffordd orau i ddysgu iaith? O chwilio Google, mae digon o opsiynau ar gael i ddysgu'r iaith ar dap neu ar y we, ond dyw hyn ddim yn ymddangos fel ffordd dda i fi. Learn Dutch in 30 days or you don't pay? Bolycs.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Aran » Sul 23 Tach 2003 10:28 pm

mae pobl yn dysgu ieithoedd mewn ffyrdd gwahanol - mae'n dibynnu i raddau helaeth ar ba fath o ddysgwr wyt ti, pa elfennau sy'n dod yn haws i chdi ayyb...

dosbarthiadau ydy'r ffordd gorau bob tro i gael ymarfer gwrando a siarad - ond wedi deud hynny, mae 'Colloquial Dutch' gan Routledge yn llyfr da iawn, wedi adeiladu o gwmpas patrymau siarad a sgyrsiau - os wyt ti'n gweithio trwy'r deg pennod cyntaf yna bydd gennyt ti ddigon o eirfa a strwythur i gyfathrebu'n eithaf effeithiol.

pob lwc!
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sul 23 Tach 2003 10:34 pm

Wy' yn credu y byddai mynd i ddosbarth nos yn llawer gwell i fi - fi'nn ymddangos i gofio pethau'n well ar lafar nac yn ysgrifenedig. Erbyn y dydd Sul pan o'n i yn Amsterdam, ro'n i yn gallu pigo lan ar elfennau cyffredin yn yr iaith ro'n i'n ei chlywed o amgylch y ddinas, ond maen siwr y bydd hi'n syniad da i fi gael rhyw fath o ddealltwriaeth o'r iaith yn ysgrifenedig cyn mentro i ddosbarth nos! Diolch! :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Colm » Llun 24 Tach 2003 10:20 am

ma'r Isalmaeneg yn iaith gymharol hawdd i'w dysgu. Dim yn rhy anhebyg i Saesneg( yn enwedig yn ysgrifennedig). Buaswn i'n argymell, fel gyda unrhyw iaith, ymweld a'r wlad a cheisio dysgu tra bod ti yno. Beth ydi'r atyniad i ddysgu ' dutch'? Wedi syrthio mewn cariad hefo hwran wti? :wps:
Pog ostick
Rhithffurf defnyddiwr
Colm
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 133
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 12:37 pm
Lleoliad: Cymru ac Iwerddon

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 24 Tach 2003 10:31 am

Bues i i Amsterdam yn ddiweddar, a fwynheais i'r lle'n fawr iawn. Ro'n i'n teimlo'n ofnadwy o euog am y ffaith nad oeddwn i'n gallu siarad Iseldireg, ac nad oedd angen i fi siarad gair o'r iaith drwy gydol y penwythnos. Hoffwn i fynd nol 'na, ond isie cael crap da ar yr iaith gynta'! (:lol: :lol: :lol: :lol: :lol: )
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Aran » Llun 24 Tach 2003 10:32 am

os mai dysgu ar lafar sy'n siwtio, ella 'sai tapiau yn help - oedd gen i set yn rhywle, na i chwilio amdanyn nhw a rhoi gwybod gan bwy oeddent... o'n i'n eu cael yn ddefnyddiol iawn...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron