Nifer o siaradwyr: tua 800,000.
Cafodd y llyfr cyntaf yn yr iaith Basgeg ei gyheoddi ym 1545 - yn cynharach na Chymraeg!! Iaith 'isolate' ydi o, h.y., does ganddi ddim perthynas gyda unrhyw iaith arall yn y byd. Er gwaethaf hyn, mae llawer o ymchwilyddion wedi trio i sefydlu dolenni rhwng Basgeg a Chymraeg, Llydaweg, Romaneg, Picteg (Pictish) ac ati yn y gorffennol.
Achos mae gan yr iaith lot o dafodiaethau (chwech neu saith yn ol un llyfr!), cafodd yr iaith ysgrifenedig ei standardeisio yn ystod y 60au. Mae 'na sianel teledu uniaith Basgeg, cylchgronnau, papur newydd dyddiol, a llawer o orsafoedd radio yn cynnwys un i bobl ifanc yn unig!! Lle mae'r fersiwn Cymraeg tho
Yn anffodus, dydy Basgeg ddim yn cael lot o gymorth yn Ffrainc (mae'r ffin Ffrainc-Sbaen yn rhedeg trwy'r Gwlad y Basg), a mae'r nifer o siaradwyr yno yn syrthio.
Gobeithio fod hyn yn helpu!