Basgeg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dafs » Sad 17 Meh 2006 1:59 pm

rhywun wedi bod i donastia/san sabastien yn wlad y basg?

EZ NAIZ INGELESA. GALESA NAUZU - "I'm not english, I'm Welsh" yn basgeg :) (crys 't o Cowbois)
dafs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 15 Meh 2006 5:00 pm
Lleoliad: Aberaeron

Postiogan sanddef » Maw 20 Meh 2006 11:24 am

dafs a ddywedodd:rhywun wedi bod i donastia/san sabastien yn wlad y basg?

EZ NAIZ INGELESA. GALESA NAUZU - "I'm not english, I'm Welsh" yn basgeg :) (crys 't o Cowbois)


Oni ddyla fod "Galestarra naiz" ?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Rhys » Maw 20 Meh 2006 11:42 am

sanddef rhyferys a ddywedodd:
dafs a ddywedodd:rhywun wedi bod i donastia/san sabastien yn wlad y basg?

EZ NAIZ INGELESA. GALESA NAUZU - "I'm not english, I'm Welsh" yn basgeg :) (crys 't o Cowbois)


Oni ddyla fod "Galestarra naiz" ?


Dyfalu ydw i, ond nid 'Cymry' yw Galestarra, a 'Cymro' ye Galesa?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan caws_llyffant » Maw 20 Meh 2006 4:59 pm

Dwi'n poeni am y 'Galesa ' na ( am y 'Galestarra' na hefyd ) , achos mae nhw'n dwad o'r Lladin . Dwi'n poeni llai am yr 'Ingelesa' , achos di'r Ingelesa ddim yn hanesyddol iawn ... mond 6 A.D. , mwy neu lai .

Ond , mae Euskera yn iaith hynafol ( mae'r Gymraeg yn ifanc iawn i gymharu efo Euskera) a ddaru nhw gyfarfod y byd Celtaidd cyn adnabod Rhufain . Mae RHAID bod na air arall i siarad am y Cymry , neu am y pobl Geltaidd yn dylwythol .

Sanddef Rhyferys , mae rhaid i ni chwilio !
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Postiogan dafs » Mer 21 Meh 2006 8:06 pm

wel na beth man gweud! falle bod o'n meddwl rhywbeth arall, fel i'm not from england i'm from wales, neu rhyybeth arall gysylltiedig
dafs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 15 Meh 2006 5:00 pm
Lleoliad: Aberaeron

Postiogan sanddef » Iau 22 Meh 2006 11:59 am

Rhys a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:
dafs a ddywedodd:rhywun wedi bod i donastia/san sabastien yn wlad y basg?

EZ NAIZ INGELESA. GALESA NAUZU - "I'm not english, I'm Welsh" yn basgeg :) (crys 't o Cowbois)


Oni ddyla fod "Galestarra naiz" ?


Dyfalu ydw i, ond nid 'Cymry' yw Galestarra, a 'Cymro' ye Galesa?


Galestarra (lluosog: Galestarrak) ydy Cymro yn y Fasgeg.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan sanddef » Iau 22 Meh 2006 12:11 pm

caws_llyffant a ddywedodd:Dwi'n poeni am y 'Galesa ' na ( am y 'Galestarra' na hefyd ) , achos mae nhw'n dwad o'r Lladin . Dwi'n poeni llai am yr 'Ingelesa' , achos di'r Ingelesa ddim yn hanesyddol iawn ... mond 6 A.D. , mwy neu lai .

Ond , mae Euskera yn iaith hynafol ( mae'r Gymraeg yn ifanc iawn i gymharu efo Euskera) a ddaru nhw gyfarfod y byd Celtaidd cyn adnabod Rhufain . Mae RHAID bod na air arall i siarad am y Cymry , neu am y pobl Geltaidd yn dylwythol .


Nag oes. Doedd dim "Cymru" ar gael yn Oes y Celtiaid! Mae'r Fasgeg yn llawn o dermau ac enwau wedi eu cymryd oddi wrth y Sbaeneg i lenwi bylchau'r iaith (e.e. "independentzia"). Dydy'r Basgwyr ddim yn poeni am hynny oherwydd mae gramadeg y Fasgeg yn gwneud yr iaith yn annealladwy i Sbaenwyr, hyd yn oed os ydynt yn defnyddio termau Sbaeneg. "Galesa" ydy "Cymraes" a "gymreig" yn Sbaeneg (nid yn y Fasgeg). Mae'r Fasgeg yn cymryd yr enw "Gales" ("Cymru" yn Sbaeneg) ac yn adio'r "-tarra" i greu "Galestarra" ("rhywun o Gymru").

Gyda llaw: "naiz" ydy "yr wyf". Dydy "nauzu" ddim yn bodoli. Mae'r terfyniad "-zu" yn dynodi "ti"
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Rhys » Iau 22 Meh 2006 12:34 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:
Gyda llaw: "naiz" ydy "yr wyf". Dydy "nauzu" ddim yn bodoli. Mae'r terfyniad "-zu" yn dynodi "ti"


A'i nazio yw 'rydym ni'?

Ychydig oddi ar y trywydd, ond yn ôl y blog hwn mae darganfydiad archeolegol pwysig ble mae hen ysgrifen Basgeg wedi ei ddarganfod.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sanddef » Iau 22 Meh 2006 4:10 pm

Rhys a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:
Gyda llaw: "naiz" ydy "yr wyf". Dydy "nauzu" ddim yn bodoli. Mae'r terfyniad "-zu" yn dynodi "ti"


A'i nazio yw 'rydym ni'?

Ychydig oddi ar y trywydd, ond yn ôl y blog hwn mae darganfydiad archeolegol pwysig ble mae hen ysgrifen Basgeg wedi ei ddarganfod.


"cenedl" ydy "nazio"
(Ofizialtasunerako prest. Nazio bat garelako "swyddogoldeb-ar gyfer parod. Cenedl un ydym-oherwydd" = Yn barod ar gyfer swyddogoldeb. Canys un genedl ydym)


galestarra naiz cymro/aes ydw i
galestarra zara cymro/aes wyt ti
galestarra da cymro/aes ydy e/hi
galestarrak gara cymry ydym ni
galestarrak zarete cymry ydych chi
galestarrak dira cymry ydyn nhw

(gweler)
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan caws_llyffant » Llun 26 Meh 2006 1:34 pm

Milesker , Sanddef Rhyferys .

P.S. Pryd 'dan ni'n mynd allan am y gararno na ? Noiz ? Nun ?
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron