Ieithoedd ych

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ieithoedd ych

Postiogan mabon-gwent » Gwe 21 Maw 2008 8:08 pm

'Sdim iaith mod i'n casáu clywed.

Wi ddim yn cytuno fod almaeneg yn hyll, wi'n credu mae Hochdeutsch ac acen y dde'n swnio'n hyfryd. Acen y gogledd, Plattdeutsch, yw'r un wi'n credu bobl ddim yn lico'i glywed, mae lot o "g" a "k" ynof - "ik komme aus Kiel" yn lle "isch komme aus München"

Ffrangeg hefyd yw iaith sy'n swnio'n dda, ond yr iaith gorau wi'n credu i'w glywed yw Norwyeg.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Ieithoedd ych

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 26 Maw 2008 2:31 am

Wel yn fy achos i, dwi'm yn caru clywed "r" yn Saesneg, iaith hyll ydy hi mewn rhyw ffyrdd (uwchlaw popeth yn Texas/Alabamee) ond dwi'n gallu gwrando arna hi heb ddarfod yn boenus. :rolio: Eniwe dwi wedi bod yn clywed pethau ddrwg am yr Almaeneg ac weithiau am Joual (tafodiaith leol Québecois) ond i ddeud y gwir does gen i ddim unrhyw problemau 'da nhw o gwbwl, ar y lefel esthetig.

Ar ôl rhai athro sydd gen i, iaith erchyll ydy'r Gymraeg (llawer gormod o "ll" a "ch", yn ymddangosiadol...) :P Dwi'n cael crap am y Fanaweg hefyd, ond fel arfer oherwydd orgraff hyll (s'dim digon o "h" ynddi ar ôl siaradwyr Gaeleg yr Alban).

ac arabeg- gormod o swn q, k, ch, sh.

Od, dwi wedi clywed Malteg -iaith debyg iawn- a mae'n swnio'n grêt.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai