Ieithoedd ych

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ieithoedd ych

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 14 Rhag 2003 7:11 pm

Oes 'na ryw iaith nad ydach chi'n gallu dioddef eu clywed? Dw i'n siwr fod 'na ddigon o bobl yn y byd 'sa'n dweud hynny am Cymraeg :winc:, ond beth am weddill o ieithoedd bach rhyfedd y byd?

Dw i'm yn licio Daeneg. Sdim cytseiniaid ac mae'n swnio fel bo gan rhywun geg llawn o doffi. Dw i'n meddwl bod Saesnaeg yn reit boring, 'fyd.

Bedachinfeddwl?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan fisyngyrruadre » Llun 15 Rhag 2003 9:05 am

Mae'n dibynnu ar eich cefndir, 'swn i'n deud. Os chi wedi clywed lot o ieithoedd arall ers blyneddoedd, 'swn i'n dychmygu bo chi'n debyg i gael barn niwtral at eu synau nhw. Dwi'n meddwl bod o'n rong - anfoesol hyd yn oed? - i neud jociau am ieithoedd lleiafrifol, tho - os chi'n deud fod Blablablabeg wedi marw yn ystod y 14th century, ac yn deud rhywbeth fel 'Does ganddi hi dim geiriau am 'television' neu 'computer'', chi'n awgrymu bod y pobl sy'n siarad yr iaith yn dwp, ond ydych?
fisyngyrruadre
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 311
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 7:52 am
Lleoliad: Gogledd Cymru

Postiogan Mr Gasyth » Llun 15 Rhag 2003 10:29 am

Sori ond ma Almaeneg yn iaith hyll. Saesneg hefyd i raddau.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Iago2 » Maw 16 Rhag 2003 12:40 am

Ma' grando ar ganeuon Schubert , Brahms ag ati yn profi nad yw Alameneg yn iaith "hyll", ac ma'r Saesneg yn nwylo Britten ( B. Britten cyfansoddwr) yn dangos yn eglur nad yw Saesneg yn hyll! So dder!
Ond i fod o ddifri - ma' dysgu am ieithoedd erill yn cyfoethogi eich gwybodaeth o'ch iaith ych hun.
Iago2
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 38
Ymunwyd: Mer 10 Rhag 2003 7:57 pm
Lleoliad: Cardi ar goll yn y Gog

Postiogan Leusa » Maw 16 Rhag 2003 10:02 am

Helo, cerddoriaeth oedd Schubert a Brahms yn gyfansoddi, dim geiriau. Ond 'dw i'n cytuno, does na'm ieithoedd hyll.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Iago2 » Maw 16 Rhag 2003 12:14 pm

Ond fe wyddost mae'n debyg fod Schubert a Brahms (ymysg eraill o gyfansoddwyr y 4edd ganfrif ar bymtheg) yn nodedig am eu lieder - a'r caneuon hynny hyd heddiw yn dangos mor dlws i'r glust yw'r Almaeneg.
Dim ieithoedd hyll? Fe glywais i Sbaeneg gogledd Sbaen yn arabaidd iawn ei naws a rhaid cyfadda yn eitha ...wel be ddweda i ..... hyll.
Iago2
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 38
Ymunwyd: Mer 10 Rhag 2003 7:57 pm
Lleoliad: Cardi ar goll yn y Gog

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 16 Rhag 2003 12:43 pm

O aye, gyda llaw pan ddudish i 'ieithoded bach eraill' oeddwn i'm yn golygu jyst ieithoedd bach neu leiafrifol. Dw i jyst yn deud bach gormod.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Leusa » Maw 16 Rhag 2003 11:30 pm

Ond fe wyddost mae'n debyg fod Schubert a Brahms (ymysg eraill o gyfansoddwyr y 4edd ganfrif ar bymtheg) yn nodedig am eu lieder - a'r caneuon hynny hyd heddiw yn dangos mor dlws i'r glust yw'r Almaeneg.

Fel y sbrechgwsan? iiiiw!!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Iago2 » Sad 20 Rhag 2003 10:23 pm

Nid yn union sprechgesang, nage - cyfyngaf fy sylw i gyfansoddwyr rhwng cyfnod Schubert i Wagner. Ail ysgol Fienna = trydydd dosbarth!!
Iago2
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 38
Ymunwyd: Mer 10 Rhag 2003 7:57 pm
Lleoliad: Cardi ar goll yn y Gog

Postiogan bids » Gwe 02 Ion 2004 11:57 am

ma almaeneg yn bert! wir! ond os ych chi'n trio'i hynganu hi yn dweud 'ch' fel yn gymrag, dyw hi ddim yn bert. ma'r 'ch' lot meddalach na'n 'ch' ni fel arfer. ond mae hefyd yn dibynnu ar y dafodieth. ma'r swiss yn tueddu i ynganu pethe lot caletach, er enghraifft. grandewch ar rywun yn darllen 'u barddonieth garu nhw... hyfryd! ma almaeneg yn gallu swno mor hardd. onest!
wilibawan
Rhithffurf defnyddiwr
bids
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Maw 11 Tach 2003 3:46 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron