Ieithoedd ych

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dielw » Gwe 28 Mai 2004 8:36 am

Iaith hylla o gwmpas dyddie yma ydi Cymsneg a dwi fo gradd yn y ffycar!

Dwi'n meddwl bod hyllder iaith yn dibynnu ar hyllder y person sy'n siarad. Fasa Cameron Diaz yn gallu siarad am gachu trow mewn puteindy a sa fo dal yn swnio fatha barddoniaeth i fi. 8)
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Acenion » Gwe 18 Meh 2004 12:36 pm

Mae'r ederfyn ma yn warthus!
Pan fo defnyddwyr y maes yn ffeindio tudalennau we sydd yn trafod yr iaith Gymraeg fel iaith hyll, i ni gyd yn mynd yn grac fod pobol yn meddwl mentro neud y fath beth, a bod tudalennau we o'r fath yn bodoli. Ond eto i gyd ni'n digon fodlon i ddweud faint i ni'n casau ieithoedd eraill. A labeli ieithoedd eraill yn 'hyll!'
Peidiwch bod mor feirniadol!
Yo yo yo!
Rhithffurf defnyddiwr
Acenion
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Maw 02 Rhag 2003 8:51 am

Postiogan gronw » Gwe 18 Meh 2004 6:58 pm

tueddi i gytuno efo S.W. ac Acenion - mae pwrpas yr edefyn yma braidd yn doji
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Chwadan » Gwe 18 Meh 2004 8:27 pm

Lowri a ddywedodd:Ma 'na un iaith dwi methu goddef a honno yw'r

SAESNEG!!!! :x :x :drwg: :drwg: :x (+ y bobol!!!!)

a'r iaith arall dwi'n methu goddef yw

Sieniaidd!!! hwia hwia hwia!! :? :? :?

:ofn: Ma hynna'n hollol hiliol. Swn i'n mynd mor bell a deud fod y Gymraeg yn hyll pan ma hi'n cael ei defnyddio ar gyfer mynegi meddylfryd felna.

Rhaid mi gytuno efo gronw, Acenion a SW. Onid ydi pob iaith wahanol yn wyrth o beth?!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan dave drych » Llun 21 Meh 2004 2:56 pm

be? 'cos bod ni'n gymraeg 'den ni ddim yn cael fod yn beirniadol am sut mae iaith arall yn pleseru'r glust neu beidio?! dwi efo barn:
dwi'n meddwl bod cymraeg caernarfon yn ffiaidd! ac arabeg- gormod o swn q, k, ch, sh.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Lowri » Llun 05 Gor 2004 8:40 am

Beth yw'r pwynt cael seiat sy'n gofyn am ba ieithioedd yr ydym ni'n eu gasau, a ni'n methu lleisio'n barn?!!

Dwi ddim yn hiliol o bell ffordd- dim yn lico'r ieithoedd nagyd!!!

Pam wnes ti edrych ar y seiat de?! Pwynt y seiat hwn yw i adlewyrchu teimladau!!!!

A peidiwch dweud wrtha i bo chi ddim yn hoffi rhyw iaith/ acen yn y byd!! does NEB yn berffaith!!!! :? :?
Mae'r cariad at y Cwm yn berwi yn fy ngwaed
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 521
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 2:44 pm
Lleoliad: Cwm Gwendraeth

Postiogan gronw » Llun 05 Gor 2004 9:18 am

Wnes i ddim awgrymu dy fod ti'n hiliol Lowri -- mae'n well gen i beidio taflu geirie felna o gwmpas y lle fel arf i gau cegau bobl (fel roedd y welsh mirror yn arfer neud i'r Steddfod a.y.b.).

Do'n i ddim yn cwyno am gyfraniad neb penodol chwaith - jyst dweud bod pwrpas yr edefyn braidd yn amheus, gan ei fod e'n annog pobl i gasáu ieithoedd. Fel y dwedodd Acenion, ry'n ni'n ddigon parod i feirniadu Saeson sy'n difrïo'r Gymraeg efo perlau fel "chptchptchpgogogoch".

Dwi wedi clywed pethau digon hyll yn cael eu dweud mewn sawl iaith, ond dwi erioed wedi clywed iaith hyll. Mae rhai ieithoedd sy'n swnio'n od neu'n wahanol, ond dyw hynny ddim yn rheswm i'w casáu nhw. Falle mai mater o arfer yw e. Un feddyginiaeth i'r broblem hon fyddai dysgu ychydig ar yr iaith ry'ch chi'n ei hystyried yn hyll - falle y byddech chi'n synnu...
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan dave drych » Llun 05 Gor 2004 12:00 pm

Gronw: "falle mater o arfer yw e". Os felly, efallai na'i ddechrau taro'n mysedd efo mwrthwl. Mae'n siwr i ddechrau bydd yn poenus iawn ond na'i ddod i'w arfer!!
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan gronw » Llun 05 Gor 2004 1:10 pm

dave drych a ddywedodd:gronw: "falle mai mater o arfer yw e". Os felly, efallai na'i ddechrau taro'n mysedd efo mwrthwl. Mae'n siwr i ddechrau bydd yn poenus iawn ond na'i ddod i'w arfer!!

ie, gwd :D
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Chwadan » Maw 06 Gor 2004 1:09 pm

Lowri a ddywedodd:Dwi ddim yn hiliol o bell ffordd- dim yn lico'r ieithoedd nagyd!!!

Lowri a ddywedodd:Ma 'na un iaith dwi methu goddef a honno yw'r SAESNEG!!!! (+ y bobol!!!!)


Ew, cyson :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai