Tudalen 1 o 1

Bwytai ayyb ble gelli'r defnyddio'r Gaeleg yn Iwerddon

PostioPostiwyd: Maw 16 Rhag 2003 1:34 pm
gan Rhys
Rhestr o fwytai a chaffis ble gellir clywed iaith gaeleg ar draws iwerddon oddi ar wefan Foras na Gaeilge, sef fersiwn Gwyddelig o Fwrdd yr Iaith. Mae Llywodraeth Y Weriniaeth wedi penderfynnu symud swyddfa Foras na Gaeilge o Ddulun i'r Gaeltacht Donegal fel rhan o raglen adleoli swyddi cyhoeddus tu allan i'r brifddinas. Tydi hyn ddim yn plesio pawb yn ol Eurolang

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 2:52 pm
gan Jini
wel, dwi'n trio dysgu gwyddeleg ar y funud ac yn ei chael hi'n anodd ofnadwy cael unrhyw un i fy helpu - er fy mod yn byw yn Nulyn! Hyd yn oed yn y caffi gwyddeleg ei hiaith mae'r staff yn mynnu siarad saesneg gyda mi. rhwystredig iawn!

oes yna unrhyw un wedi llwyddo i ddysgu'r iaith? ac os felly, sut? mi fyswn i wrth fy modd pe taswn i'n medru hyd yn oed darllen yr iaith!

PostioPostiwyd: Sad 08 Gor 2006 11:31 am
gan jammyjames60
Dwi wedi bod yn ymwchilio am gwyliau/taith cerddoriaeth Gwyddeleg ar y we. A oes gen unrhyw un wybodaeth am unrhyw gwyliau o'r fath?

PostioPostiwyd: Sad 08 Gor 2006 5:46 pm
gan huwwaters
jammyjames60 a ddywedodd:Dwi wedi bod yn ymwchilio am gwyliau/taith cerddoriaeth Gwyddeleg ar y we. A oes gen unrhyw un wybodaeth am unrhyw gwyliau o'r fath?


Pob blwyddyn o gwmpas tua Ebrill ma na wyl Geltaidd yn cael ei chynnal yn Iwerddon. Yn y Gaeltach fel arfer. Ma fy nhad wedi mynd iddo sawl gwaith. Dwi'n meddwl na fan hyn cei di'r cyfle gore.

Dolen.