termau saesneg sydd yn mynd ar eich nerfau

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rala Rwdins » Sul 23 Mai 2004 8:32 pm

ma bobol cockney yn tueddu dweud "d'ya know what i mean" bob yn ail brawddeg a fi'n CASAU hwnna. :drwg:
Rala Rwdins
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Iau 27 Tach 2003 5:59 pm

Postiogan gwernllwyn » Mer 21 Gor 2004 11:56 am

Saesneg posh sy'n fy ngwylltio i fwyaf.

"One does doesn't one" :drwg:

A'r gwaethaf un yw (wrth son am y gymraeg) :

"Oh! How quaint!" Slap. Slap. Slap. :drwg: :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
gwernllwyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 197
Ymunwyd: Mer 30 Meh 2004 11:48 pm
Lleoliad: sospan tsips

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 21 Gor 2004 12:47 pm

Bobl sydd yn galw fi'n 'mate', neu'r un gwaethaf :
'Cheers mate'.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dave drych » Gwe 23 Gor 2004 8:51 pm

Pobl efo acen Dinbych (h.y. plant sy'n gallu siarad cymraeg ond yn mynnu siarad saesneg gydag acen manchesta') yn d'eud geiriau fel: "sound", "vauxhall nova gti sri turbo 1.8 sport bore exhaust!".

Hefyd pethau fel "a bunch of shops" neu "well big!"
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan calciwladur » Gwe 23 Gor 2004 9:43 pm

Pobol yn galw pobol eraill yn 'boss' yn lle mate. Fatha, "Thanks boss" pan yn prynu peint. :x Grrrrrrr!!!!!!

"Wake up and smell the coffee!"


"What's the big idea?"
Cont
Rhithffurf defnyddiwr
calciwladur
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 114
Ymunwyd: Llun 10 Mai 2004 10:12 pm

Postiogan Dylan » Sad 24 Gor 2004 2:58 am

gwernllwyn a ddywedodd:A'r gwaethaf un yw (wrth son am y gymraeg) :

"Oh! How quaint!" Slap. Slap. Slap. :drwg: :drwg:


mae pobl wir yn dweud hynny? Haha
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan gwernllwyn » Iau 26 Awst 2004 10:11 am

"after all is said and done" :drwg: :drwg: :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
gwernllwyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 197
Ymunwyd: Mer 30 Meh 2004 11:48 pm
Lleoliad: sospan tsips

Postiogan Slinci » Iau 26 Awst 2004 10:43 am

"Over" yng nghyd-destun adroddiad newyddion ar y teledu neu mewn papur newydd.

Er enghraifft "Mark Thatcher held over coup". Na, held regarding, about, because of, neu ryw ffurf o eiriau arall ond dim "over". Mae yn gwneud i mi feddwl am dan y boi yn cael ei syspendio tros rhyw fath o dwll enfawr bob tro.

A mae pobl sydd yn gorffen bob brawddeg gyda'i tonyddiaeth yn codi, fel petai nhw yn gofyn cwestiwn, yn ffyliaid, siarad Cymraeg, Saesneg, neu yn enwedig, Awstralaidd.

Mmm, iaith Awstralaidd, dwi mynd i ddechrau Canolfan Genedlaethol yn Nant Gwrtheryn i ddysgu hwna. Gai alw fo yn Kanolfan Kylie Kymraeg. :rolio:
Helo, dwi'n slinci.
Rhithffurf defnyddiwr
Slinci
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Gwe 23 Gor 2004 8:23 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Postiogan Gwen » Iau 26 Awst 2004 10:51 am

On i'n gwbod bod na fwy... :crechwen:

Dyma un. Pan fydd Cymry'n deud 'noti boi' e.e. efo gwen wybodus ar eu hwynebau - "Mae e wedi bod yn noti boi". Nid y dywediad naughty boy sy'n mynd dan fy nghroen i, a nid y ffaith ei fod o'n Saesneg chwaith ond y ffordd maen nhw'n ei ddeud o. Grrrr! :drwg: Sad, sad people! Y teip sy'n ffonio Jonsi - wchi be dwi'n feddwl. Dydi pobol ifanc ddim yn ddeud o, nachdyn, mond hen ferchaid trist. Sa'n neud lles i chitha fod chydig mwy 'noti' weithia wir ddyn - a ddim drwy fflyrtio hefo Jonsi dwi'n feddwl. :drwg: :drwg:
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Llewelyn Richards » Iau 26 Awst 2004 11:00 am

A mae pobl sydd yn gorffen bob brawddeg gyda'i tonyddiaeth yn codi, fel petai nhw yn gofyn cwestiwn, yn ffyliaid, siarad Cymraeg, Saesneg, neu yn enwedig, Awstralaidd.

Syndrom Friends ydi o - aaarrgh. Dwi'n gweld merched a bechgyn y bridd-ddinas (ac ym mhobman arall sai'n dod i hynny) yn ei wneud o i drio bod yn cwl a trio swnio fel pe bai yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud yn bwysicach o lawer nag ydi o mewn gwirionedd.

Morons twp ydi unrhyw un sydd eisiau efelychu'r ffordd y mae pobl yn siarad mewn cyfresi drama/operau sebon Americanaidd/Awstralaidd.

Dylech eu hosgoi ar bob cyfrif neu risgio gael eich sugno i faciwm gwag.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron