gan RET79 » Iau 25 Maw 2004 3:09 am
geiriau sydd wedi eu gwneud i fyny sy'n gwylltio fi
unsmoothed
rebasing
guesstimate
proxy
etc. hefyd fedra i ddim dioddef pobl yn dweud
"that's so bizarre"
"yes, I was just going to say" (pan doedden nhw ddim ond mae nhw'n ymgeisio i beidio edrych yn thic)
"basically..."
"That's circa £105.94"
"I presume" (sori ond dwi ddim yn hoffi hwnna o gwbl)
hefyd dwi ddim yn hoffi pobl sydd yn gwneud y canlynol
- pan ti'n gofyn os yw rhywbeth yn bosib i'w wneud, mae nhw'n dweud na dyw o ddim, ond y gwir yw mae o yn bosib ond fod nhw ddim yn gwybod sut i'w wneud, felly mae nhw'n dweud celwydd i osgoi eu hunain edrych yn thic
- pobl sy'n dod mewn i'r gwaith bore llun a dweud "oh I had so much to drink on friday night, had at least 10". Wedyn dwi'n gofyn 10 beth a mae nhw'n dweud 10 botel o gwrw. Wedyn dwi'n chwerthin a dweud dyw hynny ddim yn gyfystyr a 10 peint.
- pobl sy'n dweud am rei o'u cydweithwyr "he's a good footballer" pan mewn gwirionedd mae'r boi'n eitha crap
RET79