Tudalen 19 o 23

PostioPostiwyd: Sul 24 Medi 2006 8:35 am
gan Fflamingo gwyrdd
Madrwyddygryf a ddywedodd:'Drinks'. Fel : 'Let's meet up for drinks'. Yuch, mor ymhongar

A ditto i - "Let's do lunch" a "Let's do coffee"

PostioPostiwyd: Sul 24 Medi 2006 9:43 pm
gan Llwyd y Mynydd
Rhywun sydd yn ffaelu deall neu yn mynnu peidio â deall ac yn gweud "I don't know where you're coming from". Os w i'n sefyll ag yn siarad â hwnnw / honno, mae'n amlwg mod i wedi cyrraedd yn barod - a bwrw mod i wedi dod o rywle yn y lle cynta.

PostioPostiwyd: Sul 24 Medi 2006 9:57 pm
gan Skanken
"supposedly" neu sut bynneg man cal i sillafu...

os glywishi air mwya anoying efyyyyr hwna 'dio!!!!

PostioPostiwyd: Llun 25 Medi 2006 8:43 am
gan HBK25
dafydd a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
HBK25 a ddywedodd:Pobl sy'n gorffen brawddeg hefo cwestiwn yn ei llais yn ddi-angen.

Ydi hyn yn rhan o dafodiaith ardal Pontypridd?

Mae e'n, like, bobman? Dwi'n beio Neighbours? Roedd AQI (Australian Questioning Intonation) wedi lledu eitha eang ar un adeg ond dwi'n clywed e llai dyddie 'ma - falle achos mod i'n hynach :) Mae Clive James yn dda ar y pwnc 'ma.


"CAN YOU HEAR ME, BUTRO BUTROS GHALI?!" :crechwen:

PostioPostiwyd: Llun 25 Medi 2006 3:03 pm
gan Jon Bon Jela
"WHOAH! Have a banana"

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 12:23 pm
gan Geraint
Allai'm dioddef 'absolutely'. Be sy'n bod efo yes? Ma yes yn meddwl yes. Pam nad ydi yes yn feddwl yes digon fod rhaid dweud absolutely? Ma pobl sy'n trio swnio'n glyfar ar rhaglenni ddogfen wastad yn dweud absolutely. Cymerwch y ddau fenyw ar 'Coast'. Mae popeth yn 'Fantastic!, amazing!'. Ateb pob cwestiwn yw 'absolutely!' Mae'n meddwl ei fod nhw yn rili rili siwr ac yn hapus iawn mae yes yw yr ateb iawn.

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 2:10 pm
gan ceribethlem
Boring/Bored y geiriau gwaethaf a ddysgwyd i unrhyw ddisgybl erioed!

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 2:31 pm
gan Positif80
- Pobl sy'n camddefnyddio "obviously", "random" a "literally".
- Unrhyw air o geg Jo Whiley/Jo Brand/Charlotte Church.
- "Like."
- Y gair "sassy."
- Pobl ar sioeau "realiti" sy'n dweud "It's been a real journey..." NO IT HASN'T! :x
- Pam mae person yn dweud ei bod nhw mewn "good/bad place".
- "Whatever"
- "Celtic"/ "Celt"

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 5:02 pm
gan jammyjames60
Pam 'Celt'? :)

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 5:50 pm
gan Y Fampir Hip Hop
"random"

Aaaargh, na twat o gair i chi.
Pawb yn mynnu bod pethe yn "sooo like random" a bod ei crayzee ffrindie nhw yn "random" pan ma nhw'n dyfynu lein mas o Little Britain neu rhyw sioe tebyg. :x

FFFFAAAC.
:)