Tudalen 20 o 23

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 7:33 pm
gan Positif80
jammyjames60 a ddywedodd:Pam 'Celt'? :)


Gair, fel Welsh, sydd wedi'i gorfodi ar y Cymry ac eraill gan pobl estron sydd wedi lwmpio pawb hefo'i gilydd o fewn un categori bach, syml. Dydi "Celtaidd" ddim yn meddwl ddim byd.

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 7:36 pm
gan Positif80
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:
"random"

Aaaargh, na twat o gair i chi.
Pawb yn mynnu bod pethe yn "sooo like random" a bod ei crayzee ffrindie nhw yn "random" pan ma nhw'n dyfynu lein mas o Little Britain neu rhyw sioe tebyg. :x

FFFFAAAC.
:)


Mae'n nhw'n meddwl fod rywbeth yn rhyfedd weithiau, ond yn defnyddio "random" i geisio swnio'n glyfar. Dydi random ddim yn meddwl rhyfedd. :x

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 7:36 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Positif80 a ddywedodd:Dydi "Celtaidd" ddim yn meddwl ddim byd.


Swîîîîîîîp!

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 7:40 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Wilfred, Mawrth 24, 2004 a ddywedodd:'That's random'

Fedrai diodda hwnna. :x


Mae'r edefyn yma'n ailadrodd ei hun yn aml y dyddia' yma...
Sdim llawer o ddim newydd yn cael ei ychwanegu bellach :( :drwg:

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 8:27 pm
gan Geraint
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Wilfred, Mawrth 24, 2004 a ddywedodd:'That's random'

Fedrai diodda hwnna. :x


Mae'r edefyn yma'n ailadrodd ei hun yn aml y dyddia' yma...
Sdim llawer o ddim newydd yn cael ei ychwanegu bellach :( :drwg:


Oes ots? Mae'n edefyn da i gael gwd rant :crechwen:

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 9:37 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Jiw, 'na ymwchwil Fflamingo.
Ne jesd fi yw e sy'n cyfrannu i edefynoedd hir heb darllen y tudalenau gynt. :winc:

Roedd y dywediad yn blydi hala fi'n benwan nol bryd ny 'fyd, felly ma e'n wâth dwy mlynedd yn diweddara. Wâth byth. :crechwen:

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 10:43 pm
gan jammyjames60
Positif80 a ddywedodd:
jammyjames60 a ddywedodd:Pam 'Celt'? :)


Gair, fel Welsh, sydd wedi'i gorfodi ar y Cymry ac eraill gan pobl estron sydd wedi lwmpio pawb hefo'i gilydd o fewn un categori bach, syml. Dydi "Celtaidd" ddim yn meddwl ddim byd.


Dallt dy bwynt di, ond beth wyt ti'n galw dy hun i bobol eraill ta, os dwt ti'm yn 'Welsh' be wyt ti, CHDI? :?

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 10:49 pm
gan Positif80
jammyjames60 a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:
jammyjames60 a ddywedodd:Pam 'Celt'? :)


Gair, fel Welsh, sydd wedi'i gorfodi ar y Cymry ac eraill gan pobl estron sydd wedi lwmpio pawb hefo'i gilydd o fewn un categori bach, syml. Dydi "Celtaidd" ddim yn meddwl ddim byd.


Dallt dy bwynt di, ond beth wyt ti'n galw dy hun i bobol eraill ta, os dwt ti'm yn 'Welsh' be wyt ti, CHDI? :?


Yn amlwg, mae'n rhaid i mi ddefnyddio "welsh", ond dwi'n ceisio osgoi "celt" gymaint a sy'n bosib.

PostioPostiwyd: Maw 12 Rhag 2006 11:32 pm
gan Madrwyddygryf
onni mewn gynhadledd sector gyhoeddus ddoe, ac roedd yr holl dermau y sector yn cael ei defnyddio, megis :
Sharing good practice
robust
feed into
soft skills

Iych....

PostioPostiwyd: Mer 31 Ion 2007 12:15 am
gan Geraint
'Sell it on e-bay'


Ma pobl DAL yn meddwl fod hyn yn beth ddoniol i ddweud.