gan Emrys Weil » Mer 06 Hyd 2004 9:19 pm
Mae'n hen bryd i rywbeth ddigwydd.
Mae yna ysgolion ar yr ynysoedd sy'n dysgu trwy'r Aeleg, ond fel y deallaf nid yw'r cwricwlwm cyfan ar gael yno drwy gyfrwng yr ieithoedd hynny.
Mae yna o hyd tua 60,000 o siaradwyr Gaeleg, ac mae hynny'n obeithiol iawn o gymharu ag ambell i iaith fel Sorbeg, neu rai o'r ieithoedd Saami. Mae yna hefyd bobol ymroddgar sy'n gweithio'n galed dros yr iaith.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.