Oes 'na gyfrifoldeb arnom ni i ddysgu ieithoedd sy'n marw?

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Oes 'na gyfrifoldeb arnom ni i ddysgu ieithoedd sy'n marw?

Postiogan Macsen » Maw 06 Gor 2004 7:43 pm

Fel rhai sy'n cwyno'n ddi-ddiwedd bod ein iaith hyfryd ni'n marw, a oes cyfrifoldeb arnom i ddysgu ieithoedd eraill sy'dd ar fin marw? Os fysai pawb sy'n siarad iaith geltiadd yn dysgu'r ieithoedd celtaidd eraill, er engraifft, mi fysa y nifer sy'n siarad bob iaith yn codi'n sylweddol. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Aran » Maw 06 Gor 2004 8:36 pm

nid nifer siaradwyr sy'n bwsyig, ond nifer o gymunedau lle mae'r iaith yn iaith naturiol. fyddai siaradwyr ail-iaith Gwyddelig yng Nghymru ddim yn gwneud dim gwahaniaeth i sefyllfa'r Gaeltachtai.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Dylan » Maw 06 Gor 2004 8:44 pm

Fel y dywedodd Aran, petawn i yn dysgu'r ieithoedd Celtaidd eraill yna ni fyddai hynny'n cael unrhyw effaith ar eu dyfodol yn y bôn. Dim ond rhyw hobi fach neu weithred academaidd. Os nad ydw i'n ei ddefnyddio'n naturiol fel iaith gymunedol fyw (h.y. trwy symud i'r ardaloedd ble maent yn cael eu siarad o hyd) neu yn cynhyrchu rhyw fath o gelfyddyd yn yr iaith (llyfrau, cerddi, cerddoriaeth ayyb) yna gwirion iawn fyddai honni fy mod wedi helpu i'w "achub".
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan bartiddu » Maw 06 Gor 2004 8:59 pm

Byddai dim ots da fi medru dysgi Cernyweg, am y rheswm syml fod y Gymraeg a Cernyweg eitha 'agos' a dwi'n ddiog! :wps:
Ond wedi dweud hynnu di nhw ddim mor agos a hynnu!
Ma' rhaid 'tiwnio' mewn iddo'n galed ond does?
Oni'n darllen yr iaith neithiwr ar rhai gwefannau, ac roedd sawl gair yn gwneud synnwyr ond odd dal rhaid i edrych ar yr esboniad saesneg, a wedyn oni yn gweld y tebygrwydd yn llawn!
Falle bod y ffaith bod y ddau iaith mor agos (ond ddim cweit) yn 'neud hi'n mwy anodd i'w ddysgu, os ma' hwna'n 'neud synnwyr!!
Dwi ddim yn iaithydd mawr, a bydde fe ddim llawer o ddefnydd i'w ddefnyddio yma bob dydd yn berfeddion Ceredigion, mae'n ddigon galed cael sgwrs yn Gymraeg rown' ffor hyn fel mae ambell waith! :?
Ond o fater diddordeb personol, a falle dod i ddarllen penillion yn yr iaith Cernyweg ag ati, fydde diddordeb gen i gael ychydig dealldwriaith ohono., a fydde'n braf ymweld a Cernyw a medru cael rhyw fath o sgwrs colomenedig celtaidd8)

Wedi codi whant edrych ar 'Cornish is Fun' ta beth. :)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Dylan » Maw 06 Gor 2004 9:16 pm

Mae Cernyweg yn gallu edrych yn estron iawn ar bapur weithiau, ond wrth ei ddarllen yn uchel mae'n dod yn llawer cliriach. :D

'Swn i'n "hoffi" dysgu'r holl ieithoedd yma hefyd, ond yna, 'swn i'n hoffi gwneud lot o bethau. Rhy ddiog. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Leusa » Maw 06 Gor 2004 9:21 pm

'Dw i ddim yn meddwl ei fod o'n gyfrifoldeb arnom ni i ddysgu ieithoedd lleiafrifol eraill oherwydd be ddywedodd Aran ynglyn a'r ffaith na fydden ni yn gwneud gwahaniaeth i feddwl ein bod ni ddim yn byw yn y gymuned.

Ond eto mae'n gyfrifoldeb i bobl sydd yn byw mewn cymuned sy'n meddu ar iaith leiafrifol i ddysgu'r iaith honno, a dyna ydi'r sefyllfa yma yn Nghymru gyda pobl o ffwrdd yn symud mewn i'n cymunedau ni ac yn gwrthod dysgu'r iaith.

Mi fyswn i yn hoffi dysgu iaith geltaidd arall 'ddo, a mi fasa'n andros o neis cal ail-godi'r ieithoedd bychain i gyd a creu cyngrair enfawr amrywiol!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan garynysmon » Maw 06 Gor 2004 9:23 pm

Os y byddwn yn symyd i fyw i Gernyw, Llydaw, Yr Alban, a.y.y.b, yna'n sicr byswn yn dysgu'r iaith frodorol. Ond does fawr ddim pwrpas ei ddysgu, os nad fyswn i'n ennyn diddordeb dros nos mewn barddoniaeth Geltaidd, neu'r angen i wylio TV3 yr Iwerddon, neu rhywbeth felly. Fel ddywedodd Aran, yn y gymuned y mae Iaith yn byw, a nid ar ffigyrau Sensws.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Macsen » Mer 07 Gor 2004 7:09 am

Pam soniais i am 'ni' yn dysgu'r ieithoedd yma, roeddwn i'n siarad am gymunedau cymraeg yn dysgu'r ieithoedd, dim unigolion. Dwi'n cytuno na fysai un person yn dysgu iaith ac yna byw hanner ffordd fyny mynydd cant milltir dros y mor ddim yn help. Os fysai cymuned o siaradwyr cymraeg yn dysgu gaeleg, er engraifft, mi fysai'n hwb i'r iaith am fod cymuned newydd wedi ei greu. Os fysai pob cymuned o siaradwyr celtaidd yn dysgu ieithoedd ei gilydd, mi fysai'r ieithoedd yn gryf ar draws prydain. Dwi'n gwybod bod hyn mor debyg o ddigwydd a iar yn magu danedd, ond dyna ni. Mae dyn yn cael breuddwydio... :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan S.W. » Mer 07 Gor 2004 7:36 am

Ar pob cyfrif cer ati i ddysgu'r ieithoedd Celtaidd, wedyn os byddi di yn yr Alban neu Iwerddon ar daith rygbi neu rhywbeth, neu digwydd bod yn Cernyw, Llydaw neu Manaw byddi di'n gallu eu defnyddio.

Anodd byddai cael cyunedau cyfan i ddysgu iaith 'dramor'.

Dwin ceisio dysgu'r iaith Gaeleg felly byddaf yn gallu gwneud ychydig o ddefnydd ohoni pan dwi yn yr Alban -dwi yn mynd yne tua 4 gwaith y flwyddyn. Y ffordd yma, os oes mwy o'r iaith yn cael ei chlywed yna bydd mwy o ysgogaeth ar y pobl hynny yn yr Alban sydd hen yr iaith i ail afael ar eu ieithoedd. Mae dipyn yn yr ardal dwin ei nabod yn gallu adnabod yr iaith pan maent yn ei chlywed oherwydd ychydig o wersi Gaeleg yn yr ysgol, ond dim yn gallu ei siarad.

Mae nhw'n cynal gwersi Gaeleg yn Caerdydd ac yn Caerfyrddin.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan nicdafis » Mer 07 Gor 2004 9:08 am

Byddwn i'n dweud does dim angen rheswm dros ddysgu iaith newydd, mae'n wastad yn beth da i wneud er dy les dy hunan. Ond cytunaf ag Aran ac eraill sy'n dweud nad yw'n cael lot o effaith ar ddyfodol yr ieithoedd yn eu cadarnleoedd.

Wedi dweud hynny, mae sgil-effeithiau, ond oes? Dyw'r ffaith bod dosbarth Cymraeg gor-lawn yn Halifax ddim yn helpu siaradwyr mewn cymunedau Cymraeg yn uniongyrchol, ond bydd y dysgwyr 'na yn prynu llyfrau, yn prynu CDau, yn cyfrannu at bethau fel maes-e, ac yn y blaen, ac yn hynny o beth, maen nhw'n cyfrannu at ddyfodol yr iaith. Byddai'n well 'da fi 'sai'r dosbarthiadau yn or-lawn yn Aberteifi, ond dyw hyn ddim yn gwestiwn un neu'r llall. Mae'r dysgwyr 'na yn cael well effaith ar y Gymraeg na'u cymdogion sy'n symud yma a gwrthod dysgu.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai