Leusa a ddywedodd:Ydi'r Wyddeleg yn colli'r frwydr, neu a oes gobaith?
Pan aethon ni drosodd i gyfarfod cyhoeddus cynllunio yn y Gaeltacht Connemara y llynedd, roedd hi'n edrych yn syfrdanol o wael. Efo criw o weithredwyr dros y Wyddeleg yn ein tywys, methiant bu'r ymdrech i gael hyd o dafarn yn An Spideal (sydd i fod yn y Fior Gaeltacht) ar y nos Sadwrn lle roedd yr awyrgylch yn Wyddeleg.
Yn waeth byth, roedden nhw'n deud wrthon ni bod y rhan helaeth o'r pobl a oedd yn y tafarn wnaethon ni ddewis yn y pen draw yn medru'r Wyddeleg, a nifer ohonyn nhw'n gweithio ar y radio neu'r teledu, ond yn dewis siarad Saesneg.
Dwedodd mab i un o'r cyfeillion (tua 15 oed, ac yn siarad Gwyddeleg yn fam iaith) na fyddai fo byth ystyried siarad Gwyddeleg gyda hogan roedd o newydd gyfarfod, oherwydd hyd yn oed pe byddai hi'n troi allan i fod yn siarad yr iaith, byddai hi'n ei weld o'n 'rhyfadd' am wneud...
Ar y nos Wener, roedd 'na sesiwn traddodiadol a oedd i fod yn Wyddeleg. Mi aeth yn ddwyieithog.
Roedd yr holl profiad yn dorcalonnus, wir yr, a hyd yn oed y gweithredwyr mwyaf brwd yn sôn am eu hofn nad oedd modd i gadw'r iaith rhag farw fel iaith cymunedol o fewn yr ychydig blynyddoedd nesaf.
Roedd rhaid i ni, yr ymwelwyr, fynnu bod y cyfarfod cyhoeddus yn cymryd lle trwy gyfrwng y Wyddeleg, gyda chwestiynau uniongyrchol atom ni'n cael eu cyfieithu - doedd o ddim wedi croesi meddwl y trefnwyr y bydden nhw'n ei gynnal yn Wyddeleg a ninnau ddim yn medru'r iaith. Does 'na ddim trefn cyfieithu yno i'w weld, felly hyd yn oed cyfarfodydd cyhoeddus yn y Gaeltacht yn tueddu i fod yn y Saesneg, mae'n ymddangos.
Gobeithio daw gobaith o rywle iddyn nhw.