Bygythiad i'r iaith Wyddeleg?

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bygythiad i'r iaith Wyddeleg?

Postiogan Leusa » Maw 06 Gor 2004 9:26 pm

I fod yn negyddol gyfochrog a'r newyddion da fod ysgol Aeleg yn cael ei hagor yn Glasgow, mi ddoth y stori yma ar BBC Cymru'r Byd heddiw 'ma.

BBC a ddywedodd:Os nad ydyn nhw'n defnyddio digon o'r Wyddeleg, gallai ardaloedd sydd wedi eu dynodi'n rhai Gwyddeleg neu Gaeltacht golli eu statws.


Ydi'r Wyddeleg yn colli'r frwydr, neu a oes gobaith?
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Re: Bygythiad i'r iaith Wyddeleg?

Postiogan Aran » Mer 07 Gor 2004 7:40 am

Leusa a ddywedodd:Ydi'r Wyddeleg yn colli'r frwydr, neu a oes gobaith?


Pan aethon ni drosodd i gyfarfod cyhoeddus cynllunio yn y Gaeltacht Connemara y llynedd, roedd hi'n edrych yn syfrdanol o wael. Efo criw o weithredwyr dros y Wyddeleg yn ein tywys, methiant bu'r ymdrech i gael hyd o dafarn yn An Spideal (sydd i fod yn y Fior Gaeltacht) ar y nos Sadwrn lle roedd yr awyrgylch yn Wyddeleg.

Yn waeth byth, roedden nhw'n deud wrthon ni bod y rhan helaeth o'r pobl a oedd yn y tafarn wnaethon ni ddewis yn y pen draw yn medru'r Wyddeleg, a nifer ohonyn nhw'n gweithio ar y radio neu'r teledu, ond yn dewis siarad Saesneg.

Dwedodd mab i un o'r cyfeillion (tua 15 oed, ac yn siarad Gwyddeleg yn fam iaith) na fyddai fo byth ystyried siarad Gwyddeleg gyda hogan roedd o newydd gyfarfod, oherwydd hyd yn oed pe byddai hi'n troi allan i fod yn siarad yr iaith, byddai hi'n ei weld o'n 'rhyfadd' am wneud...

Ar y nos Wener, roedd 'na sesiwn traddodiadol a oedd i fod yn Wyddeleg. Mi aeth yn ddwyieithog.

Roedd yr holl profiad yn dorcalonnus, wir yr, a hyd yn oed y gweithredwyr mwyaf brwd yn sôn am eu hofn nad oedd modd i gadw'r iaith rhag farw fel iaith cymunedol o fewn yr ychydig blynyddoedd nesaf.

Roedd rhaid i ni, yr ymwelwyr, fynnu bod y cyfarfod cyhoeddus yn cymryd lle trwy gyfrwng y Wyddeleg, gyda chwestiynau uniongyrchol atom ni'n cael eu cyfieithu - doedd o ddim wedi croesi meddwl y trefnwyr y bydden nhw'n ei gynnal yn Wyddeleg a ninnau ddim yn medru'r iaith. Does 'na ddim trefn cyfieithu yno i'w weld, felly hyd yn oed cyfarfodydd cyhoeddus yn y Gaeltacht yn tueddu i fod yn y Saesneg, mae'n ymddangos.

Gobeithio daw gobaith o rywle iddyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan S.W. » Mer 07 Gor 2004 8:07 am

Swnio'n drist iawn yne, dim ond wedi bod i lawr i'r Geltacht unwaith. Cofio sylweddoli bod yr arwyddion ffyrdd yn unieithog mewn llawer o'r ardaloedd, ond ifanc oeddwn i felly ddim yn cofio pa mor gryf oedd yr iaith fel iaith Cymuned ar y pryd.

Dwin meddwl mae rhan o'r broblem yn Eire ydy nad yw llawer o Wyddeldod yn ystyried yr iaith fel eu iaith nhw, gan bod y Geltacht hyd y gwelaf i wedi creu rhyw buffer zone rhyngddynt. Mae angen camau 'eithafol' iawn yn Eire i gyd i gwrthdroi'r dirywiad hwn e.e rhoi'r un pwysigrwydd i'r iaith Wyddeleg ymhob rhan nid y cornel de orllewin yn unig. Tybiaf bod nifer o bobl yn gweld pobl sydd yn siarad yr iaith yn 'od' gan eu bod yn credu bod angen bod yn hollol rhugl yn Saesneg i gael swyddi da a felly arian da - agwedd a oedd arfer bod yn gryf yng Nghymru. Yng Nghymru mae'r mwyafrif yn derbyn bod angen gallu siarad yr iaith gan y byddai'n gwneud eich 'employability' yn llawer gwell. Dyma sydd ei angen yn Eire.

Cydweithio a rhannu profiadau rhwng pob iaith Celtaidd sydd ei angen.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Llyfwr Pwdin Blew » Mer 07 Gor 2004 10:04 am

Pan oeddwn i yn gweithio yn Nulun, roedd agwedd y rhanfwyaf or Gwyddelod ifanc tuag at yr iaith hefyd yn od. Roeddynt yn dweud bod eu gwersi Gwyddelig yn yr ysgol fel gwersi rhydd, ac yn malio dim am hynnu chwaith!

Mae'n rhaid bod agwedd rhieni'r plant 'ma tuag at yr iaith wedi dylanwadu arnynt wrth iddynt dyfu fynu.
Rhithffurf defnyddiwr
Llyfwr Pwdin Blew
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 239
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 10:43 am
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Rhys » Mer 07 Gor 2004 11:13 am

Llyfwr Pwdin Blew a ddywedodd: Roeddynt yn dweud bod eu gwersi Gwyddelig yn yr ysgol fel gwersi rhydd, ac yn malio dim am hynnu chwaith!


Fel mewn sawl ysgol yng Nghymru hefyd. Pan ofynodd cyd weithiwr i blentyn caretaker ein swyddfa faint o Gymraeg oedd o'n ddysgu yn yr ysgol cyfrwng Saesneg lleol, atebodd "Dim", a dweud mai chwarae bingo mae nhw yn ystod gersi Cymraeg. Felly dyma fy ngydweithiwr yn dweud "o leiaf ti'n gwbod dy rifau yn Gymraeg felly?". "Nacdw" meddai "yn Saesneg ni'n chwarae'r Bingo" :?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Lowri Fflur » Mer 07 Gor 2004 12:29 pm

Efallau bod agwedd y Gwyddelod at eu hiaith yn tueddu bod yn fwy ddi-hid oherwydd bod ganddyn nhw annibyniaeth i ddiffinio bod nhw' n Wyddelod. Dwi' n credu bod yna mwy o bobl yn malio am yr iaith yng Nghymru oherwydd mae dim ond hyn sydd genym ar ol i ddiffinio ein Cymreictod- wel ar y funud beth bynnag.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan S.W. » Mer 07 Gor 2004 12:36 pm

Mae rhywfaint o wirionedd yn fanne gan bod y mudiadau Cenedlaetholdeb yn Iwerddon pan roedd hi'n ran o Brydain heb rhoi gymaint o bwysigrwydd i'r iaith ag yr oeddynt yn ei rhoi i'r frwydyr am cenedlaetholdeb. Mae'r un dal yn wir rwan - pryd oedd y tro diwethaf i chi glywed yr SDLP neu Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon yn rhoi sylw i'r iaith Wyddeleg yn y Gogledd?

Mae Plaid Cymru wedi rhoi Iaith a Annibyniaeth fel 2 conglfaen iw ymgyrchu.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Lowri Fflur » Mer 07 Gor 2004 12:47 pm

Efallau efo diwedd y rhyfel ni fydd rhaid i' r SDLP a Sinn Fein rhoi gymaint o bwyslais ar ymgyrchu tuag at heddwch a gallu rhoi mwy o bwyslais ar bethau eraill gan gynnwys y iaith Wyddeleg. Ond yna ar y llaw arall mae yna lawer mwy o ddiddordenb yng Ngogledd Iwerddon mewn dysgu y iaith Wyddeleg ac efallau y daeth hyn yn sgil y rhyfel.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan S.W. » Mer 07 Gor 2004 12:51 pm

Dydw i ddim yn gwbod be ydy ffigyrau'r iaith Wyddeleg yn y Gogledd, dwin dallt bod nifer o arweinwyr y pleidiau cenedlaetholdeb yn gallu sirad ynr ieithoedd. Byddwn in disgwyl i lot mwy o genedlaetholwyr a gweriniaethwyr y Gogledd siarad yr iaith ermwyn dangos eu bod yn Wyddelod. Mae yna ymgyrchu ymysg yr Unoliaethwyr i rhoi statws i'r iaith 'Ulster' hefyd sef dialect tebyg i'r iaith Scots yn yr Alban.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Lowri Fflur » Mer 07 Gor 2004 1:00 pm

S.W. a ddywedodd: Byddwn in disgwyl i lot mwy o genedlaetholwyr a gweriniaethwyr y Gogledd siarad yr iaith ermwyn dangos eu bod yn Wyddelod. .


Dwi' n meddwl mae dyma beth yw un o wahaniaethau rhwng Cymru a Iwerddon. Yng Nghymru credaf bod teimlad ymysg llawer o Gymry nad wyt ti yn Gymraeg go iawn neu bod rhywbeth ar goll yn dy Gymreictod os nad wyt ti yn siarad yr iaith. Dwi ddim yn credu bod y teimlad yma yn bodoli ar yr un raddfa yn Iwerddon. Efallau dyna pam bod llai o bobl yn dysgu y iaith yna, oherwydd bod llai o bwysau cymdeithasol i bobl wneud.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron