Bygythiad i'r iaith Wyddeleg?

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mali » Llun 19 Gor 2004 10:00 pm

Leusa a ddywedodd::? sori am y rants uchod. ma'n neud fi'n drist, ma jyst y peth pwysica yn y mywyd i, a ma'n marw de, a ma'r mwyafrif o bobol yn gadal o fynd...wyshhhh fel ryw dderyn


Leusa,
Finna hefyd yn teimlo'n drist pan dwi'n gweld Cymry Cymraeg eu hiaith yn siarad efo'i gilydd yn Saesneg.Ac os ydi hyn yn dechrau yn yr ysgol.....wel, parhau wneith o, gan fod hi'n anodd iawn iddynt newid o un Iaith i'r llall.
Paid digaloni, a dal dy dir.
'Mae'r Iaith Gymraeg yn fyw!'
Mali. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Dysgu Gwyddeleg drwy gyfrwng y Gymraeg

Postiogan owen » Mer 17 Tach 2004 9:58 pm

Mae modd bellach ichi ddysgu Gwyddeleg drwy gyfrwng y Gymraeg a hynny ar lein. Ewch i http://www.e-addysg.com/cymraeg/gwyddeleg.php

Bain triail as/Rho gynnig arni.

Pob hwyl,

Owen
Rhithffurf defnyddiwr
owen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 4:18 pm
Lleoliad: Llambed

Re: Bygythiad i'r iaith Wyddeleg?

Postiogan sanddef » Iau 18 Tach 2004 4:13 pm

Aran a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:Ydi'r Wyddeleg yn colli'r frwydr, neu a oes gobaith?


Pan aethon ni drosodd i gyfarfod cyhoeddus cynllunio yn y Gaeltacht Connemara y llynedd, roedd hi'n edrych yn syfrdanol o wael. Efo criw o weithredwyr dros y Wyddeleg yn ein tywys, methiant bu'r ymdrech i gael hyd o dafarn yn An Spideal (sydd i fod yn y Fior Gaeltacht) ar y nos Sadwrn lle roedd yr awyrgylch yn Wyddeleg.



Arglwydd mawr! o'n i'n byw mewn bwthyn ger An Spideal am fis yn 1992 a wnes i ymweld a thafarn yno lle roedd pawb yn siarad Gwyddeleg.Cadarnle i'r iaith oedd y pentre pryd 'ny.
Dw i'n credu bod y Wyddeleg yn wynebu'r un broblem ag erioed,sef nad ydy hunaniaeth pobl Iwerddon yn perthyn iddi.Mae ganddynt weriniaeth a mor o ddwr rhyngddynt a phawb arall
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cawslyd » Llun 22 Tach 2004 2:45 pm

Be di ochr y llywodraeth yn 'Werddon ar y mater ac yn gyffredinol?
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan sanddef » Iau 25 Tach 2004 3:55 pm

Cawslyd a ddywedodd:Be di ochr y llywodraeth yn 'Werddon ar y mater ac yn gyffredinol?


Wel,mae'r Wyddeleg yn iaith swyddogol sydd rhaid ei dysgu yn yr ysgol a rhaid pasio arholiad ynddi i gael swydd swyddogol (gan gynnwys bod yn heddwas,o leia yn fy nyddiau fi yn y Werddon).Mae 'na dwf ymhlith siaradwyr Saesneg i ddysgu Gwyddeleg ond nid ydy hynny yn effeithio ar y sefyllfa dan sylw,sef cymunedau Gwyddeleg eu hiaith (dim ond 35000 o bobl),sydd yn gymunedau bychan cefn gwlad a phell oddi wrth ei gilydd.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan S.W. » Mer 25 Mai 2005 1:03 pm

Datblygiad digon positif ar y cyfan i'r iaith Wyddeleg yn Iwerddon.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4 ... 575647.stm
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Statws Tatws

Postiogan Tyrthwr » Maw 28 Meh 2005 10:49 am

statws shmatws. mae'r frwydr ar ben.

ta/ se/ cri/ochnaithe cheana fe/in!

mae wedi bennu yn barod!

mae'r rhain (/) yn hyll, ond yn golygu acenion.

Tyrthwr
Tyrthwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 41
Ymunwyd: Maw 28 Meh 2005 10:29 am

Postiogan Alun Abertawe » Sad 13 Awst 2005 12:18 am

Fel pobl ifanc y wlad hon, sydd yn wlad geltaidd, mae'n siwr fod yna rhywbeth y gallwn ni ei wneud i fod yn gefnogol i'r Wyddeleg a'r Aeleg. Ry'n ni'n lwcus fod gyda ni iaith i'w siarad - allwn ni wneud rhywbeth does bosib! Nerth mewn rhifau?!!!
Alun
Alun Abertawe
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Iau 11 Awst 2005 8:30 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 13 Awst 2005 10:20 am

Alun Abertawe a ddywedodd:Fel pobl ifanc y wlad hon, sydd yn wlad geltaidd, mae'n siwr fod yna rhywbeth y gallwn ni ei wneud i fod yn gefnogol i'r Wyddeleg a'r Aeleg. Ry'n ni'n lwcus fod gyda ni iaith i'w siarad - allwn ni wneud rhywbeth does bosib! Nerth mewn rhifau?!!!


Beth well y medrwn wneud ond dangos esiampl?

Oes 'na rhyw fath o Gymdeithas Yr Iaith Wyddeleg, tybed?

Dydi statws ddim yn achub iaith - rydym ni'n gwybod hynny yng Nghymru, a dydi deddfau iaith, mewn gwirionedd, ddim am achub y Gymraeg ar lawr gwlad. Ond mae deddfau eiddo Iwerddon efallai'n cynnig gobaith faith i'r Wyddeleg, a dyna be ddylem ni fynd ar ei hol yng Nghymru.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan AFFync » Iau 08 Medi 2005 3:49 pm

Mae mam yn Gwyddel ac fe es i i'r ysgol yn Dulyn am flwyddyn. Gallai cyfri i 10, deud 'mae o'n hen. mae o'n ifanc' a'r un mae pawb yn gwybod "Pogue Ma Hone".

Fe aeth cyfnither i Gaelscoil (ysgol Gwyddelig) ond dwi byth yn clywed hi'n siarad yr iaith. Mae ei teuly yn Galway yn siarad dipin dwi'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron