gan gronw » Iau 26 Awst 2004 8:26 pm
Chlywes i ddim Llydaweg yn Karnag o gwbl, er i fi drio gwrando amdani. Mi fues i'n gwrando ar hen bobl yn y strydoedd, ac fe fues i mewn marchnad Lydewig iawn am hir, ond glywes i ddim ond Ffrangeg (a Saesneg Birmingham).
Mi holodd yn ffrind i rywun lle oedden ni'n aros, ac fe ddwedodd hi nad oedd fawr neb yn y rhanbarth yn siarad Llydaweg, ond fod rhai plant yn dechrau mynd i ysgolion Llydaweg. Mae mwy o Lydaweg i'r Gogledd Orllewin mae'n debyg.
Fe ges i'n siomi gyn lleied o'r iaith oedd i'w gweld (a dim i'w chlywed). Mae'n debyg fod tua miliwn o bobl yn medru'r iaith, ond bod y rhan fwyaf yn credu mai Ffrangeg yw'r dyfodol.
Yr unig beth gododd fy nghalon i oedd ychydig o graffiti Llydaweg gwych oedd yn dweud pethe fel "nid Ffrainc yw fan hyn" a "Llydaw = cenedl" a "Llydaweg yn Llydaw!".