Hypnosis

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hypnosis

Postiogan Owain » Iau 19 Awst 2004 7:38 pm

Allan o ddiddordeb - oes na unrhywun wedi trio dysgu iaith trwy hypnosis h.y. gwrando ar dap/cd tra da chi'n cysgu neu rhywbeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan twmffat » Gwe 20 Awst 2004 1:50 am

Au revoir,

Bydden i'n dy gynghori i ffeindio ffordd arall o ddysgu iaith dramor. Fi wedi bod trwy wersi tair iaith dramor yn yr ysgol a'r prifysgol am dros ddeg mlynedd a yn bron pob un ohonyn nhw o'n i'n cysgu o'r eiliad o'dd yr athro yn agor ei geg tan bod y gloch yn mynd a yn y diwedd sai'n cofio ffyc ôl o ddim un ohonyn nhw. Falle dylen i ddim fod wedi yfed cymaint cyn y gwersi. Ma' 'da hyd yn oed Del Boy gwell dealltwriaeth o ramadeg a geirfa'r iaith Ffrangeg na sydd 'da fi o'r ieithoedd nes i astudio.

Yr unig ffordd i ddysgu iaith yw i ffeindio hogan fach go handi sy'n siarad y iaith a'i chnychu tan dy fod yn rhugl. Gallu di drio dy dechnegau Paul McKennaidd os wyt ti ishe ond newn nhw ddim gweithio.

Reit fi'n mynd i orffen fy motel gwìn, bonjour.
twmffat
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 51
Ymunwyd: Llun 28 Gor 2003 12:25 am

Re: Hypnosis

Postiogan Wilfred » Gwe 20 Awst 2004 11:32 am

Owain a ddywedodd:Allan o ddiddordeb - oes na unrhywun wedi trio dysgu iaith trwy hypnosis h.y. gwrando ar dap/cd tra da chi'n cysgu neu rhywbeth?


Dwi'm yn gwbod am dysgu iaith ond nes i lwyddo i gal gradd er fy mod i wedi bod yn fy ngwely am bron i dair mlynedd.
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Ray Diota » Gwe 20 Awst 2004 12:36 pm

[quote="twmffat"]
Yr unig ffordd i ddysgu iaith yw i ffeindio hogan fach go handi sy'n siarad y iaith a'i chnychu tan dy fod yn rhugl. [quote]

Ti'n iawn twmffat. Dwi'n mynd mas da Edith Piaf. :(
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Owain » Gwe 20 Awst 2004 12:49 pm

Dwi jest yn cofio Homer yn dysgu llwyth o eiriau newydd efo tap hypnosis mewn un pennod o'r Simpsons - bosib bod hwn ddim yn ffynhonell ddibynadwy cofiwch :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan twmffat » Sad 21 Awst 2004 12:33 am

Bydden i'n tueddu i gytuno gyda ti Owain, dyw Homer ddim yn ddibynadwy. Nes i fwyta'n brechadanau lard am bron i 8 mis er mwyn cael fy mhwysau lan i 300 pwys fel Homer er mwyn peidio gorfod mynd i'r gwaith a cael gweithio o gartref yn lle. Pan es i mewn i'r gwaith gyda fy nghorff swmpus a mynnu fy mod yn cael gweithio o gartref oherwydd fy mhwysau fe wedodd y rheolwr wrtho fi i sugno'i geilliau a rhoi'r sac i fi. Blydi Homer!

Fe lwyddodd Bart i ddysgu Ffrangeg tra'n gweithio ar ffarm mas ny so falle allu di ddysgu Pwnjabi tra'n cysgu, ti byth yn gwybod.
twmffat
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 51
Ymunwyd: Llun 28 Gor 2003 12:25 am

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Sad 16 Gor 2005 2:53 pm

Ma hypnotherapi fela’n gweithio. Doeddwn i'm yn trio dysgu iaith, ond roedd rhaid i mi ddysgu araith Cymraeg ar fy nghof heb allu defnyddio nodiadau a doeddwn i ddim yn bwriadu darllen drosto fo tro ar ôl tro oherwydd dydi'r dull yna byth yn gweithio i mi, felly, nes i recordio'n hun yn dweud yr araith ar dap a'i chwara fo yn ôl i mi bob nos, wsos cyn yr arholiad llafar wrth i mi fynd i gysgu. Noson cyn yr arholiad nes i benderfynu trio dweud yr araith yn ôl heb ddefnyddio nodiadau i weld os oedd hypnotherapi wedi gweithio - mi oedd o. Nes i lwyddo i gofio pob ffaith! Dydw i ddim yn licio clywad llais fy hun, felly dwi’n meddwl pe bawn ni’n trio dysgu iaith yn y fath modd byddai’n haws gan fod rhywun arall yn siarad.
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan seren » Sad 16 Gor 2005 7:53 pm

-Orion yr Heliwr- a ddywedodd: nes i recordio'n hun yn dweud yr araith ar dap a'i chwara fo yn ôl i mi bob nos, wsos cyn yr arholiad llafar wrth i mi fynd i gysgu. Noson cyn yr arholiad nes i benderfynu trio dweud yr araith yn ôl heb ddefnyddio nodiadau i weld os oedd hypnotherapi wedi gweithio - mi oedd o. Nes i lwyddo i gofio pob ffaith! .


mae hyn wir. mae o'n amlwg yn gweithio achos bod -Orion yr Heliwr- wedi adrodd ei haraith yn berffaith i safon A* ar fore yr arholiad!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
seren
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 247
Ymunwyd: Mer 09 Maw 2005 7:10 pm


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai