Tudalen 1 o 5

3.6.5 :BANDIT: Ashokan/Poppies/Radio Luxembourg - The Point

PostioPostiwyd: Iau 05 Mai 2005 4:26 pm
gan benni hyll
Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 05 Mai 2005 7:08 pm
gan Daffyd
Gigs Bandit? 8) . Wwwwww...reunion Mozz [mewn ffordd].

Bydd rhain yn rhai reolaidd 'benni'? Ta jest one off ydio tra fod Bandit "off the airwaves" fel petae? Fysa mynd i'r gig yma yn hollol wych, ond maen yr un lle sy'n amhosib gyrraedd heb yrru mewn car, felly fyddai yno mewn ysbryd, ond that's it mae gen i ofn.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Mai 2005 8:37 am
gan Shancen fach
Lle ma 'The Point' yn y Bae?

PostioPostiwyd: Sad 07 Mai 2005 10:17 am
gan benni hyll
Sgwar Mount Stuart, tafliad carreg o'r Coal Exchange. Hen eglwys ydy hi sy newydd gael ei adnewyddu tu fewn i safon uchel iawn er mwyn cynnal gigs. PA newydd sbon 16k, goleuadau gwych + lleoliad ffantastig.

Manylion fan hyn:

http://www.thepointcardiffbay.com/map.htm

PostioPostiwyd: Sad 07 Mai 2005 9:03 pm
gan Cynan Bwyd
wahooo, ma fen ystod wthnos steddofd yr Urdd, so bydda i yna! Man swnio hollol wych, Rhai o fandie gore Cymru yn warer un noson, methu colli hwn.

Wedi bod ar y web site, stim angen bookio ticket os na?! I mean, dyw'r Khan ddim mor fawr a hynny, right?

PostioPostiwyd: Llun 09 Mai 2005 12:30 pm
gan Shancen fach
Swnio'n cwl! Oes na rywun yn gwbod am gigs eraill yn yr wsos yna neu wsos y sdeddfod?

PostioPostiwyd: Llun 09 Mai 2005 12:53 pm
gan Trani Drws Nesa
wiced! ma'r point yn wych o venue a ma'r swn yn dda iawn yna. ai one off yw hwn neu oes cyfres o gigs ar y gweill?

PostioPostiwyd: Llun 09 Mai 2005 9:15 pm
gan Cynan Bwyd
Huw Stephens newydd son am hwn ar c2.

wedodd e "Gig ar y nos wener ola'r steddofdd yr urdd" - swnio fel bod na gyfres mynd i fod

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 1:32 pm
gan Jac y Diawl
noson gwisg ffansi yn ol y trefnwyr.
dewch yn llu.
dwi'n mynd i wisgo fel styd (as usual).

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 6:15 pm
gan benni hyll
Tsieciwch y poster tew 8)