Tudalen 1 o 2

2.6.5 :LL-LL, Sleifar, Gwyneth a Fflur: Toucan, Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 23 Mai 2005 4:16 pm
gan Jeni Wine
TU CHWITH
yn cyflwyno...

LLWYBR LLAETHOG
SLEIFAR A'R TEULU
FFLUR DAFYDD A'R BARF
GWYNETH GLYN


DJs Huw Stephens a Garmon Lard

Nos Iau, Mehefin 2il
TOUCAN * CAERDYDD

9pm – 2pm £5 wrth y drws

Copi yr un o Tu Chwith i’r 100 cynta
Bathodynnau am ddim!


poster i ddilyn...

PostioPostiwyd: Llun 23 Mai 2005 5:27 pm
gan Cynan Bwyd
cwl :D

bydd ll-ll yn ware stwff newydd nw?

PostioPostiwyd: Maw 24 Mai 2005 5:48 pm
gan Mihangel Macintosh
Delwedd

PostioPostiwyd: Mer 25 Mai 2005 9:54 am
gan Jeni Wine
Cynan Bwyd a ddywedodd:cwl :D

bydd ll-ll yn ware stwff newydd nw?


gobeithio, ond ma lot o'r stwff newydd yn cynnwys gwesteion fel Cofi Bach a Tew Shady, Jarman, Ed Peps a ballu.

PostioPostiwyd: Mer 25 Mai 2005 9:57 am
gan Jeni Wine
o, a gyda llaw...

...mi fydd yna fagia TU CHWITH i'r 100 cynta! Mi fydd rhain yn cynnwys feinyl, cds, bathodynnau a TU CHWITH wrth gwrs...


**DEWCH YN LLU!!**

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 2:01 pm
gan Dwlwen
Llaw lan pwy sy am gychwyn y pen-wythnos heno :D

Jeni Wine a ddywedodd:o, a gyda llaw...

...mi fydd yna fagia TU CHWITH i'r 100 cynta! Mi fydd rhain yn cynnwys feinyl, cds, bathodynnau a TU CHWITH wrth gwrs...

...ac os welwch chi'r dyn yma rownd y lle, gewch chi gopi o Siarc Marw#2 yn gynnes o'r wasg :winc:

Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 2:12 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Fi wir moyn ffindo llun o'r albino 'na yn Palindromes nawr... :x

Aye, fydda' i 'na. Edrych mlaen.

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 2:18 pm
gan Dwlwen
Ddes i o hyd i wiwer albino, aaaaah

Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 2:21 pm
gan Jeni Wine
Aye, ma hi'n siwr o fod yn noson wych... :D

Mi fydd Gwyneth a Fflur yn cyd-weithio ac mi fydd Gwyneth yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf gyda Sleifar a'r Teulu.

Edrych mlaen yn ofnadwy i weld y Siarc Marw newydd hefyd (a byngo wrth gwrs)

hwreudyfam! :P

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 3:50 pm
gan Dylan
fydda' i yna'n gynnar felly. 'Dw i'n licio gwdi bags :)