Tudalen 1 o 2
22.12.6 :Radio Lux/Derwyddon DG/Mr Huw: Y Wyddgrug
Postiwyd:
Mer 15 Tach 2006 10:27 am
gan maes b
Parti Nadolig Maes B (Gogledd Ddwyrain Cymru)
yn cyflwyno
RADIO LUXEMBOURG
DERWYDDON DR GONZO
MR HUW
DJs LLAN CLAN
Nos Wener 22 Rhagfyr
Mercia Inn, Mynydd Isa, Y Wyddgrug.
7pm / £5
Postiwyd:
Mer 15 Tach 2006 6:06 pm
gan ffrwyth melys!
Isho isho isho...
Postiwyd:
Mer 15 Tach 2006 7:42 pm
gan sion blewyn coch
ffrwyth melys! a ddywedodd:Isho isho isho...
calm down 'merch i!!! anadl ddofn.....
rhaid dalld y dalltings cyn cynhyrfu, ma'r Wyddgrug yn bell cofiwch! os na fws wedi/yn mynd i gael ei drefnu?
Postiwyd:
Llun 20 Tach 2006 8:31 pm
gan maes b
Postiwyd:
Maw 21 Tach 2006 1:03 pm
gan Rhys
Cŵl, dwi'n teithio adref i'r gogledd am dolig ar y diwrnod yma, felly dwi am fynd i'r gig gobeithio.
Rhywun eisiau rhannu tacsi/bws mini o Ddinbych (efallai Rhuthun)?
Postiwyd:
Maw 21 Tach 2006 3:46 pm
gan blod1 bach
dwi am drio dod i hwn dwin meddwl..er..fodon eiiitha pell ...hmm
Postiwyd:
Gwe 15 Rhag 2006 5:56 pm
gan maes b
cofiwch am hwn
Postiwyd:
Sad 16 Rhag 2006 8:00 pm
gan Rhodri Nwdls
Am fod yn Nhrelawnyd dolig felly fydda inna'n dod i hwn. Edrych mlaen beis!
Tro dwetha welais i Dr Gonzo oedd yn Nolgella, ac oeddan nhw'n wych chwara teg. Dda cael band arall ar y sîn efo grŵf go hegar iddyn nhw.
Postiwyd:
Sul 17 Rhag 2006 12:21 pm
gan huwwaters
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Am fod yn Nhrelawnyd dolig...
Gutted.
Gai nodi na "Yr Wyddgrug" ydio, nid "Y Wyddgrug".
Postiwyd:
Sul 17 Rhag 2006 2:10 pm
gan mr huw
rydw i mr huw wedi penderfynnu gwneud set arbennig 'instrumental' yn y gig hwn am bod hi'n ddolig a dwi'n ffycin casau dolig.
wasd o amser, wasd o bres. grrrrr!
cyfla ola i brynu anrheg hwyr,
bydd y sengl 'gwyneb dod' / 'morgi mawr gwyn' ar werth yn y sioe.