Tudalen 1 o 4

11-14 Mehefin '07 - SFA @ CIB

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 10:54 am
gan Clwb Ifor Strach
Ie, Mae'r Super Furry Animals yn chwarae yn Clwb Ifor Bach am 4 noson yn olynol -

Mehefin 11 / 12 / 13 / 14

Drysau 7.30yh, gyda chefnogaeth i'w drefnu

BYDD Y TOCYNNAU AR WERTH AM 9yb DYDD LLUN MAI 28fed

Mae nhw'n costio £15 - nid oes ddiscownt i aelodau, nid oes guestlist o gwbl

Felly - 9am dydd Llun nesa - o http://www.ticketweb.co.uk - wnai trio postio'r linc cywir yma cyn bo hir - mi fyddent yn gwerthu mas yn syth siwr o fod, so cofiwch y dyddiad yna!

Mwyafrif o 2 docyn y person....

Mwy o wybodaeth yma: http://www.nme.com/news//28548

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 11:10 am
gan Llefenni
Delwedd

Yeah, yeah! :D :D :D

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 11:44 am
gan Chwadan
Llefenni a ddywedodd:Delwedd

Yeah, yeah! :D :D :D

Haha! Ategaf :gwyrdd:

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 11:57 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
"The notorious Clwb Ifor Bach"?

Ai dim ond drwy'r dolen uchod y byddan nhw ar werth? Fydd modd mynd i rywle i gyfnewid tocyn am afr neu rywbeth?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 12:41 pm
gan Clwb Ifor Strach
Cnociwch ar ddrws ochr y clwb gyda llong wilber o fananas, a gawn ni weld be' allwn ni neud... dim geifr plis!

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 11:11 pm
gan Clwb Ifor Strach
El linko cywiro:

http://www.ticketweb.co.uk/user/?region ... 6&year=107


Dwi'n gweud wrthych - bydden nhw wedi mynd erbyn 9.02am, so byddwch yn gloi plantos

PostioPostiwyd: Sad 26 Mai 2007 6:10 am
gan Gerallt
Ohh My FFOCIN GOD!!!

yne!

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2007 9:16 am
gan Clwb Ifor Strach
Ie, diolch am dy sylwadau craff, Gerallt, 'ta beth mae nhw i gyd wedi gwerthu allan nawr...

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2007 1:41 pm
gan huwwaters
Clwb Ifor Strach a ddywedodd:Ie, diolch am dy sylwadau craff, Gerallt, 'ta beth mae nhw i gyd wedi gwerthu allan nawr...


Oeddwn i'n agos. Nes i archebu un, wedyn cofio dwi fod i gael un arall. Ma ticket web yn gwrthod gwneud mwy nag un trawsglwyddiad pres i un ddigwyddiad. Felly oedd raid i mi ddefnyddio cerdyn arall ar gyfer yr ail dro.

Erbyn hyn oedd hi o gwmpas 09:12.

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2007 1:56 pm
gan Chwadan
huwwaters a ddywedodd:
Clwb Ifor Strach a ddywedodd:Ie, diolch am dy sylwadau craff, Gerallt, 'ta beth mae nhw i gyd wedi gwerthu allan nawr...


Oeddwn i'n agos. Nes i archebu un, wedyn cofio dwi fod i gael un arall. Ma ticket web yn gwrthod gwneud mwy nag un trawsglwyddiad pres i un ddigwyddiad. Felly oedd raid i mi ddefnyddio cerdyn arall ar gyfer yr ail dro.

Erbyn hyn oedd hi o gwmpas 09:12.

Naaa - 10:13 ar gyfer y noson ola oedd ar gael sy'n agos (codi'n hwyr) :ofn: :winc: