Gorwel Roberts a ddywedodd:Mae Prys wastad yn good value ac yn defnyddio metaffors lliwgar iawn i ddarlunio ei bwyntiau. Nid yn unig ydw i'n 'ddeallusyn' dwi hefyd yn 'nazi' (ac yn 'ddeinasor' yn ol Reufeistr) am fy mod i ddim yn licio clywed bandiau Cymraeg yn canu yn Saesneg yn Sesiwn Fawr. Wel, rhydd i bawb ei farn, dim ond mynegi barn mae rhywun, dim byd mwy. Dwi'n hoff iawn o'r grwpiau sydd wedi cael eu henwi a dwi ddim yn dymuno dim drwg iddyn nhw, a dwi'n deall y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ar bob ochr i'r ddadl. Dwi bron a difaru codi'r mater hwn rwan ond mae o'n ffenomenon mae rhywun yn sylwi arno fo.
Duwcs, cyfadda nei! Sa ti'n gneud SS Stormtooper da, Gor!
Na - godaist ti'r pwnc yn onest, a dyna dy
farn personol. Dwi'n gwbod mai ti fysa'r person olaf ar y ddaear i orfodi dy farn ar unrhyw un arall. A dwi wedi jamio caneuon Susnag efo ti, lot o weithia, mewn pyb.
Y meddylfryd tu ôl i
bregeth Gwyrosydd ydw i'n gyfeirio ato efo'r metaffor natsi 'ma. Dwi'm yn galw fo/hi na neb yn natsi, ac yn bendant dim chdi, fel ti'n gwbod. (er - ti'n mynd i gael y saliwt gena fi tro nesa dwi'n gweld chdi, wan!
).
Be dwi'n ddeud ydi nad yw bobol yn ystyried be mae nhw'n ddeud mewn gwirionedd. Mae nhw'n meddwl yn dda, ac ewyllys da tuag at yr iaith sydd tu ôl i be ma nw'n ddeud. Ond mae be mae nhw'n ddeud yn union run fath â syniadaeth Cenedlaetholdeb asgell dde. Dyma'r genedl, a dyma be da ni'n licio, mae unrhyw beth arall yn fradwrus, achos mae o'n 'ang-Nghymreig!'
Gyda llaw, Gor, dyna pam nes i nodi'r ffaith mai diwylliant rhyngwladol ydi roc a rol, nid diwylliant cynhenid. Dio'm byd Roc v Trad. Ma Gwyrosydd fel sa fo'n siarad fel fod o'n ang-Nghymreig i ganu can Susnag ynghanol set Gymraeg. Wel dydi roc a rol ddim yn rhywbeth Cymreig eniwe, nacdi? Mae o'n faes rhyngwladol sy'n cael ei gynnal trwy gyfrwng rhan fwya o ieithoedd y byd 'gorllewinol.'
Ar bob cyfri, da ni angen y sin roc Cymraeg. Mae o'n un o'r chydig elfennau o ddiwylliant poblogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, sydd wedi gwreiddio a ffynnu - yn esiampl i feysydd eraill, fel llenyddiaeth (er, da ni'n trio'n gorau yno
). Ma'r sin roc Cymraeg yn angenrheidiol, ond mi fydd o wastad yn adlweyrchiad o'r sîn ehangach, yn ogystal â sin Cymru.
Os di Gwyrosydd ddim yn licio'r ffaith fod pobol dwyieithog yn gallu mwynhau diwylliant trwy gyfrwng y Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg, ac felly, yn mynd i adlewyrchu'r ffaith hynny trwy chwara amball i gyfyr i gynulleidfa o ffans cerddoriaeth, mae hi i fyny iddo fo/hi. Ond mae deud fod rhywun yn ang-Nghymreig, neu yn 'gneud safiad gwleidyddol' oherwydd y cyfyr honno, yn ffycin nonsans llwyr. Sori, ond mae o rili angan ail-ddiffinio ei syniad o Gymreictod, a'i lusgo o'r oesodd canol cyn i'r aliens landio a'n byta'n brêns ni i gyd.
Mae'r 'safiad' wedi ei neud. Mae'r sin Gymraeg yn bodoli. Mae mwy a mwy o bobol yn ei fwynhau, a mae o'n tyfu ymhob ystyr o'r gair. 'Purdeb diwylliannol' ydi'r unig reswm, bellach, dros 'reol iaith' yn y sin Gymraeg (dwi'm yn son am Sdeddfod) a mae purdeb diwylliannol yn lwyth o ffycin bwlshit.