Cymedrolwr: Norman
Nei a ddywedodd:AronJ89, jyst ar y pwynt gwnest ti am "ddiffyg apel y Genod Droog" llynedd, fe gafon ni dorf o oleia 3,000 o bobl, nathon ni ddim apelio i neb ohonyn nhw, jyst digwydd aros yno gan bod dim modd gadel nath y dorf a godde ein set ni ie? Gafon ni'n dewis i chware fel genod Droog heb rhyddhau dim byd, falle bod hynny'n beth gwael am nad oedd gyda ni CD wedi ei rhyddhau ar y pryd ond trwy'r radio a'r we mae pobl wedi cael blas ar y caneuon a faint o bobl sy'n gwylio bandiau rap yn gwbod geiriau pob ca^n). roedden ni'n hynod o falch o gael y cyfle i gyflwyno rhywbeth newydd i Gymru a rhoi cyfle i rap Cymraeg gael llwyfan ehangach ac am hynny ma rhaid llongyfarch trefnwyr yr wyl(ac wy'n diolch iddyn nhw am y cyfle). Sdim rhaid i chi ein licio ni ond y'n ni ar lwyfan i gael hwyl ac yn gobeithio fod ein parti ni ar y llwyfan yn ymestyn i'r dorf. Y pwynt mwy difrifol yw fod band saesneg yn cloi'r Noson Sadwrn lle mae band Cymraeg yn gwneud fel arfer, a phwynt arall i'w wneud yw fod shots camerau o'n cynulleidfa ni wedi cael eu defnyddio yn ystod gig Maffia Mr Huws y noson gynt, ein exploitio mewn ffordd i guddio'r wash-out(hynny yw, tywydd glwyb uffernol a gafwyd ar y noson wener) y bu'n rhaid i Maffia druan ei odde, falle allwn ni ddim neud dim am y tywydd yng Nghymru ond dyna fe. Yr hyn wy'n gweud yw fod ymateb y dorf i'n set ni llynedd yn edrych yn dda ar gamera a bod cynhyrchwyr avanti wedi penderfynnu defnyddio'r shots yna, fel y mae shots y dorf i'r hysbysebion am Sesiwn fawr eleni'n ei ddangos, miloedd o bobl yn cael hwyl, rhywbeth i bawb, rap, Heather Jones a balwns os oeddech chi'n rhy ganol y ffordd i ganolbwyntio ar ein miwsig. Yr hyn ma pawb ishe ei weld yw parhad Sesiwn Fawr ond fel mae Prys yn ei ddweud ond dylen ni ddim cyfaddawdu ar safon wrth geisio sicrhau dyfodol yr wyl.
Cardi Bach a ddywedodd:Does dim rheidrwydd ar unrhyw un i'w chefnogi, yn enwedig mewn byd cyfalafol gyda'r bunt yn rheoli a chredit crunch poenus, ond gobeithio y bydd y mwyafrif yn gweld fod yna rywbeth at ddant pawb, fydd yn caniatau i'r Wyl arbrofi a chyflwyno seiniau newydd i Feirionnydd unwaith eto yn 2009.
aronj89 a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Does dim rheidrwydd ar unrhyw un i'w chefnogi, yn enwedig mewn byd cyfalafol gyda'r bunt yn rheoli a chredit crunch poenus, ond gobeithio y bydd y mwyafrif yn gweld fod yna rywbeth at ddant pawb, fydd yn caniatau i'r Wyl arbrofi a chyflwyno seiniau newydd i Feirionnydd unwaith eto yn 2009.
Amen
Prysor a ddywedodd:aronj89 a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Does dim rheidrwydd ar unrhyw un i'w chefnogi, yn enwedig mewn byd cyfalafol gyda'r bunt yn rheoli a chredit crunch poenus, ond gobeithio y bydd y mwyafrif yn gweld fod yna rywbeth at ddant pawb, fydd yn caniatau i'r Wyl arbrofi a chyflwyno seiniau newydd i Feirionnydd unwaith eto yn 2009.
Amen
eiliaf
Fel mae Cardi Bach yn ddweud yn ei neges cyflawn, a mae aronj89 wedi ddeud yn rhan olaf rhyw neges cynt, mae 'na amgylchiadau arbennig eleni, a dwi'n derbyn hynny
doeddwn ddim yn ymwybodol o'r ffactorau yma (colled ariannol llynedd, colli grantiau leni) cyn agor fy ngheg fawr flin ben bora ma
ond, yn rhyfedd reit, dwi yn gallu hypnoteiddio ieir (onest!)
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 11 gwestai