Mae gennyf rôl flynyddol ar y Maes, yn ôl y son, i gwyno am y ffordd mae'r Sesiwn wedi mynd a'i phen iddi.
Rwy'n siomedig hefyd - dim byd gwerth ei glodfori (ers blynyddoedd) ond dim i'w condemnio chwaith, ar wahân i'r ffaith mae grŵp Saesnig arall yn cau nos Sadwrn!
Rwy'n hoff o'r Saw Doctors, ond mae 'na rywbeth sy'n chwithig efo gŵyl a gychwynnwyd i ddangos cyfraniad Cymru i adloniant mewn cyd destyn byd eang, sy ddim yn defnyddio grŵp Cymraeg i gau'r Ŵyl.
Byth di cael ateb i'r cwestiwn sut mae Dafydd Iwan di pechu trefnwyr yr ŵyl?
DI ydy’r unig canwr gwerin Gymreig sydd erioed wedi ymddangos yn y Sesiwn. Ond pa un gwell i gau Sesiwn Fawr Gymreig?