18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Ger Rhys » Iau 17 Gor 2008 9:13 am

Y Celt Cymraeg a ddywedodd:Os 'na rwla aralli gampio heblaw y maes swyddogol? wedi clywed fod gan Rhywun or enw Archie lle campio, Os rhywun efo i rhif ffon o by chance?


Dyma fo: 01341423338

Cefnmaelan ydy enw'r lle, lle braf iawn 'fyd.
Dilyn hynt y cerrynt caeth
mae deilen fy modolaeth...
Rhithffurf defnyddiwr
Ger Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Llun 20 Meh 2005 12:59 pm
Lleoliad: Ar daith rhwng Dolgellau ac Aber

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Iau 17 Gor 2008 10:02 am

aronj89 a ddywedodd:
Rhodri a ddywedodd:Rhowch ben ar gwyno; ma'r Wnion yn llifo'n ddibaid, dydy arian yr wyl ddim. Cwyno go iawn fyddwch chi flwyddyn nesa' os na fydd yna Sesiwn Fawr, felly gwell 'sa mynd yno ar yr off-chance i chi weld rhywbeth diddorol a mwynhau - sy'n reit debygol o ddigwydd, a sicrhau dyfodol i'r wyl yn y blynyddoedd sydd i ddod.

IDDI, DRWYDDI, DROSTI!

Geiriau gwych a dwi'n eilio. Meddwch yn gach os de chi ddim am fwynhau'r gerddoriaeth. Fyddai pawb wrth ei boddau a line up nos Wener ychydigflynyddoedd yn ol ond gan bod un neu ddau wedi newid ei meddyliau am Bryn a Chis ma pawb i weldwedi dilyn y dorf. Ma'r ddau am fod yn gwbl wych gowchi weld.


Fydda i ddim yn y Sesiwn achos dwi'n gorffan sgwennu nofel (deadline yn agos a dwi ar ei hol hi braidd).

Ond mae gen i chydig o sylwadau -

dwi'n reit ymwybodol o ymdrech arbennig y trefnwyr, a'r trafferthion ma nw'n gaele fo health and safety ac un o Heddluoedd mwyaf gwrth-gymdeithasol ac adweithiol Prydain, bob blwyddyn. A dylia pawb wbod mod i'n un o ffans mwya'r Sesiwn.

Ond.........

Ydi hi ddim yn well i drefnwyr yr ŵyl ddechrau edrych adra, yn lle cwyno fel hyn bob blwyddyn?

ydyn nhw'n disgwyl i ni gario mlaen fel hyn am byth - dal i ddod a talu trwy'n trwynau, jesd er mwyn cadw'r peth, tra mae nhw'n darparu lein-ups di-ddychymyg fel hyn bob yn ail flwyddyn?

dwi'n siarad fel un sydd ond wedi methu un Sesiwn Fawr (ac on i'n jêl adag hynny!). Dwi wedi cefnogi'n ffyddlon bob blwyddyn, ac wedi dal i wneud ers mae'r Sesiwn yn tsiarjio mynediad. Dwi wedi prynu dau docyn weekend bob blwyddyn (i fi a'r musus) - heblaw unwaith pan o'n i'n chwarae efo Estynedig (am bres tila, can o lager a brechdan - son am gefnogi bands lleol!), a heblaw unwaith pan ges i docyn gan rywun arall (ond prynis i un arall i'r musus eniwe). Mae gena i dri o blant. Mae weekend yn y sesiwn fawr yn ddiawledig o ddrud. Tra'n licio cefnogi, mae na linnell yn dod pan ti angan cael gwerth dy bres.

be dwi'n deimlo bo fi'n gael, yn hytrach, (heblaw ffwc o hwyl, rhaid cyfadda!) ydi negas bob blwyddyn yn y wasg yn cwyno cwyno cwyno 'os na ddowch chi, hon fydd yr ola, a pregath ei fod yn ddyletswydd arnan ni i gefnogi. Dydi'r mantra yna ddim yn PR da nacdi?

All Sesiwn Fawr ddim goroesi heb fandiau mawr di-Gymraeg. Dyna ydi'r ffaith syml. Mae'r gynulleidfa Gymraeg rhy fach, a dydyn nhw ddim yn mynd i dalu drwy'i trwyna i wylio bandiau mae nhw'n weld yn rheolaidd mewn pybs yn eu hardaloedd, am unrhywbeth o 'am ddim' i £5.

ydi tast y pwyllgor mor ddiawledig o gyfyngedig a chul â hyn? go brin. ydyn nhw mor out of touch efo realiti eu bod nhw'n recno y daw miloedd o 'rocyrs' bach ifanc i'r sesiwn jesd bod Derwyddon yn cael slot rywle, rywbryd, yn ystod y pnawn, tra mai stwff i hen hipis dosbarth canol Cymraeg a ffarmwrs sy mlaen yn y nos?

ydyn nhw'n disgwyl i ffans cerddoriaeth byd dalu drwy'u trwynau i weld cwpwl o fandiau y gallent biciad i Buttermarket Amwythig, neu Hendre Hall, i'w gweld am lai na £10, yn y pnawn a gorfod gwylio cwpwl o betha canol y ffordd diflas neu gerddoriaeth sied wair yn y nos?

get your act together cyn cwyno

:winc:
Golygwyd diwethaf gan Prysor ar Sad 19 Gor 2008 8:14 pm, golygwyd 2 o weithiau i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Iau 17 Gor 2008 12:05 pm

Prysor a ddywedodd:ydyn nhw'n disgwyl i ni gario mlaen fel hyn am byth - dal i ddod a talu trwy'n trwynau, jesd er mwyn cadw'r peth, tra mae nhw'n darparu lein-ups di-ddychymyg fel hyn bob yn ail flwyddyn?.


Rhaid cofio mai gwyl cerddoriaeth gwerinol a cherddoriaeth Cymraeg neu o Gymru ydi'r sesiwn a mae'n gyflau gwych i weld bandiau newydd gwerin o dramor yn ogystal. Oni ar y dechreau yn meddwl bygar ma hwn yn ddrud ond mwya dwi'n meddwl may peth dwi wedi talu £8 fan hyn a £8 fan draw droeon leni i weld 2 fand mewn lleoliad, felly gyda'r niferoedd yma o fandiau mae'r pris yn edrych yn fwy teg.

Prysor a ddywedodd:Mae gena i dri o blant. Mae weekend yn y sesiwn fawr yn ddiawledig o ddrud. Tra'n licio cefnogi, mae na linnell yn dod pan ti angan cael gwerth dy bres.


Dwi'n dyfalu na welaist y tocyn teulu (2 oedolyn,2 o blant) am £99. Bargen wedyn yn fy marn i ond gwir byddai rhaid i ti brynnu un tocyn arall i'r trydydd plentyn ond mae'n dipyn o arbediad yn dal. Oddeutu £30 y person. Cwbl resymol

Prysor a ddywedodd:tra mai stwff i hen hipis dosbarth canol Cymraeg a ffarmwrs sy mlaen yn y nos?.


Glywis i erioed run ffarmwr yn bloeddio canu Chiswell neu'n ei chwarae yn ei 4X4's. Dwi'n meddwl bo ti'n malu cacen braidd ynglyn a hune. Wrth feddwl mwy fedrai'm meddwl o run o fy ffrindiau sy'n ffermwyr sy'n hoff iawn o'r Saw Doctors chwaith.

Prysor a ddywedodd:get your act together cyn cwyno


Digon teg, ti'n rhydd i dy farn ond cwyno wyt tithau'n ei wneud yn union fel y rhai sy'n cwyno i'r gwrthwyneb. OS yw pobl eisiau dod, hei lwc i'r Sesiwn, fel arall gadel i'r rhai sydd wir am fwynhau wneud hynny ddylai'r rhai sydd ddim yn hoff a'r hyn sy'n digwydd
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan sian » Iau 17 Gor 2008 12:09 pm

aronj89 a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:Mae gena i dri o blant. Mae weekend yn y sesiwn fawr yn ddiawledig o ddrud. Tra'n licio cefnogi, mae na linnell yn dod pan ti angan cael gwerth dy bres.


Dwi'n dyfalu na welaist y tocyn teulu (2 oedolyn,2 o blant) am £99. Bargen wedyn yn fy marn i ond gwir byddai rhaid i ti brynnu un tocyn arall i'r trydydd plentyn ond mae'n dipyn o arbediad yn dal. Oddeutu £30 y person. Cwbl resymol



Dwi'n dyfalu nad oes gen ti ddim plant. :winc:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Iau 17 Gor 2008 12:32 pm

Aron, Dwi wedi bod yn mynychu a chefnogi a chymryd rhan yn y Sesiwn ers 16 mlynedd heb sdop. Dyma'r tro cynta i mi feirniadu.

Dim cwyno - ond beirniadu.

A beirniadu yn wyneb cwyno o'r cyfeiriad arall ydw i. (h.y. ymateb)

dim bwys gena i os fydd mwy o bobol yn methu gweld y pwynt ac yn ymateb i fi fel wyt ti wedi neud (a croeso i chi, wrth gwrs) ond dwi'n gwbod mod i'n siarad y gwir (neu'n agos ato) a bod genni bwynt a barn sy'n cael ei rannu gan dri chwartar dilynwyr y Sesiwn (a 90% ohonyn nhw y tro yma, synnwn i ddim)

rhaid i rywun ddeud o

gyda llaw, eglura i fi pa un o'r hedleinars a syport uchel ar y list, sydd yn fandia sy'n mynd i ddenu cynulleidfa ehangach na ffans Bryn Fon (josgins) a hen hipis Cymraeg fydd isio nostaljia fest efo Endaf Emlyn? A'r Saw Doctors (eto) - yr un cynulleidfa sy'n licio rheini hefyd, mwy neu lai. Ar y cyfan, byddai line-up y Sesiwn yma yn ffitio'n berffaith yng Ngwyl y Faenol.

gyda llaw, os di'r Sesiwn yn bodoli'n gyfangwbwl i hybu miwsig Cymraeg, yna pan Bob Geldof, Burning Spear, Levellers, GLC, Super Furries etc etc dros y blynyddoedd, a pam fod bandia Cymraeg yn cael bad deal gan y trefnwyr, sydd yn disgwyl iddyn nhw chwarae am ddim a derbyn y ffi teledu yn unig? Pam di bandia Cymraeg ddim yn cael llety ac ati?

Son am hedleinars yn unig fan hyn - os di'r miwsig Cymraeg yn dda - Anweledig, Genod Droog, Sibrydion - gret. Os dio'n crap - (sori Bryn, ond mae o) - ddaw na neb ond eu ffans nhw yno.

simple economics
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Iau 17 Gor 2008 12:43 pm

Prysor a ddywedodd: Ar y cyfan, byddai line-up y Sesiwn yma yn ffitio'n berffaith yng Ngwyl y Faenol.


State the obvious yn fane, nos wener = yr un lineup a'r faenol flwyddyn dwythaf a sbia ar y niferoedd oedd yn fano. Miloedd wrth ei boddau gyda'r cyfuniad o legends cymraeg (bryn a chis) a band sydd wedi bod ar y sin es sbelen rwan ond yn dal i fynd o nerth i nerth yn y Sibrydion.
Dwi'm yn dweud am eiliad fod ti'm yn rhydd i dy farn ond mae bychanu'r wyl oherwydd yr hyn ti'n feddwl yn mynd a pethau bach yn bell. Da iawn ti am gefngi'r wyl ar hyd y blynyddoedd ond does ne'm angen troi eraill yn ei herbyn gan fod ti wedi digio.

Prysor a ddywedodd:GLC, Super Furries etc etc


Fel y dywedais yn gynt, bandiau cymraeg neu bandiau a chefndir Cymraeg, h.y o Gymru. Swish

sian a ddywedodd:Dwi'n dyfalu nad oes gen ti ddim plant. :winc:


Nagoes a nesi lwyddo i weld y tocyn teulu yn dal. Sdim rhaid cael plant i allu ei fachu beth bynnag dim ond cael 2 berson dros 18 a 2 rhwng 12-16.
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Iau 17 Gor 2008 1:28 pm

aronj89 a ddywedodd:State the obvious yn fane, nos wener = yr un lineup a'r faenol flwyddyn dwythaf a sbia ar y niferoedd oedd yn fano. Miloedd wrth ei boddau gyda'r cyfuniad o legends cymraeg (bryn a chis) a band sydd wedi bod ar y sin es sbelen rwan ond yn dal i fynd o nerth i nerth yn y Sibrydion.


ti'n dal i fethu'r pwynt. Mae miloedd yn mynd i'r Faenol, ond bobol sydd ar y cyfan yn licio ambience arbennig, dim mynd i ŵyl feddw wyllt, fel Sesiwn Fawr. Ddaw rhan fwya o rhain ddim i'r Sesiwn. Dwi'n fodlon betio i chdi rwan. Mae cynulleidfaoedd gwahanol i bob gwyl.

aronj89 a ddywedodd:Dwi'm yn dweud am eiliad fod ti'm yn rhydd i dy farn ond mae bychanu'r wyl oherwydd yr hyn ti'n feddwl yn mynd a pethau bach yn bell. Da iawn ti am gefngi'r wyl ar hyd y blynyddoedd ond does ne'm angen troi eraill yn ei herbyn gan fod ti wedi digio.


i ddechra off - dwi ddim yn bychanu'r wyl o gwbwl. Sut dwi'n gneud hynny? Yn ail, be sgena i i ddigio dros? Sut all beirniadu lein-yp a'r gost gymharol i weld y lein-yp hynny, yn fod yn ddigio? Sut mae lleisio fy marn yn troi bobol yn erbyn yr wyl? Alla i dy sicrhau di fod cannoedd o bobol ddim am fynychu leni oherwydd y line-up sydd ddim yn werth yr arian. Sydd yn bechod ofnadwy achos dwi'n caru'r wyl - hyd yn oed fwy gan mod i wedi byw yn Dre am ddwy flynadd (jesd o pan gesd di dy eni) ac wedi ngeni yno hefyd. Ond os oes rhaid deud rwbath, mae rhaid deud rwbath. Ydi Sesiwn Fawr wedi ymuno a Plaid Cymru a Cymdeithas yr Iaith fel sacred cows na ellir anghytuno efo nhw a'u barnu?

"Bychanu"?
"Wedi digio"?
Dwi'n gobeithio nad wyt ti'n cynrychioli barn y pwyllgor, achos os mai dyna ydi'r agwedd yn wyneb selogyn ffyddlon sy'n lleisio barn (albeit yn fy ffordd di-flewyn fy hun) yna duw a helpo'r wyl.


aronj89 a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:GLC, Super Furries etc etc


Fel y dywedais yn gynt, bandiau cymraeg neu bandiau a chefndir Cymraeg, h.y o Gymru. Swish


Bob Geldof, Burning Spear, Levellers, etc etc etc???

Fy mhwynt ydi, tra bod yr wyl - wrth gwrs - yn hybu sdwff Cymraeg, a bod hynny'n rhan o'i rheswm dros fodoli, alli di ddim defnyddio hynny fel dadl dros gynnig cachu/stwff amherthnasol Cymraeg, neu stwff mae bobol yn weld bron bob penwythnos yn eu feniw lleol, tra'i bod hi'n gwbwl amlwg fod yr wyl hefyd yn dibynnu ar stwff rhyngwladol, enwog a phoblogaidd fel atyniadau i helpu'r wyl dalu'i ffordd. Ac yn absenoldeb yr enwau rhyngwladol hynny, chydig bach yn churlish ydi beirniadu bobol am gadw i ffwrdd, ynde?

dwi'n cadw at fy mhwynt yn fan hyn, aron, er gwaetha dy fethiant llwyr i ddilyn

aronj89 a ddywedodd:nesi lwyddo i weld y tocyn teulu yn dal. Sdim rhaid cael plant i allu ei fachu beth bynnag dim ond cael 2 berson dros 18 a 2 rhwng 12-16.


y pwynt ydi - be ti'n gael am y pres (sydd yn bres mawr, er gwaetha dy haeriadau fel arall)??? Eleni, ti'm yn cael llawer. Sef fy mhwynt.

Be sydd mor anodd ei dderbyn? Y pwynt ei hun, neu bod rhywun yn barod i'w ddeud o?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Iau 17 Gor 2008 1:46 pm

Prysor a ddywedodd: Dwi'n fodlon betio i chdi rwan. Mae cynulleidfaoedd gwahanol i bob gwyl.

Gwir ond mae nifer oedd yn casau bandiau fel GLC am fod yn fwy parod i ddod i weld lineup fel yma. Be mae rhai yn feirniadu mae eraill yn ei hoffi. Mae llawer yn casau Chis a Bryn ond bob tro ma nhw'n gwneud perfformiad byw da (heblaw chis yn sesiwn fawr tro dwytha, haha) Oedd o'n wych yn gig cyndeithas a'r faenol blwyddyn dwythaf!!!

Prysor a ddywedodd:"Bychanu"?
"Wedi digio"?
Dwi'n gobeithio nad wyt ti'n cynrychioli barn y pwyllgor, achos os mai dyna ydi'r agwedd yn wyneb selogyn ffyddlon sy'n lleisio barn (albeit yn fy ffordd di-flewyn fy hun) yna duw a helpo'r wyl.

Nagydw. Dwi wedi dweud fy mod yn derbyn dy farn ond ti weld yn rhy styfnig i adel i rywun arall ddweud i'r gwrthwyneb o'r hyn ti'n ddweud.



Prysor a ddywedodd:y pwynt ydi - be ti'n gael am y pres (sydd yn bres mawr, er gwaetha dy haeriadau fel arall)??? Eleni, ti'm yn cael llawer. Sef fy mhwynt.

Ti'n cal union run peth a bob blwyddyn arall... 2 ddiwrnod o gerddoriaeth. Dydy nhw'm yn trefnu'r wyl i fodloni un person. Dim ei bai nhw ydio fod ti ddim yn hoffi Bryn a Chis a'r Saw Doctors. Doeddwn i ddim yn hoffi GLC ond fele mai o bryd i'w gilydd. Falle bod niferoedd eraill sydd ddim ond mae trawsdoriad gwahanol yn ei hoffi ac efallai bydd niferoedd oedd ddim yno blwyddyn diwethaf oherwydd diffyg apel y genod droog iddynt yno eleni gan fod apel Chis a Bryn yn un gwbl wahanol. Mae'r wyl yn ceisio plesio pawb ond gyda'r trafferthon ariannol amhosib fyddai wedi bod i ddennu band fel Feeder neu'r Stereophonics fel dwi'n credu ti'n trio ei awgrymu. Mae arian grantiau a ballu yn mynd at yr Eisteddfod ac at y gemau Olympaidd rwan fel ddywedodd Ywain Myfyr ar y radio, felly mae'n anodd iawn talu bandiau anferth fel y rhain i ddod i'r wyl

Bychanu trefnwyr y sesiwn yw i ddweud fod ganddynt dast cerddorol cyfyngedig gyda hwythau wedi dod a bandiau cwbl wahanol o un pegwn y byd yn acanac i ben arall y byd ygyda rapwyr fel GLC a'r Genod Droog. Ynghlwm a Hayseed Dixie a yr Ukelele Orchestra swni yn dweud fod ei tast yn weddol eang...
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Iau 17 Gor 2008 2:32 pm

Pam na fysa ti'n sgwennu dy frawddeg olaf yn y dechrau? Mae hynna'n bwynt digon teg i'w gynnig fel ateb.

Ond wrth gwrs, dim trafod oeddat ti, ond ymosod arna i am farnu. A honni mod i'n

aronj89 a ddywedodd:bychanu'r wyl


ac fy mod i

aronj89 a ddywedodd:wedi digio


yna gwadu dy fod wedi

aronj89 a ddywedodd:nagydw


cyn mynd ymlaen i fy ngalw'n

aronj89 a ddywedodd:rhy styfnig i adael i rywun arall ddweud y gwrthwyneb i'r hyn (dwi'n) ddeud


a honni mod i ond yn pissed off am fod y Sesiwn ddim at fy nhast i

aronj89 a ddywedodd:Dydy nhw'm yn trefnu'r wyl i fodloni un person. Dim ei bai nhw ydio fod ti ddim yn hoffi Bryn a Chis a'r Saw Doctors.


Ac ar ddiwadd y cwbwl, ti'n disgwyl imi goelio hyn -

aronj89 a ddywedodd:Nagydw. Dwi wedi dweud fy mod yn derbyn dy farn


Dwi di bod ymhob Sesiwn heblaw'r gynta, a mi oedd rhai bandia at fy nhast i ac eraill ddim. Dyna di natur unrhyw ŵyl - a dwi'n mynd i ŵyliau dros y wlad a'r byd ers cyn i ti fod yn lygedyn o olau yn llygad dy dad. Dim bwys be sy on, dal i gael crac, a cefnogi. Hyd yn oed ar ol dechra talu am y Sesiwn, pan mae bobol yn dueddol o ddechra cymryd mwy o sylw o be mae nw'n gael wedi ei ddarparu ar eu cyfer, roedd na rai bandia don i'm yn licio, ond don i ddim yn cwyno, mond annog bobol i ddal i gefnogi de.

Ond di hwn eleni - waeth be bynnag ffwc ydi'r rheswm/esgus - ddim yn werth y pres, yn fy marn i, a barn llwythi o bobol erill. A dydi cael bobol fel chdi yn cwyno y dylai bawb ddod i gefnogi am ei fod o'n rhyw fath o ddyletswydd, mynnu fod pawb yn licio Bryn Fon, Chis a Saw Doctors (er mor safonnol wych ydi sdwff y ddau ddwytha 'na), ac yn slagio bobol off am anghytuno efo chi, ddim yn mynd i newid dim ar y ffaith yna.

Does gen i ddim mwy i ychwanegu. Dwi ddim hyd yn oed yn mynd i ateb dy bwyntiau, achos dydyn nhw ddim yn seiliedig ar be o'n i'n ddeud, ond yn hytrach ar ganddealltwriaeth llwyr o be dwi'n ddeud. Dwi'n meddwl mod i wedi gwneud fy hun yn ddigon clir. Darllan di be bynnag lici di i mewn iddo. Ffwc o bwys gena i.

Hir oes i'r Sesiwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Iau 17 Gor 2008 3:13 pm

Ag oninau am gyeryd yr un agwedd.
Ti wir mor ben galed a chymryd y farn mod i ar y pwyllgor er i mi ddweud nad ydwyf? Pam fyddwn i'n dweud celwydd am hyn? Y gwir amdani ydi, dydw i ddim :rolio:
A dwi'n falch mod i wedi gwneud pwynt dilys ynghylch fod y trefnwyr mewn gwirionedd gyda tast eang fel maent wedi dangos ar hyd y blynyddoedd.
Braf clywed barn pawb ond siawns bod hi'n iawn i mi ddadlau yn ol a chadw ochr y sesiwn hyd yn oed os ydio'n gloygu gwneud i ti droi popeth ty chwith allan a ceisio gwenud i mi edrych fel pwrs. Dydd da :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron