18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Nei » Iau 17 Gor 2008 4:56 pm

AronJ89, jyst ar y pwynt gwnest ti am "ddiffyg apel y Genod Droog" llynedd, fe gafon ni dorf o oleia 3,000 o bobl, nathon ni ddim apelio i neb ohonyn nhw, jyst digwydd aros yno gan bod dim modd gadel nath y dorf a godde ein set ni ie? Gafon ni'n dewis i chware fel genod Droog heb rhyddhau dim byd, falle bod hynny'n beth gwael am nad oedd gyda ni CD wedi ei rhyddhau ar y pryd ond trwy'r radio a'r we mae pobl wedi cael blas ar y caneuon a faint o bobl sy'n gwylio bandiau rap yn gwbod geiriau pob ca^n). roedden ni'n hynod o falch o gael y cyfle i gyflwyno rhywbeth newydd i Gymru a rhoi cyfle i rap Cymraeg gael llwyfan ehangach ac am hynny ma rhaid llongyfarch trefnwyr yr wyl(ac wy'n diolch iddyn nhw am y cyfle). Sdim rhaid i chi ein licio ni ond y'n ni ar lwyfan i gael hwyl ac yn gobeithio fod ein parti ni ar y llwyfan yn ymestyn i'r dorf. Y pwynt mwy difrifol yw fod band saesneg yn cloi'r Noson Sadwrn lle mae band Cymraeg yn gwneud fel arfer, a phwynt arall i'w wneud yw fod shots camerau o'n cynulleidfa ni wedi cael eu defnyddio yn ystod gig Maffia Mr Huws y noson gynt, ein exploitio mewn ffordd i guddio'r wash-out(hynny yw, tywydd glwyb uffernol a gafwyd ar y noson wener) y bu'n rhaid i Maffia druan ei odde, falle allwn ni ddim neud dim am y tywydd yng Nghymru ond dyna fe. Yr hyn wy'n gweud yw fod ymateb y dorf i'n set ni llynedd yn edrych yn dda ar gamera a bod cynhyrchwyr avanti wedi penderfynnu defnyddio'r shots yna, fel y mae shots y dorf i'r hysbysebion am Sesiwn fawr eleni'n ei ddangos, miloedd o bobl yn cael hwyl, rhywbeth i bawb, rap, Heather Jones a balwns os oeddech chi'n rhy ganol y ffordd i ganolbwyntio ar ein miwsig. Yr hyn ma pawb ishe ei weld yw parhad Sesiwn Fawr ond fel mae Prys yn ei ddweud ond dylen ni ddim cyfaddawdu ar safon wrth geisio sicrhau dyfodol yr wyl.
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Iau 17 Gor 2008 5:57 pm

Nei a ddywedodd:AronJ89, jyst ar y pwynt gwnest ti am "ddiffyg apel y Genod Droog" llynedd, fe gafon ni dorf o oleia 3,000 o bobl, nathon ni ddim apelio i neb ohonyn nhw, jyst digwydd aros yno gan bod dim modd gadel nath y dorf a godde ein set ni ie? Gafon ni'n dewis i chware fel genod Droog heb rhyddhau dim byd, falle bod hynny'n beth gwael am nad oedd gyda ni CD wedi ei rhyddhau ar y pryd ond trwy'r radio a'r we mae pobl wedi cael blas ar y caneuon a faint o bobl sy'n gwylio bandiau rap yn gwbod geiriau pob ca^n). roedden ni'n hynod o falch o gael y cyfle i gyflwyno rhywbeth newydd i Gymru a rhoi cyfle i rap Cymraeg gael llwyfan ehangach ac am hynny ma rhaid llongyfarch trefnwyr yr wyl(ac wy'n diolch iddyn nhw am y cyfle). Sdim rhaid i chi ein licio ni ond y'n ni ar lwyfan i gael hwyl ac yn gobeithio fod ein parti ni ar y llwyfan yn ymestyn i'r dorf. Y pwynt mwy difrifol yw fod band saesneg yn cloi'r Noson Sadwrn lle mae band Cymraeg yn gwneud fel arfer, a phwynt arall i'w wneud yw fod shots camerau o'n cynulleidfa ni wedi cael eu defnyddio yn ystod gig Maffia Mr Huws y noson gynt, ein exploitio mewn ffordd i guddio'r wash-out(hynny yw, tywydd glwyb uffernol a gafwyd ar y noson wener) y bu'n rhaid i Maffia druan ei odde, falle allwn ni ddim neud dim am y tywydd yng Nghymru ond dyna fe. Yr hyn wy'n gweud yw fod ymateb y dorf i'n set ni llynedd yn edrych yn dda ar gamera a bod cynhyrchwyr avanti wedi penderfynnu defnyddio'r shots yna, fel y mae shots y dorf i'r hysbysebion am Sesiwn fawr eleni'n ei ddangos, miloedd o bobl yn cael hwyl, rhywbeth i bawb, rap, Heather Jones a balwns os oeddech chi'n rhy ganol y ffordd i ganolbwyntio ar ein miwsig. Yr hyn ma pawb ishe ei weld yw parhad Sesiwn Fawr ond fel mae Prys yn ei ddweud ond dylen ni ddim cyfaddawdu ar safon wrth geisio sicrhau dyfodol yr wyl.


Dweud nesi fod y genod droog ddim yn apelio ata i yn benodl ond fe wnaethoch hyd yn oed lwyddo i gael v i fynd reit wallgof
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan 7ennyn » Iau 17 Gor 2008 6:18 pm

Pwy sy'n mynd i'r Sesiwn Fawr i wrando ar gerddoriaeth beth bynnag? Sesiwn fawr ydi o ynde. Dim ond swn cefndir ydi'r rwtsh sy'n dod o'r llwyfan.

Duw, mae yna ormod o gerddoriaeth yn y byd 'ma beth bynnag. Os dwi isio gwrando ar fiwsig, mae gennai stereo yn y ty. Be dwi isio'i weld ydi jyglars a styntbikes a pobol yn hypnoteiddio ieir a ballu. Ydi hynny yn ormod i'w ofyn?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Cardi Bach » Iau 17 Gor 2008 6:36 pm

Mae gan Prys bwynt, ac rwy'n credu fod e'n deg dweud fod nifer o drefnwyr y Sesiwn yn cydymdeimlo a'r pwynt hwnnw.
Serch hynny ( :winc: ) mae yna amgylchiadau unigryw eleni.

Mae'n wybyddus i bawb erbyn hyn fod y Sesiwn wedi gwneud colled arianol llynedd, ac fel unrhyw fusnes preifat mae'n rhaid balansio'r llyfrau a gwneud arian eleni.

Mae'r Sesiwn yn y gorffenol wedi bod yn ddewr gan roi llwyfan i fandiau Cymraeg gwych fel headliners - Estynedig, Frizbee, Genod Droog yw'r rhai mwyaf diweddar - ac mae hyn iw ganmol, ond pan fo'r pwrs yn gwasgu (pwrs ariannol :winc: ), rhaid cwtogi ac addasu.

Swn i wedi bod wrth y modd yn gweld Sibrydion neu Radio Lux yn hedleino leni, ac mae nhw'n fandie gwych sydd yn haeddu llwyfan, ond fel y gwelwyd gyda Gig Mawr Bont yn anffodus dyw eu 'brand' ddim am rhoi 'bums on seats', ac beth bynnag fo chwaeth cerddorol pobl mae'n deg dweud fod Bryn Fon a Chiz yn gwneud hynny - hynny yw gall y trefnwyr fancio ar rhyw nifer penodol o bobl yn talu ar y drws. Oes, mae posib dweud fod y Sesiwn wedi cyfaddawdu ar yr egwyddor o gynnig apel eang, ac rwy'n gweld y ddadl, ond ar yr un pryd mae'r Sesiwn wedi cyflwyno llwyfan newydd, y Babell ddawns, sydd yn mynd i roi cyfle unigryw i bob math o gerddoriaeth ddawns i ddod ynghyd, a llwyfan i'r cantorion hynny, boed yn ddawns traddodiadol neu'n ddawns o dan arweiniad DJ.

Mae'n amhosib plesio pawb, a dwy ddim yn credu fod Prys hyd yn oed yn awgrymu y dylid ceisio gwneud hynny. Ond gobeithio y daw tyrfa go lew eleni fydd yn sicrhau dyfodol ariannol i'r wyl a pharhad iddi.

Does dim rheidrwydd ar unrhyw un i'w chefnogi, yn enwedig mewn byd cyfalafol gyda'r bunt yn rheoli a chredit crunch poenus, ond gobeithio y bydd y mwyafrif yn gweld fod yna rywbeth at ddant pawb, fydd yn caniatau i'r Wyl arbrofi a chyflwyno seiniau newydd i Feirionnydd unwaith eto yn 2009.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Iau 17 Gor 2008 6:39 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Does dim rheidrwydd ar unrhyw un i'w chefnogi, yn enwedig mewn byd cyfalafol gyda'r bunt yn rheoli a chredit crunch poenus, ond gobeithio y bydd y mwyafrif yn gweld fod yna rywbeth at ddant pawb, fydd yn caniatau i'r Wyl arbrofi a chyflwyno seiniau newydd i Feirionnydd unwaith eto yn 2009.


Amen :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Iau 17 Gor 2008 7:56 pm

aronj89 a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Does dim rheidrwydd ar unrhyw un i'w chefnogi, yn enwedig mewn byd cyfalafol gyda'r bunt yn rheoli a chredit crunch poenus, ond gobeithio y bydd y mwyafrif yn gweld fod yna rywbeth at ddant pawb, fydd yn caniatau i'r Wyl arbrofi a chyflwyno seiniau newydd i Feirionnydd unwaith eto yn 2009.


Amen :lol:


eiliaf :D

Fel mae Cardi Bach yn ddweud yn ei neges cyflawn, a mae aronj89 wedi ddeud yn rhan olaf rhyw neges cynt, mae 'na amgylchiadau arbennig eleni, a dwi'n derbyn hynny

doeddwn ddim yn ymwybodol o'r ffactorau yma (colled ariannol llynedd, colli grantiau leni) cyn agor fy ngheg fawr flin ben bora ma

ond, yn rhyfedd reit, dwi yn gallu hypnoteiddio ieir (onest!)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Iau 17 Gor 2008 8:04 pm

Prysor a ddywedodd:
aronj89 a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Does dim rheidrwydd ar unrhyw un i'w chefnogi, yn enwedig mewn byd cyfalafol gyda'r bunt yn rheoli a chredit crunch poenus, ond gobeithio y bydd y mwyafrif yn gweld fod yna rywbeth at ddant pawb, fydd yn caniatau i'r Wyl arbrofi a chyflwyno seiniau newydd i Feirionnydd unwaith eto yn 2009.


Amen :lol:


eiliaf :D

Fel mae Cardi Bach yn ddweud yn ei neges cyflawn, a mae aronj89 wedi ddeud yn rhan olaf rhyw neges cynt, mae 'na amgylchiadau arbennig eleni, a dwi'n derbyn hynny

doeddwn ddim yn ymwybodol o'r ffactorau yma (colled ariannol llynedd, colli grantiau leni) cyn agor fy ngheg fawr flin ben bora ma

ond, yn rhyfedd reit, dwi yn gallu hypnoteiddio ieir (onest!)


Gei di docyn am ddim felly :winc: Pawb yn hapus :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Iau 17 Gor 2008 8:29 pm

fydda i, na fy ieir, yno yn anffodus :(
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Obsidian » Gwe 18 Gor 2008 11:26 pm

Does rhyfedd bod Sesiwn Fawr ar ei gliniau. £30k mewn dyled? Ble'n union mae’r synnwyr economaidd cael gymaint o fandiau hen (hip hip replacement) ac o tu allan i Gymru yn chware? Eitha eironig cael baner fawr ar y llwyfan yn hyrwyddo C2 "Calon Cerddoriaeth Cymru”? Coal Porters? Bedouin Jerry Can Band? Justin Adams and Juldeh Camara? Natacha Atlas? Lisa Mills? Johnny Dickinson? Saw Doctors? Beth yw'r ots ganddyn nhw am Gymru? Damwain a hap.... Rwyf wedi bod yn gwylio Sesiwn ar S4C heno, llwyth o gach, sain diawledig a prin yn gallu clywed y lleisiau [sydd ddim yn ddrwg o beth hefo be dwi yn gallu glywed o Chiz - roedd na rywbeth o'i le, rhyw beth mawr o'i le] a mae’r gynulleidfa yn edrych mor frwdfrydig a llo mewn lladdfa.
Dear GOD: Did you mean for the giraffe to look like that or was it an accident?
Rhithffurf defnyddiwr
Obsidian
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sul 13 Maw 2005 12:19 pm
Lleoliad: A55

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Reufeistr » Sad 19 Gor 2008 1:29 am

Ffoc mi, ma'r drafodaeth ma'n ddiflas.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron