Gwyrosydd a ddywedodd:Pryd ddywedais i nad ydy Cymry yn gallu mwynhau diwylliant trwy gyfrwng y Saesneg yn ogystal a'r Gymraeg? Ateb - wnes i ddim a fyswn i ddim.
Pryd ddywedais fod rhywun yn "ang-Nghymreig"? Ateb - wnes i ddim. Ti'n son am ddadl syniadaethol ynglyn a fy natganiad cyntaf - doedd dim dadl yno, dim beirniadaeth, dim gwleidyddiaeth, dim ond gosod darlun o beth ddigwyddodd.
Pryd ddywedais i ei bod yn 'fradwrus' i hoffi unrhywbeth ar wahan i ganu Cymraeg? Ateb - wnes i ddim.
Doed dim o'i le o gwbl mewn mwynhau cerddoriaeth o ba bynnag iaith na diwylliant na ran o'r byd. Yn wir, mae'n amhosibl peidio a dwi'n ei fwynhau! Nid dyna oedd fy mhwynt i o gwbl, darllen eto! Un peth yw perfformio a rhoi o'ch hun, peth arall ydy gwrando a gwylio.
felly be di dy broblam di efo band yn canu un cyfyr Susnag ynghanol eu set?