18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Llun 28 Gor 2008 3:25 pm

Gwyrosydd a ddywedodd:Pryd ddywedais i nad ydy Cymry yn gallu mwynhau diwylliant trwy gyfrwng y Saesneg yn ogystal a'r Gymraeg? Ateb - wnes i ddim a fyswn i ddim.

Pryd ddywedais fod rhywun yn "ang-Nghymreig"? Ateb - wnes i ddim. Ti'n son am ddadl syniadaethol ynglyn a fy natganiad cyntaf - doedd dim dadl yno, dim beirniadaeth, dim gwleidyddiaeth, dim ond gosod darlun o beth ddigwyddodd.

Pryd ddywedais i ei bod yn 'fradwrus' i hoffi unrhywbeth ar wahan i ganu Cymraeg? Ateb - wnes i ddim.

Doed dim o'i le o gwbl mewn mwynhau cerddoriaeth o ba bynnag iaith na diwylliant na ran o'r byd. Yn wir, mae'n amhosibl peidio a dwi'n ei fwynhau! Nid dyna oedd fy mhwynt i o gwbl, darllen eto! Un peth yw perfformio a rhoi o'ch hun, peth arall ydy gwrando a gwylio.


felly be di dy broblam di efo band yn canu un cyfyr Susnag ynghanol eu set?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Daffyd » Llun 28 Gor 2008 4:35 pm

benni hyll a ddywedodd:Rhywun yn gwybod pam nad oedd Bryn Fon na Celt ar y rhaglen uchafbwyntiau dros y penwythnos? Er dyn nhw ddim at fy chwaeth i, oni'n gweld hi'n od bod 2 o'r artistiaid Cymraeg mwya yn y Sesiwn ddim i'w gweld yn unman...

O be dwi'n ddallt, dodd Bryn Fon ddim wedi cytuno ar ffi efo Avanti.

Dwnim am Celt.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan osian » Llun 28 Gor 2008 5:15 pm

Yn bwysicach, pam nad oedd Cowbois, Derwyddon na Steve Eaves ar y rhaglan uchafbwyntia?
allai ddallt nad oedd modd dangos pawb, ond pam dangos Al Lewis a 9 bach o'r theatr acwstic, a dim SteveEaves?
gwallgofrwydd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Llun 28 Gor 2008 7:35 pm

osian a ddywedodd:Yn bwysicach, pam nad oedd Cowbois, Derwyddon na Steve Eaves ar y rhaglan uchafbwyntia?
allai ddallt nad oedd modd dangos pawb, ond pam dangos Al Lewis a 9 bach o'r theatr acwstic, a dim SteveEaves?
gwallgofrwydd.


Falle gan fod llawer heb gael cyflau i fynd i'r theatre acwstig. Nesi joio perfformiad Al Lewis. Amser iddo gael cyflau ar y prif lwyfan yn fy marn i. Ond dwi'n cytuno am Derwyddon a Cowbois yn sicr
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan osian » Llun 28 Gor 2008 8:25 pm

Ia...ond o'dd Steve Eaves ar y llwyfan mawr a'r llwyfan acwstic...
dio'm otsh beth bynnag, mond y tua 40(?) o'dd yna geith wbod pa mor ffycin ffantastig oddo. :)
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Lals » Mer 30 Gor 2008 1:04 pm

Dw i'n meddwl bod canu un gan Saesneg fel teyrnged i fand dach chi'n edmygu (fel wnaeth Cowbois) yn o.k. Beth sy'n siomedig ydy band Cymraeg honedig yn gwneud mwy na hanner eu set yn Saesneg.

Mi ges i siom mewn gig Gwibdaith Hen Fran ychydig fisoedd yn ol. Nid yn unig ro'n nhw'n canu yn Saeseg ond fe wnaethon nhw ganu un gan hollol xenophobic yn Saesneg - can oedd yn gwawdio Saeson, Gwyddelod, Albanwyr , Ffrancwyr ac Eidalwyr ac roedd o dorf o Gymry Cymraeg wrth eu boddau (dim pob un rhaid cyfaddef). Onid yw hyn yn gul, ynysig ac yn hen ffasiwn?

Mae canu yn Saesneg yn un peth ond mae canu can xenophobic ac o bosib hiliol yn fater arall. Roedd gen i gywilydd bod yno. Sori, does wnelo hyn ddim oll a'r Sesiwn Fawr, ond mae'r peth wedi fy nghorddi ers misoedd.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Mer 30 Gor 2008 1:58 pm

Lals a ddywedodd:Mi ges i siom mewn gig Gwibdaith Hen Fran ychydig fisoedd yn ol. Nid yn unig ro'n nhw'n canu yn Saeseg ond fe wnaethon nhw ganu un gan hollol xenophobic yn Saesneg - can oedd yn gwawdio Saeson, Gwyddelod, Albanwyr , Ffrancwyr ac Eidalwyr ac roedd o dorf o Gymry Cymraeg wrth eu boddau (dim pob un rhaid cyfaddef). Onid yw hyn yn gul, ynysig ac yn hen ffasiwn?

Mae canu yn Saesneg yn un peth ond mae canu can xenophobic ac o bosib hiliol yn fater arall. Roedd gen i gywilydd bod yno. Sori, does wnelo hyn ddim oll a'r Sesiwn Fawr, ond mae'r peth wedi fy nghorddi ers misoedd.


Oni meddwl mai 'prejudice' (dwnim be dio'n Gymraeg sori) odd y gair am hyn a ddim hiliaeth.
Rhaid cofio er hynny mai band sy'n codi hwyl yw gwibdaith a hanner yr amser dydi'r geiriau ddim yn bwysig... "trons dy dad hefo twll yn y canol, ma nw'n wahanol" :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Cawslyd » Mer 30 Gor 2008 2:55 pm

Lals - Dydi canu "You can stick your fucking chariots up your arse" (gan gymryd yn ganiataol mai y gân honno wyt ti'n gyfeirio ati hi) ddim yn hiliol na senophobaidd. Ma'n gân ysgafn, does na'm casineb tu ôl iddi hi. Cân rygbi 'di hi; odd Cymru newydd ennill y Gamp Lawn. Pan welis i Gwibdaith yn canu'r gân, odd na lwyth o Ffrancwyr 'na, a dwi'm yn meddwl y bu i unrhywun ohonyn nhw gymryd y gân i galon, (er, deud y gwir, dwnim faint ohonyn nhw odd yn dalld.)

Eniwe, nôl i'r brif drafodaeth - dydi Cowbois, Gwibdaith na neb arall yn dwyn anfri nac yn bychanu'r iaith Gymraeg, y diwylliant Cymraeg/Cymreig na'n hyfryd, berffaith genedl drwy gan caneuon yn Saesneg. Fel ddudodd Prys, ma angan i bobl sy'n meddwl hynny adnewyddu eu diffiniad o Gymreictod - nid cenedl na diwylliant fewnblyg sydd yma, ond diwylliant sy'n edrych yn allan, ond ar yr un pryd yn cofio ac yn gwarchod ei hen, hen draddodiada'. Fedri di ddim gwadu fod band fatha' Cowbois yn gneud hynny - fe chwaraeon nhw fersiynau o ganeuon traddodiadol gwerin fel Paid â Deud yn eu set, ochr yn ochr â'r cyfyr sy'n dangos eu bod yn blant i Satan.

Fel ma Obama isio symud heibio y ddadl am hil yn yr Unol Daleithia, ma rhaid i ni yng Nghymru symud heibio'r ddadl a'r gwrthdaro ieithyddol yng Nghymru. Mi yda ni mewn oes lle mae'r Gymraeg yn cael ei hystyried fel rhinwedd ddiwylliannol pwysig gan y mwyafrif o Gymry a dydi tynnu (neu daflu) nyth cacwn am ben rhywun sy'n cydnabod, yn ogystal ag embrêsio dylanwadau diwylliannau eraill ddim yn gneud unrhyw les i'r broses enhangach o hybu'r diwylliant Cymraeg/Cymreig.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan osian » Mer 30 Gor 2008 5:32 pm

Cawslyd a ddywedodd:Lals - Dydi canu "You can stick your fucking chariots up your arse" (gan gymryd yn ganiataol mai y gân honno wyt ti'n gyfeirio ati hi) ddim yn hiliol na senophobaidd. Ma'n gân ysgafn, does na'm casineb tu ôl iddi hi. Cân rygbi 'di hi; odd Cymru newydd ennill y Gamp Lawn. Pan welis i Gwibdaith yn canu'r gân, odd na lwyth o Ffrancwyr 'na, a dwi'm yn meddwl y bu i unrhywun ohonyn nhw gymryd y gân i galon, (er, deud y gwir, dwnim faint ohonyn nhw odd yn dalld.)

dwi'm yn meddwl ddyla chdi selio dy ddadl ar ymatab y Ffrancwyr i'r gan! :lol: (ffrancwyr penodol ddim y genedl yn gyffredinol)
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Rhodri » Iau 31 Gor 2008 8:54 am

Dwi'n siwr i mi glywed Gwibdaith yn canu cyfyr Buena Vista Social Club, chlywish neb yn cwyno am y defnydd o Sbaeneg. Problem efo Saeson sgenoch chi a ffyc ol arall.
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

NôlNesaf

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron