Hen dro am y babell Reu. Gont o beth di hynna.
Ges i'n siomi ar yr ochr ora ar y cyfan. Oedd mi oedd yr hedleinars yn wan. Deud gwir oedd Chis yn erchyll (allaim diodda'i gerddoriaeth o eniwe, ond dwi'n siwr fod o di lladd amball i frithyll yn yr wnion efo'i nadu), a'r Saw Docs mor ddiflas a brechdan uwd.
Ond roedd rhai o'r bandia erill welish i'n wych. Derwyddon yn agos at fod yn olynwyr Anweleds fel party band y Sesiwn. Natacha Atlas a N'faly n ddifyr, Endaf Emlyn yn fendigedig wrth gael swpar, 9bach yn lyfli (hynny welish i).
Mi o'n i'n teimlo fod £22 am y nos Wenar yn steep iawn, ond y £25 am y nos Sad yn ddigon teg. Ond gyfarfyddais i deulu oedd di penderfynu peidio mynd mewn am fod eu plant nhw oedd yn eu arddegau cynnar am orfod talu'r tal mynediad llawn. Chydig bach o gam gwag fanna de, os oedd yr un polisi wedi gneud r'un peth i bobol erill.
Yr Ymryson angan mynd nôl i'r Clwb Rygbi 'fyd (hei Prys, raid ti watsiad, dwi'n dechra dwyn dy dir di ar y Limrig
), ac mi fydd o ar ôl y bleidlais yn Nhŷ Siamas, os fydd ganddon ni Sesiwn arall de...ella fod angan saib ar y dre, fatha Mr Eavis a'i warthag, i adal i'r gwair dyfu nôl ac i bobol sylwi fod na gollad ar i ôl o.
Maes-eio ers 2002, yo.