18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan dil » Iau 31 Gor 2008 11:08 am

"You can stick your fucking chariots up your arse"
be sy'n bod hefo hune?
dwi'n teimlo fel canu hune allan yn amal fy hun.
a mane elfen o gasineb yn hynu.
gas genai glywed nhw yn canu'r can gan mai can slefs odd hi yn wreiddiol.
malu cachu llwyr di son am fod yn hiliol.
ma teimlade o atgas tuag at opresyr yn naturiol.
ma anghen poeni llai am yspetio y opresyr (saeson) a meddwl am sut ma cymru a prydain yn trin diwylliane erill.
ma hune yn poeni fi fwy be bynnag.
dwin teimlo fod diffig perspectif.
ma gwibdaeth hen fran di llwyddo i neud bobl deimlo yn
impowered wrth ganur gan.
mane hangups am y saeson yn amlwg.
a dwim yn meddwl dylie bobl opresio ei teimlade am byth.
man rhan o be deni anghen i symud mlaen fel cenedl.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Ray Diota » Iau 31 Gor 2008 11:20 am

dil a ddywedodd:"You can stick your fucking chariots up your arse"
be sy'n bod hefo hune?
dwi'n teimlo fel canu hune allan yn amal fy hun.
a mane elfen o gasineb yn hynu.
gas genai glywed nhw yn canu'r can gan mai can slefs odd hi yn wreiddiol.
malu cachu llwyr di son am fod yn hiliol.
ma teimlade o atgas tuag at opresyr yn naturiol.
ma anghen poeni llai am yspetio y opresyr (saeson) a meddwl am sut ma cymru a prydain yn trin diwylliane erill.
ma hune yn poeni fi fwy be bynnag.
dwin teimlo fod diffig perspectif.
ma gwibdaeth hen fran di llwyddo i neud bobl deimlo yn
impowered wrth ganur gan.
mane hangups am y saeson yn amlwg.
a dwim yn meddwl dylie bobl opresio ei teimlade am byth.
man rhan o be deni anghen i symud mlaen fel cenedl.


lico'r bwlet points, dil! ti di meddwl trio am job fel speech-writer Aran Jones?

ma gwibdaeth hen fran di llwyddo i neud bobl deimlo yn
impowered wrth ganur gan.


:?

a dwim yn meddwl dylie bobl opresio ei teimlade am byth.


TI'N SIARAD LOT O BOLLOCKS!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 31 Gor 2008 11:34 am

Dwi'n meddwl bo gen dil bwynt - os ti'n galluogi 'teip Gwibdaith' (a bod yn sarhaus a nawddoglyd felna am funud) i fod yn 'hiliol' - ac fel mae dil yn dweud, mae atgasedd at orthrymwr yn rhywbeth sy'n bownd o ddigwydd - mewn ffordd ddigon diniwed a hwyliog yn mynd i wneud lles i'r psyche am ei fod o'n torri'r ffin rhwng hiliaeth a gwaseidd-dra; ei gwneud hi'n ok i ddirmygu a ridiciwlio'r Saeson, a hynny mewn ffordd sy'n creu hyder ac yn tynnu'r edge ymosodol oddi ar yr atgasedd naturiol. Hi-hiliaeth os leciwch chi.

Mae'r gân yna'n wirioneddol glyfar mewn mannau hefyd - e.e. 'I'd rather wear a turban than a rose', sy ar yr wyneb yn insylt plaen, ond sy hefyd yn ddychan miniog iawn o hysteria hiliol (a hiliaeth go iawn, ar ei futraf) y Saeson.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Ray Diota » Iau 31 Gor 2008 11:40 am

dawncyfarwydd a ddywedodd:
Mae'r gân yna'n wirioneddol glyfar mewn mannau hefyd - e.e. 'I'd rather wear a turban than a rose', sy ar yr wyneb yn insylt plaen, ond sy hefyd yn ddychan miniog iawn o hysteria hiliol (a hiliaeth go iawn, ar ei futraf) y Saeson.


:ofn: :ofn: :ofn:

Yyyyym. Nadi. Ma hwnna jyst yn hiliol. Jeeesus wept, wyt ti wir yn meddwl bo ffans rygbi'n meddwl: "I'll tell you what we need right now, Gav, what with us bein' three points up 'n all, is a critique of the racist hysteria which is at the core of English culture"

Ti off dy ben 'chan. Cân hiliol yw honna, y clown!

Ma rhai Cymry Cymraeg yn codi ofn arno fi 'da'r ffordd ma nhw'n gweld y byd, wir Dduw.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Gorwel Roberts » Iau 31 Gor 2008 12:50 pm

Chwarae efo tan? (er o bosib mai tynnu ein coesau mae dawncyfarwydd???)
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Ray Diota » Iau 31 Gor 2008 12:58 pm

Gorwel Roberts a ddywedodd:Chwarae efo tan? (er o bosib mai tynnu ein coesau mae dawncyfarwydd???)


ai nes i feddwl 'na dros fy lasagne amser cinio! gobitho i dduw ontefe? fi off nol i'r gwely wy'n meddwl...

wy'n meddwl bo alun cairns wedi deffro fy inner racist-radar... wy di cal sawl dadl am y pwnc coc dros yr wthnose dwetha, wy fel sen i'n hyfforddi am job 'da'r CRE... :rolio:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan dil » Iau 31 Gor 2008 12:59 pm

gobeithio fod sesiwn fawr yn digwydd flwyddyn nesa.
diolch ir trefnwyr am ei gwaith caled.
Golygwyd diwethaf gan dil ar Iau 31 Gor 2008 1:03 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Sioni Size » Mer 13 Awst 2008 5:13 pm

Ar ol y datguddiad yr wythnos yma nad ydi clybiau pel-droed yn talu am heddlua y tu allan i'w stadiymau ni ddylai Sesiwn Fawr dalu ceiniog i'r heddlu o hyn ymlaen.

Ac os nad ydyn nhw'n hoffi hynny, a bygwth nad ydynt am adael i'r Sesiwn gael ei chynnal felly oherwydd 'cadw trefn' neu 'iechyd a diogelwch' neu 'amddiffyn y cyhoedd', yna fe ddylid eu cael i'r llys i esbonio sut fod Manchester United ddim yn gorfod talu i gadw eu ffans hwy a Lerpwl oddi wrth eu gilydd tu allan i'r stadiwm tra fod y sesiwn fawr yn gorfod talu llwyth er mwyn iddyn nhw gerdded yn dew rownd dre yn gneud bron i ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Mer 13 Awst 2008 5:52 pm

Sioni Size a ddywedodd:Ar ol y datguddiad yr wythnos yma nad ydi clybiau pel-droed yn talu am heddlua y tu allan i'w stadiymau ni ddylai Sesiwn Fawr dalu ceiniog i'r heddlu o hyn ymlaen.

Ac os nad ydyn nhw'n hoffi hynny, a bygwth nad ydynt am adael i'r Sesiwn gael ei chynnal felly oherwydd 'cadw trefn' neu 'iechyd a diogelwch' neu 'amddiffyn y cyhoedd', yna fe ddylid eu cael i'r llys i esbonio sut fod Manchester United ddim yn gorfod talu i gadw eu ffans hwy a Lerpwl oddi wrth eu gilydd tu allan i'r stadiwm tra fod y sesiwn fawr yn gorfod talu llwyth er mwyn iddyn nhw gerdded yn dew rownd dre yn gneud bron i ddim.


Good Call
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan gimp gruff rhys » Gwe 15 Awst 2008 1:07 pm

Sesiwn fawr shocking bl. yma
Er, mond ar y dydd Sadwrn eshi, Ond £25!??!?!?! Geshi 10x o amser gwell yn wyl gardd goll am £8! Gyda Line up llawer gwell a lleoliad anhygoel.
Sortiwch hi allan!
took pity on you? took a piss on me!

http://www.davidhasselhoff.com
Rhithffurf defnyddiwr
gimp gruff rhys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 9:46 pm
Lleoliad: caernarfon, gwynedd, gogledd cymru

NôlNesaf

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron