18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Jakous » Sad 26 Gor 2008 3:58 pm

Gwyrosydd a ddywedodd:Difyr yw'r syniad mai hen ffasiwn yw disgwyl i grwp Cymraeg ganu yn y Gymraeg. Beth welwyd ar Farian Dolgellau unwaith yn rhagor oedd oddeutu mil o Gymry Cymraeg yn y Fro Gymraeg mewn gwyl Gymraeg (mae amcanion swyddogol yr wyl yn son am hybu cerddoriaeth draddodiadol a'r iaith Gymraeg) a miloedd eraill o Gymry Cymraeg yn gwrando drwy'r cyfryngau yn gwrando ar griw o Gymry Cymraeg yn cyflwyno'u hunain fel grwp Cymraeg ac yn siarad gyda'r gynulleidfa yn y Gymraeg, ond yn canu can Saesneg. Nid beirniadaeth, ond ffaith.

Mae dewis canu yn y Gymraeg yn safiad gwleidyddol. Hyd yn oed yn fwy felly y dyddiau yma pan fo nifer fawr yn dewis peidio canu'n uniaith Gymraeg. Mae grwp Cymraeg yn dewis canu can Saesneg hefyd yn safiad gwleidyddol. Hoffi hynny neu beidio. Nid beirniadu, ond ffaith. Dwi'n hollol argyhoeddedig y gwelwn grwpiau nawr yn ymateb i ddweud "na doedd o ddim yn benderfyniad gwleidyddol, da ni jest yn hoffi'r gan" - wel rydych chi'n naif iawn felly gyfeillion.

Roeddwn i yno ac mi glywais Wild Horses ac mi gefais siom. Os ydw i eisiau clywed canu Cymraeg mi ddof i Ddolgellau a gwrando ar grwpiau Cymraeg (a dewis gwrando neu beidio ar grwpiau rhyngwladol). Mi wn i am le lle y gallaf wrando ar ganu Saesneg bob dydd o'r flwyddyn - dewisaf fynd yno yn achlysurol, ond nid felly y bu y penwythnos diwethaf.

Y cwestiwn yn y pendraw mae'n debyg yw beth yw'r pwynt canu yn y Gymraeg yn y lle cyntaf?

O ran y Sesiwn Fawr - y trefnwyr ddewisodd i'r wyl dyfu fel hyn. Nhw ddechreuodd wahodd grwpiau enfawr ac o'r herwydd gorfod symud yr wyl a chodi tal. Doedd dim rhaid, doedd dim angen, dewis oedd o. Roedd hi'n amlwg yn fuan iawn na fyddai hynny'n gynaliadwy yn yr hir dymor. Yr unig ffordd o gynnal gwyl yng Nghymru dros gyfnod o ddegawdau yw drwy ei reoli'n llym a'i gadw ar lefel fechan. Eleni roedd Y Theatr Fach, Ty Siamas a'r Clwb Rygbi yn dilyn ol troed y Sesiwn Fawr wreiddiol. Cynaliadwy a phleserus. Y gweddill ar y Marian oedd yn boendod (rhaid cyfaddef na fues i i'r babell ddawns - er ei fod yn edrych yn dda ar y teledu) a'r gweddill ar y Marian, am wn i, yw'r boendod ariannol i'r trefnwyr.

Oni fyddai Sesiwn Fawr o'r math hwn yn llwyddo eto? Clwb Rygbi, Ty Siamas, Theatr Fach, Cerddoriaeth yn y Ship a llwyfan bach ar y sgwar? Efallai ddim a fod pethau wedi mynd yn rhy bell a'r disgwyliadau'n rhy fawr bellach. Ond ar ol blwyddyn o hoe efallai?

Am ffocing bolycs pur. Ma genti hawl i dy farn, ond sgentim hawl deud "ffaith hyn" a "ffaith llall".

Yn enwedig pan ma be ti'n ddeud yn bwlshit.
"If senses fail, then thoughts prevail."
Rhithffurf defnyddiwr
Jakous
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Maw 20 Medi 2005 9:26 pm
Lleoliad: Y Byd

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Gwyrosydd » Sul 27 Gor 2008 9:24 am

Nifer yn anghytuno ac yn bytheirian, ond prin yw'r ddadl hyd y gwela i.

Un ar y tro felly: Jakous - pa un o'r 2 ffaith wyt ti'n credu sy'n werth rhegi amdanynt felly? Yr un gyntaf yn datgan mai ffaith oedd fod grwp Cymraeg yn y fro Gymraeg yn canu can Saesneg i gynulleidfa Gymraeg? Yr unig ran o'r datganiad sy'n amheus yw fod y gynulleidfa yn Gymraeg ei hiaith. Ond, roeddwn i yno, ac yn fwy nag erioed o'r blaen o beth welais i, Cymry Cymraeg oedd y gynulleidfa gyda llawer llai o'r di-Gymraeg yn dilyn cerddoriaeth byd eleni. Felly, Jakous, pa ran sy'n anghywir o'r datganiad cyntaf?

O ran yr ail ffaith y soniais amdani - beth am ateb yr ymholiad gwreiddiol
Y cwestiwn yn y pendraw mae'n debyg yw beth yw'r pwynt canu yn y Gymraeg yn y lle cyntaf?


Mae nifer o resymau am ganu yn y Gymraeg wrth gwrs, megis hwyl, arian teledu, naturiol i'w wneud e, cael ymarfer bod yn band sy'n gigio cyn troi i'r Saesneg a gwneud arian, cael cytundeb recordio rhwyddach, pwysau cyfoedion, merch ti ffansi yn Gymraes dda ac ati. Ond dim ond un rheswm hyd y gwn i wnaiff sicrhau fod grwp yn aros yn yr iaith Gymraeg yn unig - safiad gwleidyddol.

Dwi'n derbyn, Ramirez, nad yw hyn wedi croesi meddwl dy fand (a dwi'n ffan) na llawer i fand arall, ond nid yw'n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Roedd dy ymateb yn ragweladwy, ond nid eich ysgogiad gaiff ei weld o'r llwyfan, ond y neges a gyfleir.

Prysor - Wyt ti wir yn credu mai dim ond pethau traddodiadol y dylid eu cadw'n y Gymraeg? Mae'n rhaid i'r iaith ddatblygu ac esblygu drwy'r cyfoes ac mae hynny'n cynnwys roc a rol - gwneud popeth yn Gymraeg. Pam na wnei di sgwennu dy nofel nesaf yn Saesneg? Traddodiad llafar yw'r un Cymraeg/Brythoneg yn draddodiadol/wreiddiol. Pwynt hurt dwi'n gwybod, ond mae'r egwyddor yn ddilys mi gredaf. Mae angen sin roc/rap/dawns/gwerin a phob dim arall drwy'r Gymraeg - mae hynny'n safiad gwleidyddol. Mae ei angen am ddau reswm - un yw i ni gael hwyl a dathlu'n hunaniaeth; yr ail yw i genhadu fod y gair 'cwl' yn gallu bodoli yn yr un frawddeg a 'Cymraeg', chwedl Rhys Mwyn. Fel arall waeth i ni i gyd wneud popeth drwy'r Saesneg - gan gynnwys cyfathrebu. Mae neges ffraeth Gorwel yn agos i'r gwir mae gen i ofn, galle ni fod yn West Britain yn rhwydd iawn.

Mae miloedd... cannoedd o filoedd o grwpiau'n canu yn Saesneg, dim ond rhyw gant sy'n canu yn y Gymraeg, beth am geisio cadarnhau hynny.

Dwi'n derbyn dy bwynt Prysor am iechyd a diogelwch y Sesiwn Fawr. Ond dwi'n credu fod y dewis wedi ei wneud ymhell cyn hynny drwy wahodd grwpiau fel yr Alarm ac ati i'r sgwar. Meddwi ar lwyddiant yr holl beth a chwilio am bethau gwell a mwy, yn hytrach na chreu gwyl gynaliadwy a hwyl. Mae egni'r trefnwyr yn ffantastig ac mae clod enfawr yn ddyledus i griw o wirfoddolwyr sydd wedi creu gwyl orau Cymru. Yn fy marn i mi fyddai hon yr wyl orau yng Nghymru pe byddai'r Saw Doctors/Bob Geldof/Levellers ac ati yno au peidio.

Does dim 'shock horror' o gofio grwpiau rhyngwladol yn y Sesiwn Fawr. Mae hynny'n beth iach ac i'w groesawu ac mae croes beillio traddodiadau yn iach. Mae wedi ychwanegu rhywbeth i'r wyl yn sicr. Ond mae colled pan mai nid ein grwpiau ni yn dathlu'n bodolaeth ni sydd yn cloi'r wyl. Dwi ddim yn ffan o Frizbee, ond pwy sy'n cofio'r miloedd yn gwirioni ar y Marian rai blynyddoedd yn ol? Gwych a parch iddynt ac i'r trefnwyr am y noson honno!

Ynglyn a dy bwynt teilwng di Llewelyn Richards. Efallai fod angen delio gyda'r bwystfil fel ag y mae - digon teg - efallai mai fi sy'n bod yn naif yn breuddwydio am rhyw wyl na fydd fyth eto. Mi fydd yn gur pen i'r trefnwyr yn anffodus, ond dwi'n dymuno'r gorau iddynt ac yn wir obeithio y bydd dyfodol y Sesiwn yn llewyrchus. Byddai ei cholli yn drasiedi i'r Gymru gyfoes - dim gor-ddweud.

Petai gyda ti gyfaill o'r Iwerddon/Alban, yn genedlaetholwr, yn dod draw i aros ac yntau eisiau blasu diwylliant Cymraeg ei iaith ar ei orau - i ble fyddet ti'n mynd ag e? Dwi'n gwybod lle fyddwn i'n mynd - Sesiwn Fawr Dolgellau.

A chyda hynny - calla dawo mae'n siwr! :lol:
Un rheg yw fy mhader i.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyrosydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 05 Hyd 2004 12:59 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Sul 27 Gor 2008 11:13 am

Gwyrosydd a ddywedodd:Jakous - pa un o'r 2 ffaith wyt ti'n credu sy'n werth rhegi amdanynt felly?


Mae ganddo tourettes :lol: :lol: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Gorwel Roberts » Llun 28 Gor 2008 8:20 am

Prysor a ddywedodd: "Os na all y diwylliant cyfoes Cymraeg ei iaith dderbyn a chydnabod ei ddylanwadau rhyngwladol - a'i le oddi fewn i hwnnw - yna mae rhywbeth mawr o'i le ar y psyche. Mae o'n stopio dod o safbwynt amddiffyn/adfer/cynnal/hybu/mwynhau ein diwylliant cynhenid, ac yn troi yn gul, ynysig, mewnblyg ac ecscliwsif.

Mae'n fy nhristhau fi bob blwyddyn, pan mae band o bobol ifanc cydwybydol Cymraeg, sydd a'u credentials o gynnal a hybu Cymreictod trwy eu cynnyrch ymysg y gorau ar y sîn, yn cael eu barnu - gan ddeallusion - am ganu un gan Saesneg mewn gwyl aml-ieithog fel Sesiwn Fawr.

Fel ma Lovgreen yn ddeud - di o ddim fel Steddfod.

Os da chi'n teimlo mor gryf am hybu diwylliant cerddorol Cymraeg go iawn, peidiwch a chwarae roc a rol o gwbwl, a sticiwch i ganu traddodiadol, efo offerynnau traddodiadol."

Dwi ddim yn deall dy bwynt di ynglyn a roc a rol/canu traddodiadol, Prys? Pam tynnu gwahanfur rhwng canu cyfoes/canu gwerin (neu unrhyw fath o fiwsig)? Mae hynny wedi bod yn broblem yng Nghymru erioed. Os rhywbeth, chwalu'r ffiniau rhwng cerddoriaeth sydd angen a derbyn ein traddodiad gwerin yn rhan o ganu cyfoes. Mae agwedd fel 'na'n gosod pob math o ganu cyfoes mewn un camp a'r traddodiad gwrerin ar ei ben ei hun mewn camp arall - wrong, wrong, wrong. Dwi'n hapus iawn i chwarae pob math o fiwsig yn Gymraeg ar bob mathau o oferynnau a pheidio a thynnu llinell rhwng 'roc a rol' a'r ' traddodiad gwerin'. (Prys, paid a gwylltio efo fi, mae'n iawn i ni anghytuno weithiau)
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Reufeistr » Llun 28 Gor 2008 8:52 am

Dwi di sgwennu caneuon Saesneg a fyswni'n mwy na barod eu perfformio nhw'n sesiwn fawr a sdeddfod.
Wwwwww tydw i'n hen sais! Troi nghefn ar "yr hogia" aballu.







Ffwcio'r deinasoriaid.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Llun 28 Gor 2008 9:41 am

Gwyrosydd a ddywedodd:Yr un gyntaf yn datgan mai ffaith oedd fod grwp Cymraeg yn y fro Gymraeg yn canu can Saesneg i gynulleidfa Gymraeg? Yr unig ran o'r datganiad sy'n amheus yw fod y gynulleidfa yn Gymraeg ei hiaith. Ond, roeddwn i yno, ac yn fwy nag erioed o'r blaen o beth welais i, Cymry Cymraeg oedd y gynulleidfa gyda llawer llai o'r di-Gymraeg yn dilyn cerddoriaeth byd eleni.


A dyna wendid sylfaenol dy ddadl di, ac eraill sy'n dal at y syniad yma. Dadl syniadaethol yn unig ydi hi - rhyw ddoctrin gwleidyddol, rhyw freuddwyd, sy'n pennu fod pob Cymro a Chymraes dwyieithog ond yn mwynhau diwylliant trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, a nad ydynt, felly, yn, nac eisiau, mwynhau caneuon trwy gyfrwng y Saesneg.

Efallai dy fod ti yn teimlo fel'na. Os wyt ti - yr unig ffordd i beidio cael dy lygru gan 'elfennau estron' ydi sticio at y Steddfod a dy gapel lleol. Wedyn bydd dy ddiwylliant a dy enaid yn bur.

MANIFFESTO GWLEIDYDDOL PLAID NATSIS CYMRU
"Daliwn mai greddf a deisyfiad naturiol pob dinesydd Cymreig yw mwynhau pob diwylliant trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Cymry ydym, felly dim ond diwylliant Cymraeg allwn ni eu hoffi. Ni ddylai'r genedl wrando ar gerddoriaeth Saesneg, na gwylio teledu Saesneg, na darllen unrhyw lenyddiaeth yn Saesneg, ac mae darparu unrhyw ddiwylliant poblogaidd trwy gyfrwng Saesneg yn drosedd yn erbyn y genedl. Mae'r gosb i'r sawl sy'n torri'r cyfreithiau hyn, yn llym.

:winc:

ond nid eich ysgogiad gaiff ei weld o'r llwyfan, ond y neges a gyfleir.


Typical eideolojist. Gweld 'negeseuon' yn lle mwynhau, barnu pawb am beidio cadw 'on-message', wedyn diawlio eraill am fethu'i weld o gwbwl.

Gwyrosydd a ddywedodd:Prysor - Wyt ti wir yn credu mai dim ond pethau traddodiadol y dylid eu cadw'n y Gymraeg?


Dim o gwbwl. A ti'n gwybod hynny. Ti'n dilyn is-bwynt (a'i wyrdroi yn gyfangwbl) yn lle'r pwynt oedd o'n gefnogi. Mae hyn digwydd yn aml ar Maes-e. Os ti'n rhedeg allan o 'ffeithiau', ti'n symud y golposts. :rolio:

A Gorwel, dwi'n meddwl fod tithau yn gneud hynny hefyd (ond ddim yn fwriadol, achos dwi'n dy nabod mor hyfryd-pyfryd-hoffyffonig) :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Gorwel Roberts » Llun 28 Gor 2008 10:57 am

Mae Prys wastad yn good value ac yn defnyddio metaffors lliwgar iawn i ddarlunio ei bwyntiau. Nid yn unig ydw i'n 'ddeallusyn' dwi hefyd yn 'nazi' (ac yn 'ddeinasor' yn ol Reufeistr) am fy mod i ddim yn licio clywed bandiau Cymraeg yn canu yn Saesneg yn Sesiwn Fawr. Wel, rhydd i bawb ei farn, dim ond mynegi barn mae rhywun, dim byd mwy. Dwi'n hoff iawn o'r grwpiau sydd wedi cael eu henwi a dwi ddim yn dymuno dim drwg iddyn nhw, a dwi'n deall y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ar bob ochr i'r ddadl. Dwi bron a difaru codi'r mater hwn rwan ond mae o'n ffenomenon mae rhywun yn sylwi arno fo.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 28 Gor 2008 11:15 am

Prysor a ddywedodd:Mae'r syniad y dylem gadw'n hunain yn ddiwylliannol bur yn un yr ydw i'n sicr yn angyfforddus efo. Dyna yn union yw cynsail sawl athroniaeth gwleidyddol afiach yr ydym yn gyfarwydd ag o - heddiw ac yn hanesyddol.


A bod yn deg, nid dyna oeddw ni'n ei ddadlau. Dwi ddim o blaid cadw diwylliant yn "bur", jest deud o ni fod yna amser a lle i neud sets dwy-ieithog ac nid ar lwyfanau sy'n cael eu noddi gan arian prin diwylliant Cymraeg (nid dwyieithog) mae gwneud hynny.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan benni hyll » Llun 28 Gor 2008 11:19 am

Rhywun yn gwybod pam nad oedd Bryn Fon na Celt ar y rhaglen uchafbwyntiau dros y penwythnos? Er dyn nhw ddim at fy chwaeth i, oni'n gweld hi'n od bod 2 o'r artistiaid Cymraeg mwya yn y Sesiwn ddim i'w gweld yn unman...
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 28 Gor 2008 11:25 am

Reufeistr a ddywedodd:Dwi di sgwennu caneuon Saesneg a fyswni'n mwy na barod eu perfformio nhw'n sesiwn fawr a sdeddfod.
Wwwwww tydw i'n hen sais! Troi nghefn ar "yr hogia" aballu.

Ffwcio'r deinasoriaid.


Os basa ti yn fodlon eu perfformio yn 'steddfod a fydde ti hefyd yn fodlon peidio cael dy dalu gan mae diben nawdd gyhoeddus i'r steddfod ydy hybu diwylliant a cherddoriaeth Gymraeg nid Saesneg? Os wyt ti'n fodlon fforffedu dy siec er mwyn cael canu yn Saesneg yna mae dy ddadl yn gyson a wnai barchu hynny OND os wnei di barhau i dderbyn y siec sydd er diben hybu diwylliant a cerddoriaeth Gymraeg yna rwyt ti'n hypocrit by defenition.

Fe ddyliw ni bwysleisio eto mod i ddim yn erbyn hawl pobl i ganu'n Saesneg dwi jest ddim yn gyfforddus gyda pres prin y diwylliant Cymraeg yn mynd i ariannu setiau sy ddim yn Gymraeg. Ar ryw ystyr ro ni'n parchu penderfyniad y Poppies rai blynyddoedd yn ôl i beidio chwarae steddfod oherwydd nad oedde nhw'n gwneud setiau Cymraeg.

Yn swyddogol mae bandiau sy'n canu yn Saesneg yn torri contract ac ni ddylie nhw gael eu talu - dyna yw rheolau synnwyr cyffredin y steddfod - maen fater arall os oes digon o asgwrn cefn gan y trefnwyr i weinyddu'r cytundebau'n deg. Os ddim yna maen warth.

Fis Medi dwytha fe gadarnhaodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr y 'steddfod ei fod am wneud yn siwr na fydd bandiau yn canu yn Saesneg yn maes-b 2008.

doh! do ni rili ddim ishe mynd yn involved yn y ddadl ma eto leni :crio:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai

cron