18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Reufeistr » Llun 28 Gor 2008 12:20 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Os basa ti yn fodlon eu perfformio yn 'steddfod a fydde ti hefyd yn fodlon peidio cael dy dalu gan mae diben nawdd gyhoeddus i'r steddfod ydy hybu diwylliant a cherddoriaeth Gymraeg nid Saesneg? Os wyt ti'n fodlon fforffedu dy siec er mwyn cael canu yn Saesneg yna mae dy ddadl yn gyson a wnai barchu hynny OND os wnei di barhau i dderbyn y siec sydd er diben hybu diwylliant a cerddoriaeth Gymraeg yna rwyt ti'n hypocrit by defenition.


Na digon teg, os mai canu'n Saesneg fyswni isho neud, yna fyswni'm yn chwara'r gig. Holl udishi ydi, fysa gen i ddim problam moesol hefo canu'n Saesneg mewn gigiau megis Sesiwn Fawr a Steddfod.
A ma sawl yma'n awgrymu y dylia'r Cowbois Rhos Botwnnog hangio'i pennau mewn cywilydd am ganu cyfyr Saesneg yn Sesiwn Fawr, peidiwch a gwadu mai hynny yr oeddechi'n neud. Cytuno hefo pwy bynnag udodd bo chi'n symyd y goalposts trw ddeud wedyn mai dadl ynglyn a'r ariannu oedd o.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Gorwel Roberts » Llun 28 Gor 2008 12:57 pm

Benni Hyll a ddywedodd: "Rhywun yn gwybod pam nad oedd Bryn Fon na Celt ar y rhaglen uchafbwyntiau dros y penwythnos? Er dyn nhw ddim at fy chwaeth i, oni'n gweld hi'n od bod 2 o'r artistiaid Cymraeg mwya yn y Sesiwn ddim i'w gweld yn unman..."

anghytundeb efo'r cwmni teledu dwi'n meddwl.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan dilysdoris » Llun 28 Gor 2008 1:19 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi ddim o blaid cadw diwylliant yn "bur", jest deud o ni fod yna amser a lle i neud sets dwy-ieithog ac nid ar lwyfanau sy'n cael eu noddi gan arian prin diwylliant Cymraeg (nid dwyieithog) mae gwneud hynny.


O be dwi'n ddeall odd yr arian odd Sesiwn yn cael wrth S4C, Bwrdd yr Iaith ayyb yn reit bantslyd - lot llai na ma'r Faenol er enghraifft yn cael...sy'n codi cwestiwn diddorol arall os chi'n gofyn i fi: pam fo' gwyl fel Sesiwn Fawr yn goffod stryglan am cash rownd y ril pan ma' Bryn Tyrffel a'i griw i weld yn cael digonedd o'r stwff?

Eniwe, gerra grip...'mond un cân odd e, a lawr y clwb rygbi odd yr 'acshyn' i gyd pnawn sadwrn! :lol:
"odd y boi 'ma 'di dysgu shwt i rechen morse code...na beth yw ffordd ofnadw i ffindo mas bo' rhywun ffili sillafu!"
dilysdoris
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 06 Rhag 2005 8:05 pm
Lleoliad: caerdydd

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan løvgreen » Llun 28 Gor 2008 1:31 pm

Dwi'n meddwl bod na wahaniaeth rhwng sesiwn Fawr a'r Steddfod achos gwyl Gymraeg ydi'r Eisteddfod, efo rheol Gymraeg, a dyna holl bwrpas yr wyl. Mae unrhyw un sy'n mynd ati i dorri'r rheol a chanu yn Saesneg yn y Steddfod yn gwneud safiad gwleidyddol, faswn i'n ddeud.
Ond Gwyl gerddoriaeth ydi Sesiwn Fawr, a does na ddim rheol iaith. Mae pawb yn rhydd felly i wneud be lician nhw. Dwi'n gweld hi'n eironic bod y Cowbois yn cael eu beirniadu yn fwy na Gwibdaith, er bod y Cowbois wedi rhigo'u contract i fyny a chanu am ddim er mwyn helpu'r wyl yn ei thrafferthion ariannol.
Ta waeth, beryg na fydd raid i neb boeni am hyn flwyddyn nesa . :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Llun 28 Gor 2008 1:53 pm

Gorwel Roberts a ddywedodd:Mae Prys wastad yn good value ac yn defnyddio metaffors lliwgar iawn i ddarlunio ei bwyntiau. Nid yn unig ydw i'n 'ddeallusyn' dwi hefyd yn 'nazi' (ac yn 'ddeinasor' yn ol Reufeistr) am fy mod i ddim yn licio clywed bandiau Cymraeg yn canu yn Saesneg yn Sesiwn Fawr. Wel, rhydd i bawb ei farn, dim ond mynegi barn mae rhywun, dim byd mwy. Dwi'n hoff iawn o'r grwpiau sydd wedi cael eu henwi a dwi ddim yn dymuno dim drwg iddyn nhw, a dwi'n deall y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ar bob ochr i'r ddadl. Dwi bron a difaru codi'r mater hwn rwan ond mae o'n ffenomenon mae rhywun yn sylwi arno fo.


:D

Duwcs, cyfadda nei! Sa ti'n gneud SS Stormtooper da, Gor! :lol: :winc:

Na - godaist ti'r pwnc yn onest, a dyna dy farn personol. Dwi'n gwbod mai ti fysa'r person olaf ar y ddaear i orfodi dy farn ar unrhyw un arall. A dwi wedi jamio caneuon Susnag efo ti, lot o weithia, mewn pyb.

Y meddylfryd tu ôl i bregeth Gwyrosydd ydw i'n gyfeirio ato efo'r metaffor natsi 'ma. Dwi'm yn galw fo/hi na neb yn natsi, ac yn bendant dim chdi, fel ti'n gwbod. (er - ti'n mynd i gael y saliwt gena fi tro nesa dwi'n gweld chdi, wan! :winc: :P ).

Be dwi'n ddeud ydi nad yw bobol yn ystyried be mae nhw'n ddeud mewn gwirionedd. Mae nhw'n meddwl yn dda, ac ewyllys da tuag at yr iaith sydd tu ôl i be ma nw'n ddeud. Ond mae be mae nhw'n ddeud yn union run fath â syniadaeth Cenedlaetholdeb asgell dde. Dyma'r genedl, a dyma be da ni'n licio, mae unrhyw beth arall yn fradwrus, achos mae o'n 'ang-Nghymreig!'

Gyda llaw, Gor, dyna pam nes i nodi'r ffaith mai diwylliant rhyngwladol ydi roc a rol, nid diwylliant cynhenid. Dio'm byd Roc v Trad. Ma Gwyrosydd fel sa fo'n siarad fel fod o'n ang-Nghymreig i ganu can Susnag ynghanol set Gymraeg. Wel dydi roc a rol ddim yn rhywbeth Cymreig eniwe, nacdi? Mae o'n faes rhyngwladol sy'n cael ei gynnal trwy gyfrwng rhan fwya o ieithoedd y byd 'gorllewinol.'

Ar bob cyfri, da ni angen y sin roc Cymraeg. Mae o'n un o'r chydig elfennau o ddiwylliant poblogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, sydd wedi gwreiddio a ffynnu - yn esiampl i feysydd eraill, fel llenyddiaeth (er, da ni'n trio'n gorau yno :winc: ). Ma'r sin roc Cymraeg yn angenrheidiol, ond mi fydd o wastad yn adlweyrchiad o'r sîn ehangach, yn ogystal â sin Cymru.

Os di Gwyrosydd ddim yn licio'r ffaith fod pobol dwyieithog yn gallu mwynhau diwylliant trwy gyfrwng y Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg, ac felly, yn mynd i adlewyrchu'r ffaith hynny trwy chwara amball i gyfyr i gynulleidfa o ffans cerddoriaeth, mae hi i fyny iddo fo/hi. Ond mae deud fod rhywun yn ang-Nghymreig, neu yn 'gneud safiad gwleidyddol' oherwydd y cyfyr honno, yn ffycin nonsans llwyr. Sori, ond mae o rili angan ail-ddiffinio ei syniad o Gymreictod, a'i lusgo o'r oesodd canol cyn i'r aliens landio a'n byta'n brêns ni i gyd.

Mae'r 'safiad' wedi ei neud. Mae'r sin Gymraeg yn bodoli. Mae mwy a mwy o bobol yn ei fwynhau, a mae o'n tyfu ymhob ystyr o'r gair. 'Purdeb diwylliannol' ydi'r unig reswm, bellach, dros 'reol iaith' yn y sin Gymraeg (dwi'm yn son am Sdeddfod) a mae purdeb diwylliannol yn lwyth o ffycin bwlshit.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Mr Gasyth » Llun 28 Gor 2008 2:14 pm

løvgreen a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod na wahaniaeth rhwng sesiwn Fawr a'r Steddfod achos gwyl Gymraeg ydi'r Eisteddfod, efo rheol Gymraeg, a dyna holl bwrpas yr wyl. Mae unrhyw un sy'n mynd ati i dorri'r rheol a chanu yn Saesneg yn y Steddfod yn gwneud safiad gwleidyddol, faswn i'n ddeud.
Ond Gwyl gerddoriaeth ydi Sesiwn Fawr, a does na ddim rheol iaith. Mae pawb yn rhydd felly i wneud be lician nhw. Dwi'n gweld hi'n eironic bod y Cowbois yn cael eu beirniadu yn fwy na Gwibdaith, er bod y Cowbois wedi rhigo'u contract i fyny a chanu am ddim er mwyn helpu'r wyl yn ei thrafferthion ariannol.
Ta waeth, beryg na fydd raid i neb boeni am hyn flwyddyn nesa . :crio:


Cytuno efo pob gair.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Gorwel Roberts » Llun 28 Gor 2008 2:17 pm

vates going on, my gwledig? ok digon teg, bosib mod i'n rong am bob dim, dwi'n hen ffasiwn, dwi ddim yn with it, dwi ddim yn deall y trends modern 'ma, dwi'n cyfadda. dwi'n treulio fy amser hamdden yn chwarae miwisg telyn o'r canol oesoedd. sori cowbois rwy'n eich caru, gwibdaith hefyd a lyfgrin. gobeithio ein bod ni'n gallu son am y petha 'ma heb gwmpo mas
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan aronj89 » Llun 28 Gor 2008 2:35 pm

benni hyll a ddywedodd:Rhywun yn gwybod pam nad oedd Bryn Fon na Celt ar y rhaglen uchafbwyntiau dros y penwythnos? Er dyn nhw ddim at fy chwaeth i, oni'n gweld hi'n od bod 2 o'r artistiaid Cymraeg mwya yn y Sesiwn ddim i'w gweld yn unman...


Ddim yn cael yr arian oedde nhw eisiau amwni. Y siom fwyaf er hynny oedd nad oedd Derwyddon yn cael ei dangos. Dwi'n edrych ymlaen i'w gweld nhw yn fwy na neb yn y steddfod rwan.
Dwi'n tynnu fy het i'r bobl golygu wnaeth lwyddo i wneud chiz swnio yn dda hefyd drwy dorri darnau o ddwy gan a ploncio fo'n siarad yn y canol. Fyddai rywun ddim callach ei fod o'n uffernol onibai fod nhw yna, ond er hynny yn wych gan mai rhen chiz ydio :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Prysor » Llun 28 Gor 2008 3:03 pm

Gorwel Roberts a ddywedodd:gobeithio ein bod ni'n gallu son am y petha 'ma heb gwmpo mas


yndan siwr, be ti'n feddwl ydan ni? natsis? :lol:

Gorwel Roberts a ddywedodd:vates going on, my gwledig?


dim byd gwahanol i'r arfar, fy mhencerdd - jysd fi'n mynd rownd sir fon i gyrradd pen Llŷn

(dwi jysd yn tynnu arna chdi gyfaill mwyn, a thra mod i'n llymach fy nhafod/mys teipio efo Gwyrosydd, ma nhafod yn eitha cyfforddus yn fy moch hannar yr amsar yn fana hefyd).
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: 18.7.8 :Sesiwn Fawr Dolgellau

Postiogan Gwyrosydd » Llun 28 Gor 2008 3:08 pm

Prysor ddywedodd "Os di Gwyrosydd ddim yn licio'r ffaith fod pobol dwyieithog yn gallu mwynhau diwylliant trwy gyfrwng y Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg, ac felly, yn mynd i adlewyrchu'r ffaith hynny trwy chwara amball i gyfyr i gynulleidfa o ffans cerddoriaeth, mae hi i fyny iddo fo/hi. Ond mae deud fod rhywun yn ang-Nghymreig"...


Prysor - ti'n gwneud dadl i fyny:

Pryd ddywedais i nad ydy Cymry yn gallu mwynhau diwylliant trwy gyfrwng y Saesneg yn ogystal a'r Gymraeg? Ateb - wnes i ddim a fyswn i ddim.

Pryd ddywedais fod rhywun yn "ang-Nghymreig"? Ateb - wnes i ddim. Ti'n son am ddadl syniadaethol ynglyn a fy natganiad cyntaf - doedd dim dadl yno, dim beirniadaeth, dim gwleidyddiaeth, dim ond gosod darlun o beth ddigwyddodd.

Pryd ddywedais i ei bod yn 'fradwrus' i hoffi unrhywbeth ar wahan i ganu Cymraeg? Ateb - wnes i ddim.

Doed dim o'i le o gwbl mewn mwynhau cerddoriaeth o ba bynnag iaith na diwylliant na ran o'r byd. Yn wir, mae'n amhosibl peidio a dwi'n ei fwynhau! Nid dyna oedd fy mhwynt i o gwbl, darllen eto! Un peth yw perfformio a rhoi o'ch hun, peth arall ydy gwrando a gwylio.

Lovegreen - dwi ddim yn rhoi amser caled i'r Cowbois fel y cyfryw ac efallai mai annheg yw pigo arnyn nhw, os oedd grwpiau eraill - wel bydded felly. Ymateb i'r drafodaeth oeddwn i. Llongyfarchion iddynt os y bu iddynt wneud ffafr fawr a'r Sesiwn Fawr.

O ran y 'rheol iaith' - oes angen rheol eisteddfodaidd i wneud i ni fod eisiau canu yn y Gymraeg yn unig?
Un rheg yw fy mhader i.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyrosydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 05 Hyd 2004 12:59 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron